1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2022.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd digidol yng ngogledd Cymru? OQ57754
Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn yna, Llywydd. Darparwyd cysylltedd band eang ffeibr llawn i 9,200 o gartrefi a busnesau ledled y gogledd drwy ein buddsoddiad presennol o £56 miliwn. Mae cynlluniau Allwedd Band Eang Cymru a'r gronfa band eang lleol hefyd ar gael i wella cysylltedd band eang.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Ni fu cysylltedd digidol erioed yn bwysicach, ac mae angen gweithredu ar frys i sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl. Er mwyn i seilwaith band eang fod yn gost-effeithiol, bydd angen ei gynllunio yn gynhwysfawr gyda manteision hirdymor mewn golwg sy'n gwasanaethu pawb. Mae cymunedau ar draws y gogledd, gan gynnwys Cymru wledig, yn cael gwasanaeth annigonol gan ddarparwyr corfforaethol gan eu bod nhw'n cynnig llai o elw. Byddai gosod rhwydwaith o'r fath yn helpu i liniaru allgáu digidol, yn creu swyddi medrus ac yn denu diwydiannau uwch-dechnoleg. Yn Lerpwl, hyrwyddwyd prosiect menter ar y cyd gan faer metro dinas Lerpwl, Steve Rotheram, ac mae'r bartneriaeth hon yn golygu bod buddsoddiad cyhoeddus yn rhoi cyfran i'r awdurdod yn y sefydliad, ac, yn sgil hynny, yn hytrach na chael elw fel yr unig ystyriaeth, gall budd cymdeithasol, a'r cyhoedd barhau i elwa am flynyddoedd i ddod. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai prosiect menter ar y cyd o'r fath o fudd i'r cyhoedd yng Nghymru, ac a fyddai swyddogion yn fodlon ymchwilio i ddewis o'r fath i fwrw ymlaen yn ddynamig â chysylltedd digidol yn y gogledd, sy'n digwydd ar sail dameidiog ac araf iawn ar hyn o bryd? Diolch.
Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am hynna. Rwy'n falch o allu dweud wrthi fod swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfarfod â'r cwmni sy'n gweithio gyda'n cydweithiwr Steve Rotheram, yn ninas-ranbarth Lerpwl ac yn datblygu'r ateb arloesol iawn hwnnw ar gyfer y ddinas honno. Byddwn yn parhau i weithio drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sydd wedi gwneud cysylltedd digidol yn un o'u meysydd blaenoriaeth. Mae £25 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer cysylltedd digidol, ac fel y gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, ceir pedair elfen wahanol i'r cynllun y mae bargen twf y gogledd wedi ei ddatblygu: campysau cysylltiedig i wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc fynediad at fand eang; coridorau cysylltiedig i wneud yn siŵr bod busnesau yn gysylltiedig; safleoedd allweddol, cyhoeddus a phreifat; ac yna cyrraedd yr ychydig y cant olaf o bobl sydd ar y pen caletaf, mwyaf pell o gysylltedd digidol. Gellid gwasanaethu tri o'r pedwar diben hynny drwy drefniant o'r math a ddatblygwyd yn ninas-ranbarth Lerpwl, a byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda'r bwrdd uchelgais economaidd i weld a ellid trosglwyddo'r syniad a ddatblygwyd yn Lerpwl ac agweddau ar hwnnw, yn llwyddiannus yn rhan o'r ymdrech sy'n cael ei gwneud yn y gogledd.
Prif Weinidog, er bod BT wedi cael tua £220 miliwn i ddod â band eang cyflym iawn i tua 96 y cant o adeiladau rhwng 2014 a 2018, a bod y sefydliad yn rhedeg cynllun olynol ar hyn o bryd i gysylltu 39,000 o adeiladau, mae'n dal i fod yn ffaith bod safleoedd ledled Cymru sydd â rhyngrwyd annibynadwy. Ac yn fy etholaeth i, Aberconwy, mae gen i bobl nad ydyn nhw'n gallu dderbyn unrhyw wasanaeth. Felly, yn ôl Busnes Cymru, gall band eang cyflym iawn gael effaith gadarnhaol ar elw, costau cynhyrchiant staff, a llawer mwy. Nawr, o gofio'r budd na ellir ei wadu, un cam yr wyf i'n teimlo y gallech chi fel ein Prif Weinidog ei gymryd ar unwaith i ddarparu canolfan rhyngrwyd cyflym iawn i fusnesau yn Aberconwy yw addasu o leiaf ran o'r adeilad nad yw'n cael ei ddefnyddio yng Nghyffordd Llandudno—adeilad Llywodraeth Cymru—i ddod yn ganolfan gweithio digidol hyblyg. Nawr, fe wnaethoch chi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r syniad hwn ar 9 Tachwedd, felly byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny yn wych, oherwydd, dywedaf wrthych chi nawr, rwyf i wedi cael ymholiadau gan fusnesau a hoffai fynd i mewn i'r adeilad hwnnw. Ysgrifennais atoch chi ar 21 Ionawr, ac nid wyf i wedi cael ateb eto, felly byddai diweddariad yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch, Llywydd.
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod. Mae'n dda ei gweld hi'n gwneud ei rhan ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar feinciau'r Torïaid yn y Siambr hon. Bydd yn gwybod nad yw cysylltedd digidol a thelathrebu wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae pob ceiniog y mae'r Llywodraeth hon yn ei gwario yn y maes hwn yn geiniog yr ydym ni'n ei gwario oherwydd methiant ei Llywodraeth hi i fuddsoddi yn iawn yng Nghymru. Ac rwy'n cofio, Llywydd, fel y bydd pobl eraill, bod ei phlaid hi wedi mynd i etholiadau diwethaf y Senedd, ym mis Mai y llynedd, ag ymrwymiad maniffesto i beidio â gwario mewn meysydd nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Felly, er ei bod hi'n fy annog i wneud mwy, pe bai hi wedi bod—[Torri ar draws.]—pe bai hi wedi bod—[Torri ar draws.]—pe bai hi wedi bod mewn grym, nid yw'n debygol wrth gwrs, ond pe bai hynny wedi digwydd yma, ni fyddai unrhyw wariant o gwbl ar y mater hwn gan Lywodraeth Cymru, oherwydd dyna'r polisi a roddodd ei phlaid o flaen pobl Cymru, i gael ei wrthod, wrth gwrs, mor gynhwysfawr, a dyna pam yr ydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn band eang cyflym iawn ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys swyddfa Cyffordd Llandudno.
Fe wnes i ymateb yn gadarnhaol i'r Aelod. Rydym ni'n awyddus iawn i gael canolfannau gweithio o bell, lle gall pobl ddod, lle nad oes yn rhaid iddyn nhw deithio'r pellteroedd y bu'n rhaid iddyn nhw eu teithio yn y gorffennol, i ddysgu gwersi'r pandemig, ac i ddefnyddio adeiladau at fwy nag un diben—boed hynny yng nghyd-destun Cyffordd Llandudno, defnydd Llywodraeth Cymru ohono, ond efallai y bydd yn bosibl i'r adeilad gael ei ddefnyddio at ddibenion ehangach, gan gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, sefydliadau trydydd sector, partneriaid yn y sector preifat mewn nifer o'r canolfannau rydym ni wedi eu datblygu mewn mannau eraill yng Nghymru. Felly, mae hon yn rhaglen sy'n datblygu yn barhaus. Mae'n anochel, fel y gwn y bydd yr Aelod yn deall, bod rhai materion diogelwch ychwanegol y mae'n rhaid meddwl amdanyn nhw pan fyddwch chi'n caniatáu mynediad ehangach i adeilad lle mae gwybodaeth sensitif yn cael ei dosbarthu, a diogelwch staff a defnyddwyr eraill. Ond gallaf ei sicrhau bod y syniad sylfaenol yn un yr ydym ni'n parhau i feddwl amdano yn gadarnhaol ac yn dymuno bwrw ymlaen ag ef.
Rwy'n datgan buddiant fel aelod o gonsortiwm prosiect 5G y Pwyllgor Datblygu Economaidd—aelod di-dâl, Llywydd. Rydym ni wedi clywed am fanteision cymdeithasol sylfaen ffeibr llawn yn y gogledd, Prif Weinidog, ond mantais arall o gael y rhwydwaith hwnnw yn y gogledd yw'r gallu i fynd ymlaen a datblygu technoleg 5G ar gyfer y dyfodol, mewn cymunedau gwledig sydd efallai yn anodd eu cyrraedd gyda dulliau traddodiadol. Hoffwn weld y gogledd yn arweinydd byd-eang yn hyn o beth. Rydym ni wedi clywed eto lle mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi siomi'r gogledd o ran technoleg ffeibr llawn yn y maes hwn. Prif Weinidog, gwn fod swyddogion eisoes wedi cael sgyrsiau, ond a wnewch chi eu cyfarwyddo nhw i gael sgyrsiau pellach gyda Phrifysgol Bangor a'u partneriaid i ddatblygu'r math hwn o dechnoleg fel y gallwn ni ddod yn arweinydd byd-eang? A sut gall Llywodraeth Cymru gefnogi ymhellach, wrth ariannu'r mathau hyn o brosiectau, lle mae Llywodraeth Geidwadol y DU, a'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn methu â gwneud hynny?
Llywydd, mae honna yn enghraifft dda iawn y mae Jack Sargeant yn cyfeirio ati o'r union bwynt yr oeddwn i'n ei wneud yn gynharach, am y ffordd y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i mewn i wneud iawn am y diffyg buddsoddiad—nid dim ond diffyg buddsoddiad, ond diffyg diddordeb, Llywydd—i wneud yn siŵr bod gan rannau o'r gogledd y buddsoddiad sydd ei angen. Mae Jack Sargeant yn iawn, Llywydd—mae ein swyddogion eisoes wedi cael trafodaethau gyda'r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Mae'n brosiect arall lle mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi bod yn rhan o ddatblygiad y ganolfan, gan gynnwys rhai miliynau o bunnoedd mewn buddsoddiad ymarferol. Mae cais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei weld, ac y bydd yn ei ystyried, i ariannu gwaith ymchwil i 5G ac i ddarparu prosiectau band eang 5G, yn enwedig ar Ynys Môn, a bydd fy swyddogion, yn wir, yn parhau â'r trafodaethau hynny gyda'r ganolfan.