1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2022.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y gostyngiad yn niferoedd y deintyddion gweithredol yn y GIG yng Ngorllewin De Cymru? OQ57739
Llywydd, mae gostyngiad yn niferoedd deintyddion y GIG yng Ngorllewin De Cymru yn deillio yn bennaf o effaith newidiadau i ffiniau wrth adrodd data. Mae Brexit a phandemig COVID hefyd wedi lleihau lefel gyffredinol y gweithgarwch deintyddol ac mae hynny hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y ffigurau hyn.
Diolch. Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n gwasanaethu trigolion yn fy rhanbarth i, oedd y bwrdd iechyd â'r gostyngiad canrannol uchaf yn niferoedd y deintyddion GIG, gyda 22 y cant yn llai o ddeintyddion yn 2021, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Efallai fod effaith y pandemig a newidiadau i ffiniau yn rhannol gyfrifol am y sefyllfa hon, ond mae'r gostyngiad yn niferoedd y deintyddion GIG yn duedd hirsefydlog, ac mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn credu bod anhapusrwydd â chontractau deintyddol y GIG yn ffactor allweddol.
Mae'r Gweinidog iechyd wedi cyfaddef yn ei hateb i fy llythyr ar y mater hwn y bydd oediadau i gleifion newydd sy'n ceisio gofal rheolaidd, ond mae etholwyr sy'n gleifion cofrestredig yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n cael eu gwrthod os nad oes angen triniaeth frys arnyn nhw; mae cannoedd o bobl y mae'r argyfwng hwn wedi effeithio arnyn nhw wedi cysylltu â mi—cannoedd ohonyn nhw—a dywedodd un fam yng Ngorseinon, 'Mae gen i blentyn tair oed nad yw eto wedi cael ei ymweliad cyntaf erioed â deintydd. Bob tro y byddaf i'n galw, maen nhw'n dweud mai dim ond achosion brys y maen nhw'n gallu eu gweld.' Mae cleifion eraill yn dweud eu bod nhw wedi cael gwell triniaeth yn y sector preifat, a dywedwyd wrth rai cleifion y GIG hyd yn oed y byddan nhw'n cael eu gweld os byddan nhw'n talu.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod hyn yn gwbl annerbyniol, a chyda gofal deintyddol rheolaidd yn hanfodol i atal problemau iechyd y geg rhag digwydd yn y lle cyntaf, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r sgandal hon sy'n golygu bod cleifion, gan gynnwys plant, yn gorfod wynebu oediadau sylweddol, neu, mewn llawer o achosion, yn cael eu gwrthod yn llwyr?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gywiro'r cofnod ynghylch un peth pwysig a ddywedodd yr Aelod ar y cychwyn, pan awgrymodd fod y gostyngiad yn nifer y deintyddion yng Nghymru yn rhan o duedd hirdymor. Mewn gwirionedd, cynyddodd nifer y deintyddion sy'n darparu gofal GIG yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2006-07 a 2018-19, ac, yn 2018-19, aeth nifer y deintyddion a oedd yn gwneud gwaith GIG yng Nghymru yn uwch na 1,500 am y tro cyntaf. Felly, mewn gwirionedd, mae'r duedd hirdymor yn gwbl groes i'r un a awgrymodd yr Aelod.
Mae'r gostyngiad yn y niferoedd yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, yn enwedig yn ardal bae Abertawe, yn cael ei esbonio fwyaf—nid ei esbonio'n rhannol—yn cael ei esbonio fwyaf gan y newidiadau i'r ffiniau, oherwydd y bwrdd iechyd a welodd y cynnydd mwyaf yn niferoedd y deintyddion yw'r bwrdd iechyd a enillodd ardal Pen-y-bont ar Ogwr y bwrdd iechyd blaenorol. Dyna pam yr aeth y niferoedd i lawr yn y ffordd y gwnaethon nhw; roedd rhan gyfan o'r bwrdd iechyd nad oedd yn y bwrdd iechyd mwyach.
Ond y pwyntiau pwysig—y pwyntiau pwysig—yw'r rhai a wnaeth yr Aelod yn ail ran ei chyfraniad, oherwydd, wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld adferiad a thwf yng ngallu'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru i ddarparu ar gyfer mwy o bobl nag y mae'n gallu ar hyn o bryd. Mae'r pandemig yn parhau i gael mwy o effaith ar ddeintyddiaeth nag ar unrhyw ran arall o'r GIG, gan fod y triniaethau cynhyrchu aerosol hynny yn parhau i olygu nad yw deintyddion yn gallu gweld yr un faint o gleifion yr oedden nhw'n gallu eu gweld o dan amgylchiadau llai heriol.
'Sut byddwn ni'n mynd i'r afael â hynny?' mae'r Aelod yn gofyn, ac mae'n gwestiwn cwbl briodol. Wel, dyma dair ffordd. Yn gyntaf oll, wrth i ni ddod allan o'r pandemig, byddwn yn gweithio gyda'r proffesiwn fel y gallan nhw weld mwy o gleifion yn eu hadeiladau yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad sylweddol i ddeintyddion, er enghraifft, i wella awyru mewn practisau deintyddol fel y gallan nhw weld mwy o gleifion yn ddiogel.
Yn ail, byddwn yn cyflwyno trefn diwygio contractau, gan ddechrau, eto, o ddifrif ym mis Ebrill eleni. Byddwn yn cynnig dewis i ddeintyddion. Bydd gan aelodau Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ddewis. Byddan nhw'n gallu dewis y contract newydd, y contract gwell yn fy marn i, oherwydd bydd yn golygu bod deintyddion yn defnyddio eu sgiliau i'r graddau mwyaf posibl ac nad ydyn nhw'n gwneud cymaint o waith rheolaidd ac ailadroddus ag yn y gorffennol er mwyn ennill yr incwm y maen nhw'n ei ennill, ond bydd y rhai y mae'n well ganddyn nhw i'w practisau barhau i gael eu seilio ar unedau gweithgarwch deintyddol yn gallu dewis hynny hefyd. Rwy'n credu y bydd diwygio'r contractau o fudd hirdymor i'r proffesiwn ac i gleifion.
Ac yna'r drydedd ffordd, Llywydd, y byddwn ni'n mynd i'r afael â'r angen i gynyddu'r cyflenwad o ddeintyddiaeth GIG yng Nghymru yw rhyddfrydoli'r proffesiwn. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod cymysgedd sgiliau ehangach, fel nad oes gennym ni ddeintyddion sydd wedi'u hyfforddi yn dda iawn ac sydd wedi'u hyfforddi yn ddrud iawn yn gwneud gwaith nad oes angen lefel y sgiliau sydd gan y deintydd. A'r proffesiwn deintyddol, os wyf i'n onest yn ei gylch, fu'r arafaf o'r proffesiynau gofal sylfaenol i symud i'r cyfeiriad hwnnw. Mae ffyrdd y byddwn ni'n gallu buddsoddi mewn hyfforddi hylenwyr a therapyddion sy'n gallu, yn gwbl gymwys yn glinigol, o dan oruchwyliaeth deintydd, wneud mwy o waith heddiw nag y maen nhw'n ei wneud yn y rhan fwyaf o Gymru, a bydd hynny yn caniatáu i ni gael gwahanol fath o wasanaeth yma yng Nghymru yn y dyfodol.