Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 8 Mawrth 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf ynghylch map ffyrdd i gael gwared ar gyfyngiadau, gyda'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau'n cael eu codi ddiwedd y mis hwn. Mae hyn yn newyddion da a chadarnhaol iawn yn wir, ac, wrth gwrs, fel Ceidwadwyr Cymru, rydym ni wedi bod yn galw am hyn ers sawl wythnos. Felly, rwy'n falch bod y Llywodraeth nawr wedi darparu'r map ffyrdd hwn a llacio'r cyfyngiadau. Yr hyn yr hoffwn i ei ddeall, Gweinidog, yw, o ystyried eich beirniadaeth o Lywodraeth y DU ynghylch codi cyfyngiadau pan wnaethon nhw—ac rwy'n dyfalu y gallwch chi gynnwys Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn y modd hwnnw hefyd, wrth iddyn nhw gyhoeddi'r un peth ar yr un adeg—a wnewch chi egluro pa dystiolaeth yr ydych chi wedi'i gweld i wneud y newidiadau hyn? Oherwydd pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf i ddileu'r holl gyfyngiadau, gwnaethoch chi ddweud:
'Yn wahanol i Loegr... rydym ni'n hoffi dilyn yr wyddoniaeth yn hytrach na'r wleidyddiaeth yma yng Nghymru'.
Ac yna, dri diwrnod yn ddiweddarach, ar ôl dweud hynny, gwnaethoch chi'r un peth eich hun. Felly, a allwch chi egluro'r wyddoniaeth a newidiodd eich sefyllfa yn y tridiau hynny yr wythnos diwethaf? Ar ôl 28 Mawrth, Gweinidog, rwy'n falch iawn y byddwn ni'n gweld diwedd y cyfyngiadau. A gaf i ofyn i chi pryd yr ydych chi'n rhagweld y bydd y cylch adolygu tair wythnos yn dod i ben? A fydd hynny'n parhau am beth amser? Pryd yr ydych yn disgwyl cyrraedd pwynt lle na fydd y cylchoedd tair wythnos hynny'n digwydd mwyach?
Mae Grŵp Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar Argyfyngau yn dirwyn i ben. Efallai y byddwn i ond yn gofyn, a yw eich Llywodraeth yn gwneud yr un peth ar gyfer y gell cyngor technegol? Rwy'n sylweddoli y bydd rhai strwythurau'n dirwyn i ben ond y byddan nhw'n parhau'n segur. Mae elfennau o roi rhai o'r seilweithiau hyn mewn cyflwr segur, yn barod i ymateb—er nad ydym ni eisiau gweld hyn—pe bai'r cyfyngiadau'n dod yn ôl, neu os daw'r pandemig yn ôl ar unrhyw adeg hefyd. Ond mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod eich barn yn hynny o beth.
Byddai o ddiddordeb i mi wybod hefyd, Gweinidog, a yw Cabinet Llywodraeth Cymru wedi trafod a ddylai lefelau rhybudd COVID gael eu hailgyflwyno yn ystod y gaeaf nesaf, yn ystod misoedd y gaeaf hwnnw, pe bai achosion yn codi, yn enwedig o ystyried sylwadau'r Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf—ac nid wyf i'n anghytuno â'i sylwadau—nad yw'r pandemig ar ben ac y gallai fod amrywiadau mewn patrymau byd-eang am sawl blwyddyn i ddod. Rwy'n amlwg yn bryderus yma nad ydym ni eisiau bod mewn sefyllfa lle yr ydym ni nôl i gyfnod cyfyngiadau symud llawn y gaeaf nesaf, felly hoffwn i petai hynny'n cael ei dynnu oddi ar y bwrdd. Rwy'n gwerthfawrogi nad oes gennych chi bêl grisial, ond yr ydych chi'n gweithio ar ragdybiaethau ac yr ydych chi'n gweithio ar fodelu, ac yr ydym ni mewn lle gwahanol iawn i'r sefyllfa lle yr oeddem ni ynddi ym mis Mawrth 2020 gyda chymaint o ansicrwydd. A wnewch chi ddweud wrthyf i hefyd pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud nawr ar gyfer pandemigau yn y dyfodol, pe baen nhw'n codi, fel y byddai modd dysgu gwersi gwirioneddol am ledaeniad yn y gymuned a heintiau a gaiff eu trosglwyddo mewn ysbytai?
Rydym ni hefyd yn symud i gyfnod adfer o'r pandemig, ac o ystyried ei bod yn flwyddyn ers i'ch rhagflaenydd gyhoeddi cynllun adfer GIG Cymru, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod lle yr ydych chi arni o ran y canolfannau llawfeddygol sy'n rhydd o COVID-19 i helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr, nid oedd ffigurau aros yn dda o gwbl, gydag un o bob pedwar llwybr cleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth a 50,000 yn dal i aros am dros ddwy flynedd am driniaeth, sy'n syfrdanol. Roeddwn i'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ynglŷn â'r cynllun gaeaf ar gyfer canolfannau, ond nid ydym ni'n clywed llawer am hwn. O ystyried y ffaith ein bod ni allan o'r gaeaf yn dechnegol, lle mae byrddau iechyd arni o ran canolfannau sy'n rhydd o COVID-19, a pha amserlenni ydych yn gweithio iddyn nhw nawr er mwyn lleihau amseroedd aros blwyddyn a dwy flynedd? A fyddai modd i chi hefyd amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran sicrhau y bydd y grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn cael statws cyfranogiad craidd yn yr ymchwiliad cyhoeddus ledled y DU, o gofio bod Llywodraeth Cymru, yn hynod siomedig, wedi gwrthod cynnal ymchwiliad cyhoeddus i ystyried eich gweithredoedd yma yng Nghymru yn benodol?
Yn olaf—rwyf wedi gofyn hyn o'r blaen, a gobeithio y gallwch chi ateb y tro hwn—cyflwynodd Nicola Sturgeon a Boris Johnson eu cynlluniau i fyw gyda COVID a diwedd y cyfyngiadau i'w priod Seneddau, ond, yma yng Nghymru, gwnaed y sylwadau hynny'n gyntaf i newyddiadurwyr ac yna'n ddiweddarach yma yn ein Senedd. A wnewch chi egluro pam mae hyn yn parhau i ddigwydd yn rheolaidd? Diolch, Llywydd.