1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2022.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen ar awdurdodau lleol i weithredu'r trothwyon newydd ar gyfer llety hunanarlwyo sy'n gymwys ar gyfer ardrethi annomestig? OQ57756
Mae’r broses o asesu eiddo hunanarlwyo ar gyfer trethi lleol wedi’i hen sefydlu ac nid ydym yn disgwyl y bydd angen adnoddau ychwanegol ar awdurdodau lleol. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnal ailasesiadau rheolaidd i sicrhau bod eiddo'n parhau i fodloni'r meini prawf perthnasol, ac mae'n rhoi gwybod i awdurdodau lleol ynglŷn ag unrhyw newidiadau.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Gan ichi grybwyll y cynigion newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, nodaf y newid yn y meini prawf i lety hunanarlwyo fod yn agored i ardrethi busnes yn hytrach na thalu eu treth gyngor, ac felly hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar yr effaith y bydd hyn yn debygol o'i chael ar rôl cynghorau a'u rhan yn hyn o beth. Oherwydd mae'n debygol, wrth gwrs, mai cynghorau a swyddogion cyngor fydd y rhai a fydd yn gorfod sicrhau bod eiddo a landlordiaid yn glynu at yr hyn y dylent fod yn glynu ato, ac mai hwy yw'r rhai sy'n debygol o orfod monitro defnydd o eiddo dros yr amser hwn hefyd. Felly, wrth gwrs, bydd angen i swyddogion cynghorau a chynghorau ddefnyddio cryn dipyn o adnoddau i sicrhau bod hyn yn digwydd. Felly, tybed pa sgyrsiau yr ydych yn eu cael gyda chynghorau, a pha drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda chynghorau, ynglŷn â'u rôl yn sicrhau bod y cynigion a gyflwynwch i ddod i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, mwy na thebyg, a'r adnoddau sydd ganddynt yn gallu cefnogi'r cynigion hyn.
Diolch am eich cwestiwn. Gwnaethom ymgynghori’n eang iawn ynghylch y cynigion hyn, wedi i fwy na 1,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad ddod i law, ac yn amlwg, fe wnaethom eu hystyried yn ofalus cyn dod i’r casgliadau ar y newidiadau i’r meini prawf.
Fe ddywedaf mai Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith ar yr asesiadau a chydymffurfiaeth â meini prawf, ac rydym yn cyllido'r asiantaeth i wneud y gwaith hwnnw ac i gynnal asesiadau rheolaidd. Yn amlwg, gallai unrhyw ymgais i gamarwain yr asiantaeth, neu i ddarparu gwybodaeth ffug neu anghywir yn fwriadol, arwain at erlyniad neu dwyll, felly mae'r gofyniad i fusnesau wneud datganiadau cywir yn un difrifol iawn.
Rwyf am ddweud, ac mae’r Aelod wedi cyfeirio at y ffaith, na fydd y newidiadau hyn yn dod i rym tan fis Ebrill 2023, felly mae hynny’n rhoi digon o amser i’r newidiadau a’r goblygiadau gael eu hystyried gan y perchnogion eiddo a allai gael eu heffeithio. Ond mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio dîm penodol i ddilysu'r dystiolaeth a ddarparwyd am eiddo hunanarlwyo a rhestru cofnodion yng Nghymru. Mae'n cynnal hapwiriadau yn rheolaidd hefyd, ac yn ymchwilio i unrhyw bryderon a nodir. Felly, os bydd yr awdurdod lleol, neu aelodau’r cyhoedd yn wir, yn pryderu am y ffordd y caiff eiddo ei restru a’i ddefnyddio ac nad yw’r ddau beth o reidrwydd yn cyd-fynd â'i gilydd, gall yr unigolyn godi hynny gyda’r awdurdod lleol, a gallant hwy roi gwybod i'r asiantaeth, a fydd yn cynnal eu hymchwiliad.