Y Setliad Cyfalaf ar Gyfer Cyngor Sir Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:34, 9 Mawrth 2022

A dwi'n sicr yn cyd-fynd efo'r Gweinidog ar yr angen i sicrhau lefel uwch o wariant gyfalaf. Mae sicrhau cyllid cyfalaf ddigonol yn gwbl angenrheidiol er mwyn gallu buddsoddi yn y dyfodol. Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn, o dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, drac record arbennig yn ddiweddar wrth ddarparu eiddo ar gyfer busnesau ar yr ynys, er enghraifft efo buddsoddiad pwysig yn Llangefni ac yng Nghaergybi, ac mae yna gynlluniau pellach i fuddsoddi mewn ardaloedd eraill er mwyn sicrhau bod llewyrch yn cael ei ledaenu ar draws yr ynys, i ardal Amlwch, er enghraifft. Pa sicrwydd all y Llywodraeth ei rhoi y bydd Gweinidogion yn barod i weithio efo cyngor Môn i alluogi delifro ar gyfer cefnogi mwy o fusnesau a chreu mwy o swyddi ar yr ynys?