Y Setliad Cyfalaf ar Gyfer Cyngor Sir Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:33, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae’r fformiwla y cytunwyd arni ar gyfer dosbarthu cyfalaf heb ei neilltuo ar gyfer awdurdodau lleol yn ystyried ffactorau megis poblogaeth, hyd ffyrdd, teneurwydd poblogaeth a chyflwr y stoc dai. Roedd lefel y cyllid cyfalaf a gawsom gan Lywodraeth y DU yn siomedig ac nid yw’n ddigon i gyflawni ein huchelgeisiau i fuddsoddi yn nyfodol Cymru.