Cyfraddau Treth Cyngor

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 1:55, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae teuluoedd ledled Cymru gyfan yn wynebu un o’r argyfyngau costau byw mwyaf difrifol ers degawdau. Mae costau cynyddol, prisiau ynni cynyddol a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan yn golygu bod miloedd o aelwydydd yn fy rhanbarth yn ei chael hi'n anodd talu am eitemau bob dydd. Ac ym mis Ebrill, wrth gwrs, bydd costau ynni'n codi hyd yn oed ymhellach, bydd codiadau treth yn taro cartrefi, a ddoe, rhagwelodd Sefydliad Resolution sut y bydd y rhyfel ofnadwy yn Wcráin hefyd yn gwaethygu'r argyfwng hwn.

Ar hyn o bryd, sir Castell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth sydd â'r lefel dreth gyngor uchaf ond dwy yng Nghymru, ac mae wedi bod ag un o’r lefelau treth gyngor uchaf yng Nghymru ers dros 25 mlynedd. Mae llawer o fy etholwyr wedi dweud wrthyf pa mor annheg yw hyn yn eu barn hwy. Roedd setliad y gyllideb gan Lywodraeth Cymru i’r cyngor yn well nag arfer eleni, a byddai wedi bod yn bosibl torri’r dreth gyngor a buddsoddi yng ngwasanaethau’r cyngor hefyd. Cyflwynodd cynghorwyr Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol ar y cyngor gynnig ar y cyd i dorri'r dreth 2.75 y cant, a fyddai wedi gadael cronfeydd wrth gefn cyffredinol o bron i £18.5 miliwn i'r cyngor, yr uchaf yng Nghymru, ond gwrthodwyd hyn gan y cyngor a reolir gan Lafur.

Mae’r dreth gyngor yn effeithio’n anghymesur ar bobl ar incwm isel yn ein cymunedau, felly pa sgyrsiau y mae’r Gweinidog yn eu cael gydag arweinwyr cynghorau i sicrhau eu bod yn gwneud popeth a allant i gadw lefel y dreth gyngor mor isel â phosibl eleni? Ac a wnaiff y Llywodraeth ystyried galwad Plaid Cymru i ddileu dyled treth gyngor fel rhan o’n cynllun gweithredu ar yr argyfwng costau byw?