Cyfraddau Treth Cyngor

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 1:59, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi £175 miliwn i Gymru i helpu teuluoedd gweithgar yng Nghymru gydag achubiaeth ariannol i helpu i leddfu pwysau costau byw. [Torri ar draws.] 'Hwrê', yn hollol. Croesawaf benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr a darparu ad-daliad arian parod o £150 i gartrefi ym mandiau treth gyngor A i D, ac i greu cronfa ddewisol i roi cymorth pellach i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r cyllid ychwanegol hwn gan San Steffan, ac a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am eich trafodaethau gydag awdurdodau lleol ynglŷn â sut a phryd y bydd ad-daliad y dreth gyngor yn cael ei ddarparu i aelwydydd sydd eisoes yn teimlo’r pwysau ar eu cyllidebau dyddiol? Diolch.