Prynu Asedau Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:22, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Gwrandewais ar eich ateb ac rwy'n gobeithio eich bod wedi edrych ar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar rymuso cymunedau a oedd ac a ddylai fod wedi bod yn agoriad llygad i'r Llywodraeth, gan i'r adroddiad hwnnw ganfod mai cymunedau yng Nghymru yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf yn y DU. Mae hyn yn cyd-fynd â sgyrsiau a gefais yr wythnos hon, mewn gwirionedd, gyda rhywun sy'n ymwneud â'r prosiect i ailagor sefydliad y glowyr yn Abertyleri. Gyda dagrau yn eu llygaid, dywedodd yr unigolyn hwnnw wrthyf fod llawer o bobl yn anobeithio a'u bod yn credu na fyddai pethau'n newid yn eu cymuned. Mae'n anomaledd gwirioneddol fod gan bobl yng Nghymru lawer llai o hawliau dros eu hasedau cymunedol na chymheiriaid eraill yn yr Alban a hyd yn oed yn Lloegr, sydd, na foed ichi anghofio, yn cael ei llywodraethu gan Blaid Dorïaidd nad yw'n enwog yn draddodiadol am ddal datblygwyr yn ôl. Pryd y gall cymunedau yng Nghymru, gyda'u hysbryd cymunedol ysbrydoledig, fwynhau'r un hawliau â chymunedau ledled gweddill y DU?