Prynu Asedau Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:23, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais mewn ymateb i'r siaradwr blaenorol, rydym wedi cyflawni ein hymchwil ein hunain nad oedd yn dynodi angen am ateb deddfwriaethol. Ond rydym yn edrych gyda diddordeb ar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig yn ogystal â'r gwaith gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, 'Perchenogaeth gymunedol ar dir ac asedau: galluogi i dai a arweinir gan y gymuned gael eu darparu yng Nghymru', a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn hefyd. Felly, rydym yn edrych yn ofalus ar y ddau adroddiad i weld beth y gallwn ei ddysgu ganddynt. Ond rwy'n credu bod gennym waith rhagorol ar y gweill eisoes, ond mae'n fater o sut i sicrhau yn y ffordd orau mai dyna yw'r norm yn hytrach na'r eithriad.