2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2022.
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael o fewn Llywodraeth Cymru ac yn allanol i sicrhau bod bwyd a diod lleol ar gael mewn ysgolion, cartrefi gofal ac ysbytai? OQ57733
Rwyf wedi cael trafodaethau gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ac rwy'n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i sicrhau bod bwyd a diod gan gyflenwyr lleol ar gael mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y cawn ein hatgoffa'n aml gan Jenny Rathbone, mae cynifer o bethau cadarnhaol yn deillio o ailadeiladu economi fwyd leol: mae'n creu swyddi, mae'n wych i'r amgylchedd hefyd, ac mae cymaint o gyfleoedd busnes rhagorol yma, gan fod y galw lleol yn llawer mwy na'r cyflenwad lleol ar hyn o bryd. Rydym wedi cael ein hatgoffa eto yn ddiweddar, onid ydym, am bwysigrwydd peidio â bod yn orddibynnol ar fewnforio bwyd i'r wlad hon. Mae angen rhoi cyfle i bobl ifanc aros yn eu cymunedau a chael eu cefnogi gan sefydliadau'r sector cyhoeddus. Nawr, roedd fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth yn canmol cyngor Ynys Môn, soniodd fy nghyfaill Llyr Gruffydd am gyngor Caerfyrddin a Chyngor Gwynedd. Wel, Lywydd, rwyf am sôn am gyngor Ceredigion yn awr, oherwydd mae yna enghraifft wych pan wnaeth cyngor Ceredigion, dan arweiniad Plaid Cymru, yn siŵr mai'r cynnyrch lleol gorau a gâi ei gynnwys yn eu holl barseli bwyd i bobl agored i niwed yn ystod y pandemig COVID. Ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad pwysig yn y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru y bydd prydau ysgol am ddim yn defnyddio cynhwysion a gynhyrchir yn lleol, er budd i ffermydd a busnesau lleol ledled Cymru. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod mwy i'w wneud, felly a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y mater a sut y gallwn sicrhau bod bwyd lleol ar gael ac yn cael ei annog ledled Cymru ym mhob sector? Diolch yn fawr.
Rydych wedi mynd â fi yn ôl ddwy flynedd i'r nosweithiau di-gwsg oherwydd y blychau bwyd ar ddechrau'r pandemig COVID. Roedd yn waith gwych, ac rwy'n sicr yn talu teyrnged i gyngor Ceredigion. Fe wnaethant weithio'n ddygn i sicrhau eu bod yn defnyddio bwyd lleol, a chredaf ei bod yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei wneud i gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod rhagorol o Gymru yn llawer gwell.
Fe fyddwch wedi clywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn sôn am y gwaith y mae'n ei wneud ar gaffael mewn perthynas â chynyddu'r cyflenwad bwyd o Gymru yn ein prydau ysgol, er enghraifft drwy fframweithiau bwyd sector cyhoeddus Cymru y mae cyngor Caerffili wedi arwain arnynt, a'r haf diwethaf bûm mewn cyfarfod i weld beth arall y gallem ei wneud i ddarparu bwyd a diod o Gymru yn ein hysbytai. Rwy'n falch iawn o weld bod y gwaith hwnnw'n parhau i gael ei ddatblygu.
Ond rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais wrth Jenny Rathbone, a dweud y gwir. Rwy'n credu bod angen inni newid y ffordd yr ydym yn meddwl am dendro am fwyd, ac nid oes rhaid dewis yr opsiwn rhataf. Unwaith eto, cyfeiriodd Rebecca Evans at y ffaith ein bod yn ei chael hi'n anodd cael cyflenwr dofednod ar gyfer darpariaeth fwyd ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, mae gwaith sylweddol i'w wneud. Gwn ein bod, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, yn edrych ar sut y'i gwnawn ar gyfer prydau ysgol am ddim, ond credaf fod angen inni ei wneud ar draws y sector cyhoeddus ehangach hefyd.
Rai misoedd yn ôl, Weinidog, codais y Bil gyda chi a aeth drwy Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc ac a oedd yn ymwneud â chaffael lleol, ac yn benodol â gosod targedau i archfarchnadoedd gyrchu cynnyrch lleol. Mae Bil fy nghyd-Aelod Peter Fox yn mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd. Fe ddywedoch chi y byddech yn edrych ar y ddeddfwriaeth honno sydd bellach wedi'i phasio yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc. Ymddengys ei fod yn gyfrwng a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rwyf wedi bod yma ers bron i 15 neu 16 mlynedd bellach—gwn nad yw’n edrych fel hynny—[Chwerthin.]—ac nid wyf byth yn clywed unrhyw un yn anghytuno ynglŷn â chefnogi cynnyrch lleol, ond y gwir amdani yw bod mân welliannau wedi'u gwneud yma ac acw, ond nid oes unrhyw fomentwm cyffredinol y tu ôl i hyn, a chredaf y byddai cynnig deddfwriaethol fel yr un a gyflwynwyd gan y Ffrancwyr ac fel y mae fy nghyd-Aelod Peter Fox wedi'i gyflwyno yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y maes penodol hwn.
Credaf fy mod wedi bod yma am yr un faint o amser, felly nid wyf yn dweud dim. [Chwerthin.]
Rydych chi'n edrych yn well na fi. [Chwerthin.]
Fe wnaethom edrych ar y ddeddfwriaeth honno, ac yn sicr, mewn trafodaethau a gefais gyda Peter Fox—oherwydd, fel y gwyddoch, ni chefnogais Fil Peter, ond rydym yn cyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol. Felly, credaf fod gan Peter syniadau da iawn yr ydym yn awyddus i'w hymgorffori yn y strategaeth bwyd cymunedol, ac fe wnaethom edrych, fel y dywedwch, ar y ddeddfwriaeth honno. Ac rydych yn llygad eich lle, nid oes llawer o bobl yn anghytuno â, 'Mae'n rhaid inni wneud mwy, mae'n rhaid inni ddefnyddio mwy o gynnyrch lleol ac ati', ond credaf fod angen inni newid y meddylfryd hwnnw y soniais amdano mewn atebion cynharach sy'n mynnu bod yn rhaid mynd am y tendr rhataf. Nid ydym yn dymuno cael ein gorlethu â chig rhad; rydym am weld y cig o safon sydd gennym yma yng Nghymru, ond mae’n rhaid i bobl gydnabod bod hynny weithiau’n costio mwy. Felly, credaf fod hyn yn ymwneud â newid y meddylfryd hwnnw, ond yn sicr, wrth inni fwrw ymlaen â’r strategaeth bwyd cymunedol, ni chredaf fod angen newid y ddeddfwriaeth, credaf fod gennym yr offer i wneud hynny yn barod. Ond rydym yn edrych yn fanwl iawn ar yr hyn y mae Peter yn ei awgrymu, ynghyd â Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, mewn perthynas â'r strategaeth bwyd cymunedol.