5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:07, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

A ydych yn cydnabod mai pwerau'r comisiynwyr heddlu a throsedd yw'r datganoli y cyfeiriwch ato i Fanceinion, er enghraifft? Mae gennym y rheini yng Nghymru. Fodd bynnag, os ydych yn dal i sôn am uno'n un heddlu a chael pwerau yn y Llywodraeth, rydych yn sôn am wneud penderfyniadau gwleidyddol ynghylch cyflogi a diswyddo prif gwnstabliaid.