Ffoaduriaid o Wcráin

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 15 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:14, 15 Mawrth 2022

Rwy'n ddiolchgar i Sarah am godi'r pwnc yma heddiw. Rydym ni'n byw mewn cyfnod tywyll ar hyn o bryd, ac felly mae'n bwysig, dwi'n meddwl, i geisio chwilio am oleuni pan fo modd. Roedd adroddiad Andy Davies o Channel 4 ynglŷn â menter ffoaduriaid Affganistan yr Urdd yn dangos y goleuni yma i ni, gyda phlant a theuluoedd yn derbyn gofal cariadus a chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd er mwyn ceisio adeiladu bywyd newydd yma yng Nghymru. Roedd sôn yn yr adroddiad, Brif Weinidog, y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i weithredu menter debyg ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin. A fyddai modd i chi plis ddweud os ydy hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried, os gwelwch yn dda, yn ogystal ag os ydy Llywodraeth Cymru yn gallu ceisio helpu’r Urdd i ledu'r ymarfer da a welwyd gyda'r fenter lwyddiannus hon gyda sefydliadau a hefyd gwledydd eraill?