Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Mawrth 2022.
Dwi'n cytuno’n llwyr gyda’r Aelod am bwysigrwydd y gwaith roedd yr Urdd wedi ei wneud yng nghyd-destun Affganistan, ac wrth gwrs, maen nhw wedi dysgu lot o bethau sy'n mynd i fod yn help i ni nawr pan ŷn ni'n trio ymateb i anghenion pobl sy'n dod o Wcráin. Bydd yr Urdd yn rhan o’r trafodaethau sy'n mynd ymlaen yn ystod yr wythnos hon. Bydd rhaid i ni feddwl am nifer o bosibiliadau i roi cymorth i bobl sy'n mynd i ddod yma i Gymru. Mae'r profiadiau y mae’r Urdd wedi’u cael, a’r ffaith bod yr Urdd mor agored i rannu y profiadau maen nhw wedi eu cael, ac i helpu pobl eraill sy'n mynd i roi help hefyd, yn rhywbeth unigryw i ni yma yng Nghymru, ond yn rhywbeth ymarferol i ni hefyd.