1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Mawrth 2022.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau'r argyfwng costau byw ar gymunedau yng Nghanol De Cymru? OQ57777
Bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn etholaeth yr Aelod ei hun. Mae dadansoddiad diweddar gan sefydliadau fel Sefydliad Joseph Rowntree, Sefydliad Bevan a'r Resolution Foundation wedi dod i'r casgliad y bydd y flwyddyn i ddod yn arbennig o heriol i'r aelwydydd hynny ar incwm isel.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwyf wedi gweithio yn y Rhondda i gefnogi ein cymunedau ers 20 mlynedd. Nid wyf erioed wedi teimlo mor bryderus na dig ag yr wyf i'n teimlo ar hyn o bryd. Mae trigolion yn fy etholaeth i yn wynebu argyfwng costau byw heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae teuluoedd sy'n byw mewn tlodi wedi cael eu taflu i dlodi dyfnach, ac mae teuluoedd sy'n gweithio yn profi tlodi am y tro cyntaf. Nid wyf yn siŵr a yw Aelodau ar feinciau'r Torïaid wedi clywed oddi wrth etholwyr sy'n methu â throi eu gwres ymlaen na rhoi bwyd ar y bwrdd, ond os ydyn nhw, a wnawn nhw roi gwybod i'w cydweithwyr yn San Steffan sydd wedi colli gafael ar yr hyn sy'n digwydd? Gallant geisio ei guddio mewn unrhyw ffordd y dymunan nhw, ond gadewch i ni beidio â thin-droi ynghylch hyn: nid argyfwng costau byw yw hwn, mae hwn yn argyfwng costau byw Torïaidd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan naill ai'n rhy anghymwys i ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael iddyn nhw i gefnogi teuluoedd, neu eu bod yn gwbl galon-galed ac wedi gwthio ein cymunedau'n fwriadol i dlodi, neu'r ddau?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n sylwi, Llywydd, pryd bynnag yr aiff unrhyw beth o'i le ar feinciau'r Ceidwadwyr, caiff hyn ei drin fel pe bai rywsut yn waith Duw nad oes ganddyn nhw gyfrifoldeb drosto o gwbl. Y ffaith eu bod nhw wedi bod mewn grym ers dros ddegawd, degawd o gyni, Llywydd, pryd bob tro—[Torri ar draws.] Fe'u clywaf yn gweiddi—
A gaf i glywed ymateb y Prif Weinidog? Rwy'n siŵr y byddech chi'n cael eich goleuo o'i glywed ac yr hoffech ei glywed. A wnewch chi barhau?
Rwy'n eu clywed yn gweiddi, Llywydd, oherwydd nid oes ganddyn nhw ddim byd arall y gallan nhw ei wneud dim ond gwneud sŵn i geisio cuddio gwirionedd eu hanes eu hunain—degawd o gyni, a gefnogir wythnos ar ôl wythnos ar lawr y Senedd hon gan Aelodau'r grŵp Ceidwadol yma. Dyna sydd y tu ôl i'r argyfwng costau byw—degawd pan gafodd budd-daliadau eu cadw i lawr, pan yr oedd cyflogau'n cael eu cadw i lawr. Mae pobl mewn sefyllfa na fydden nhw wedi bod ynddi fel arall oni bai am yr argyfwng costau byw a gafodd ei greu gan y Blaid Geidwadol; ni fydden nhw wedi bod yn y sefyllfa y maen nhw ynddi heddiw. Ac yna, ar ben hynny, mae gennych chi greulondeb y toriad mewn credyd cynhwysol ddiwedd y llynedd—y toriad cywilyddus hwnnw: cymerwyd £1,000 i ffwrdd yn fwriadol, wedi'i dynnu oddi ar y teuluoedd tlotaf yn y wlad yn fwriadol. Sut y credwch chi y gallwch chi amddiffyn y penderfyniad hwnnw yng ngoleuni'r hyn y bydd pobl yn ei wynebu o'r mis nesaf ymlaen, 'wn i ddim. Ym mis Ebrill, Llywydd, bydd budd-daliadau yn codi 3.1 y cant, penderfyniad gan y Llywodraeth Geidwadol. Bydd chwyddiant yn codi 7 y cant ym mis Ebrill a gall gyrraedd 9 y cant neu 10 y cant yn ystod y flwyddyn. Ar ei ben ei hun bydd hynny'n tynnu £300 ar ben y £1,000 allan o bocedi'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru. Nid oes rhyfedd bod pobl yn etholaeth yr Aelod yn gofyn iddyn nhw eu hunain ai anallu neu falais sydd y tu ôl iddo.