10. Dadl Fer: Adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant: Tasg angenrheidiol neu amhosibl?

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 5:35, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Janet Finch-Saunders, Tom Giffard a Darren Millar.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i drafod y pwnc hwn, sy'n agos at fy nghalon. Mae angen help ar ein trefi glan môr. Rydym wedi goruchwylio eu dirywiad yn rhy hir o lawer. Ffurfiwyd llawer o'n trefi glan môr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roeddent ar eu hanterth yn ystod teyrnasiad y Frenhines Victoria, a hyd at y 1970au a'r 1980au. Mae hynny'n sicr yn wir am y dref fwyaf o'r fath yn fy etholaeth i, sef y Rhyl. 

Mae fy nghysylltiad â'r dref yn un hir. Cefais fy magu yn y Rhyl, ond roedd fy nheulu'n byw yno o'r adeg cyn iddi fod yn dref. Enwyd Stryd Williams oddi ar Ffordd y Dyffryn ar ôl teulu fy hen hen fam-gu, a oedd yn byw yn yr ardal honno yn y 1800au. Ffurfiai eu bythynnod y rhes a ddaeth yn Stryd Williams yn ddiweddarach. Ganed fy nhad-cu mewn tŷ teras ar Ffordd y Dyffryn ym 1927. Mae fy nheulu wedi bod yn berchnogion nifer o fusnesau yn y dref, ac wedi bod yn aelodau gweithgar o'r gymuned. 

Rwy'n dal i fod yn aelod balch o glwb rotari'r Rhyl, sy'n cynnal traddodiad balch fel un o'r clybiau rotari hynaf yng Nghymru, ar ôl cael ei siarter ym 1926. Mae'n ddiogel dweud bod fy nheulu wedi bod yn dyst i enedigaeth a threigl bywyd y Rhyl, ac yn anffodus, maent wedi bod yn dyst i'w dirywiad hefyd. Ond nid wyf am eistedd yn segur a gwylio tranc y dref sydd yn fy ngwaed, yn rhan o fy nhreftadaeth—y Rhyl, neu dylwn ddweud 'sunny Rhyl', fel y mae'r taflenni gwyliau'n disgrifio'r dref, a hynny'n gwbl briodol. Credir iddi gael ei henwi ar ôl y maenordy, Tŷ'n Rhyl, ar Ffordd y Dyffryn, a ddeilliodd yn ei dro o Tŷ'n yr Haul—felly 'sunny Rhyl'. Mae'n debyg mai cred yw llawer o hynny, ond dyna rwy'n dewis ei gredu, beth bynnag.

Tyfodd y dref yn y 1800au diolch i'w 3 milltir o draethau tywod a'r gred Fictoraidd yn rhinweddau iachusol awyr y môr. Yn wir, y gred hon a ddenodd y bardd Fictoraidd enwog, Gerard Manley Hopkins, i'r Rhyl am bum niwrnod er lles ei iechyd. Roedd Hopkins, a oedd hefyd yn offeiriad Jeswitaidd, wedi treulio tair blynedd yng Ngholeg Sant Beuno yn Nhremeirchion ar ddiwedd y 1870au. Yn ystod ei arhosiad yn y Rhyl yr ysgrifennodd y gerdd 'The Sea and the Skylark'.

Dyfodiad y rheilffordd ym 1848 a gyflymodd boblogrwydd a thwf y dref. Daeth yn gartref i bier glan môr cyntaf Cymru ym 1867, creadigaeth wych a gostiodd £15,000 i'w hadeiladu ar y pryd. Roedd yn 2,335 troedfedd o hyd ac yn 11 troedfedd uwchben y llanw uchel. Yn wreiddiol, roedd yn cynnwys rheilffordd pier ac yn cynnig gwibdeithiau llongau ager i gyrchfannau eraill yng Nghymru ac i Lerpwl.

Profodd atyniadau eraill, yn cynnwys bwytai, ystafelloedd te, safle seindorf, siopau a baddonau preifat, yn dipyn o atyniad i bobl ar eu gwyliau yn ystod Oes Victoria, o ogledd-orllewin Lloegr yn bennaf. Yn drasig, dioddefodd y pier gyfres o drychinebau. Ym mis Rhagfyr 1883, achosodd sgwner y Lady Stuart ddifrod helaeth iddo, a arweiniodd at golli 183 troedfedd o'r pier. Ym 1891, bu'n rhaid achub 50 o bobl pan darodd llong ager o'r enw Fawn y pier. Ym 1901, dinistriwyd y pafiliwn gan dân a chaewyd rhan o'r pier. Achosodd cyfres o stormydd ym 1909 i ran arall o'r pier gwympo. Erbyn 1913 roedd y pier yn anniogel a chafodd ei gau, yn anffodus. Bu'n adfail nes i gyngor y Rhyl ei gaffael yn y 1920au. Dymchwelwyd y pen pellaf ond ailddatblygwyd y pen ger y lan gan gynnwys adeiladu amffitheatr. Ailagorodd y pier ym 1930 ac arhosodd felly tan 1966, pan gafodd ei gau eto am resymau diogelwch. Erbyn hynny prin 330 troedfedd oedd ei hyd. Yn anffodus, dymchwelwyd y pier ar sail diogelwch ymhell cyn i mi gael fy ngeni, a gwelwyd tynged y pier fel rhywbeth a oedd yn symbol o ddirywiad y dref, ochr yn ochr â dymchwel adeilad gwreiddiol Theatr y Pafiliwn ym 1974. 

Credir bod teithio tramor rhatach wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, gostyngiad a gyflymodd yn ystod y 1970au a'r 1980au. Arweiniodd y gostyngiad at ddirywiad yn ffyniant y dref. Rhoddodd llawer o fusnesau lleol y gorau i fasnachu, gan gynnwys busnesau fy nheulu i. Ers 2007, mae nifer yr unedau gwag yng nghanol tref y Rhyl wedi dyblu, ac mae'r dref wedi colli nifer o siopau mawr. Nid yw'n fawr o syndod felly fod y Rhyl bellach yn gartref i rai o'r wardiau tlotaf yng Nghymru, os nad y DU, ond er hynny, mae'n dal i fod yn gyrchfan gwyliau poblogaidd sy'n denu ymwelwyr o bob rhan o'r DU. Ond ni allwn gystadlu â gwyliau tramor rhad. Efallai nad yw Benidorm yn meddu ar yr un swyn â'r Rhyl na'i golygfeydd ardderchog, ond gall fanteisio ar heulwen a dyfroedd cynnes bron iawn drwy'r amser. Nid yw'n brifo eich bod yn gallu cael awyren o Fanceinion i Alicante ac yn ôl yn rhatach nag y gallwch gael trên i'r Rhyl. Efallai fod angen i Trafnidiaeth Cymru ateb y broblem honno. Gyda mwy a mwy o gwmnïau hedfan rhad yn ymddangos sy'n cynnig teithiau hedfan i gyrchfannau pell am y nesaf peth i ddim, sut y gall ein trefi glan môr obeithio cystadlu? 

Mae'r dirywiad a welais yn y Rhyl i'w weld hefyd mewn trefi eraill ar hyd arfordir Cymru, ac yn anffodus, nid yw Llywodraethau ar bob lefel wedi cymryd camau digonol i atal y dirywiad hwn. Mae teitl y ddadl hon yn codi cwestiwn: a yw adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant yn dasg angenrheidiol neu amhosibl? Nid wyf yn credu ei bod yn dasg amhosibl. Yn sicr, ni fydd yn hawdd, ond os gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd—llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â'r diwydiant hamdden a theithio—gallwn gystadlu â theithio tramor. Gallwn roi trefi glan môr fel y Rhyl yn ôl ar y map cyrchfannau. Mae angen inni feddwl yn greadigol, gweithio gyda'n gilydd ac yn gydweithredol i werthu manteision ein trefi glan môr i bob cwr o'r byd, a gweithio i helpu i greu cynnig drwy gydol y flwyddyn a gweithio i arloesi ac arallgyfeirio ein trefi glan môr.

Mae ein trefi glan môr ar gyrion rhai o olygfeydd gorau'r byd. Mae'r Rhyl, er enghraifft, dafliad carreg oddi wrth fryniau Clwyd, sydd, wrth inni siarad, yn ceisio dod yn barc awyr dywyll rhyngwladol. Gallwn ddenu ymwelwyr o bob cwr o'r byd nid yn unig i ryfeddu at ein traethau, ein bryniau, ein hafonydd a'n cymoedd, ond hefyd ein golygfeydd heb eu hail o'r ffurfafen. Mae gennym beth o'r harddwch naturiol gorau yn y byd. Rydym yn genedl sydd wedi ein trwytho mewn hanes, yn llawn o lên gwerin wych a mytholeg ddofn, ond rydym yn echrydus am ei werthu, a dyna'r broblem. Nid yw ein dinasyddion ein hunain yn ymwybodol o'r trysorau ar garreg eu drws, felly sut y gallwn ddisgwyl i bobl o fannau pellach wybod amdanynt?

Efallai na allwn ail-greu'r galw Fictoraidd am awyr glan y môr—nid wyf yn twyllo fy hun ac mae amser yn symud yn ei flaen—ond fe allwn ac mae'n rhaid inni werthu manteision ein trefi glan môr. Rhaid inni integreiddio ac adnewyddu ein marchnadoedd hamdden a thwristiaeth, hyrwyddo ein bwyd a'n diod rhagorol. Ni allwn ei wneud yn rhatach ond gallwn ei wneud yn well. [Torri ar draws.] Ac eirin Dinbych tra byddwn wrthi—pam lai? Roedd yn siom i rai o'r Aelodau na soniais am hynny yn yr araith, felly dyna ni. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn, ac yn helpu i adfywio ac ailfywiogi ein trefi glan môr, o'r Rhyl i'r Rhws, o Borthcawl i Brestatyn. Diolch yn fawr.