– Senedd Cymru am 5:35 pm ar 16 Mawrth 2022.
Symudaf yn awr i ddadl fer heddiw, a galwaf ar Gareth Davies i siarad am y pwnc y dewiswyd ganddo.
Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel er mwyn i'r Aelod allu gwneud ei gyfraniad.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Janet Finch-Saunders, Tom Giffard a Darren Millar.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i drafod y pwnc hwn, sy'n agos at fy nghalon. Mae angen help ar ein trefi glan môr. Rydym wedi goruchwylio eu dirywiad yn rhy hir o lawer. Ffurfiwyd llawer o'n trefi glan môr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roeddent ar eu hanterth yn ystod teyrnasiad y Frenhines Victoria, a hyd at y 1970au a'r 1980au. Mae hynny'n sicr yn wir am y dref fwyaf o'r fath yn fy etholaeth i, sef y Rhyl.
Mae fy nghysylltiad â'r dref yn un hir. Cefais fy magu yn y Rhyl, ond roedd fy nheulu'n byw yno o'r adeg cyn iddi fod yn dref. Enwyd Stryd Williams oddi ar Ffordd y Dyffryn ar ôl teulu fy hen hen fam-gu, a oedd yn byw yn yr ardal honno yn y 1800au. Ffurfiai eu bythynnod y rhes a ddaeth yn Stryd Williams yn ddiweddarach. Ganed fy nhad-cu mewn tŷ teras ar Ffordd y Dyffryn ym 1927. Mae fy nheulu wedi bod yn berchnogion nifer o fusnesau yn y dref, ac wedi bod yn aelodau gweithgar o'r gymuned.
Rwy'n dal i fod yn aelod balch o glwb rotari'r Rhyl, sy'n cynnal traddodiad balch fel un o'r clybiau rotari hynaf yng Nghymru, ar ôl cael ei siarter ym 1926. Mae'n ddiogel dweud bod fy nheulu wedi bod yn dyst i enedigaeth a threigl bywyd y Rhyl, ac yn anffodus, maent wedi bod yn dyst i'w dirywiad hefyd. Ond nid wyf am eistedd yn segur a gwylio tranc y dref sydd yn fy ngwaed, yn rhan o fy nhreftadaeth—y Rhyl, neu dylwn ddweud 'sunny Rhyl', fel y mae'r taflenni gwyliau'n disgrifio'r dref, a hynny'n gwbl briodol. Credir iddi gael ei henwi ar ôl y maenordy, Tŷ'n Rhyl, ar Ffordd y Dyffryn, a ddeilliodd yn ei dro o Tŷ'n yr Haul—felly 'sunny Rhyl'. Mae'n debyg mai cred yw llawer o hynny, ond dyna rwy'n dewis ei gredu, beth bynnag.
Tyfodd y dref yn y 1800au diolch i'w 3 milltir o draethau tywod a'r gred Fictoraidd yn rhinweddau iachusol awyr y môr. Yn wir, y gred hon a ddenodd y bardd Fictoraidd enwog, Gerard Manley Hopkins, i'r Rhyl am bum niwrnod er lles ei iechyd. Roedd Hopkins, a oedd hefyd yn offeiriad Jeswitaidd, wedi treulio tair blynedd yng Ngholeg Sant Beuno yn Nhremeirchion ar ddiwedd y 1870au. Yn ystod ei arhosiad yn y Rhyl yr ysgrifennodd y gerdd 'The Sea and the Skylark'.
Dyfodiad y rheilffordd ym 1848 a gyflymodd boblogrwydd a thwf y dref. Daeth yn gartref i bier glan môr cyntaf Cymru ym 1867, creadigaeth wych a gostiodd £15,000 i'w hadeiladu ar y pryd. Roedd yn 2,335 troedfedd o hyd ac yn 11 troedfedd uwchben y llanw uchel. Yn wreiddiol, roedd yn cynnwys rheilffordd pier ac yn cynnig gwibdeithiau llongau ager i gyrchfannau eraill yng Nghymru ac i Lerpwl.
Profodd atyniadau eraill, yn cynnwys bwytai, ystafelloedd te, safle seindorf, siopau a baddonau preifat, yn dipyn o atyniad i bobl ar eu gwyliau yn ystod Oes Victoria, o ogledd-orllewin Lloegr yn bennaf. Yn drasig, dioddefodd y pier gyfres o drychinebau. Ym mis Rhagfyr 1883, achosodd sgwner y Lady Stuart ddifrod helaeth iddo, a arweiniodd at golli 183 troedfedd o'r pier. Ym 1891, bu'n rhaid achub 50 o bobl pan darodd llong ager o'r enw Fawn y pier. Ym 1901, dinistriwyd y pafiliwn gan dân a chaewyd rhan o'r pier. Achosodd cyfres o stormydd ym 1909 i ran arall o'r pier gwympo. Erbyn 1913 roedd y pier yn anniogel a chafodd ei gau, yn anffodus. Bu'n adfail nes i gyngor y Rhyl ei gaffael yn y 1920au. Dymchwelwyd y pen pellaf ond ailddatblygwyd y pen ger y lan gan gynnwys adeiladu amffitheatr. Ailagorodd y pier ym 1930 ac arhosodd felly tan 1966, pan gafodd ei gau eto am resymau diogelwch. Erbyn hynny prin 330 troedfedd oedd ei hyd. Yn anffodus, dymchwelwyd y pier ar sail diogelwch ymhell cyn i mi gael fy ngeni, a gwelwyd tynged y pier fel rhywbeth a oedd yn symbol o ddirywiad y dref, ochr yn ochr â dymchwel adeilad gwreiddiol Theatr y Pafiliwn ym 1974.
Credir bod teithio tramor rhatach wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, gostyngiad a gyflymodd yn ystod y 1970au a'r 1980au. Arweiniodd y gostyngiad at ddirywiad yn ffyniant y dref. Rhoddodd llawer o fusnesau lleol y gorau i fasnachu, gan gynnwys busnesau fy nheulu i. Ers 2007, mae nifer yr unedau gwag yng nghanol tref y Rhyl wedi dyblu, ac mae'r dref wedi colli nifer o siopau mawr. Nid yw'n fawr o syndod felly fod y Rhyl bellach yn gartref i rai o'r wardiau tlotaf yng Nghymru, os nad y DU, ond er hynny, mae'n dal i fod yn gyrchfan gwyliau poblogaidd sy'n denu ymwelwyr o bob rhan o'r DU. Ond ni allwn gystadlu â gwyliau tramor rhad. Efallai nad yw Benidorm yn meddu ar yr un swyn â'r Rhyl na'i golygfeydd ardderchog, ond gall fanteisio ar heulwen a dyfroedd cynnes bron iawn drwy'r amser. Nid yw'n brifo eich bod yn gallu cael awyren o Fanceinion i Alicante ac yn ôl yn rhatach nag y gallwch gael trên i'r Rhyl. Efallai fod angen i Trafnidiaeth Cymru ateb y broblem honno. Gyda mwy a mwy o gwmnïau hedfan rhad yn ymddangos sy'n cynnig teithiau hedfan i gyrchfannau pell am y nesaf peth i ddim, sut y gall ein trefi glan môr obeithio cystadlu?
Mae'r dirywiad a welais yn y Rhyl i'w weld hefyd mewn trefi eraill ar hyd arfordir Cymru, ac yn anffodus, nid yw Llywodraethau ar bob lefel wedi cymryd camau digonol i atal y dirywiad hwn. Mae teitl y ddadl hon yn codi cwestiwn: a yw adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant yn dasg angenrheidiol neu amhosibl? Nid wyf yn credu ei bod yn dasg amhosibl. Yn sicr, ni fydd yn hawdd, ond os gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd—llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â'r diwydiant hamdden a theithio—gallwn gystadlu â theithio tramor. Gallwn roi trefi glan môr fel y Rhyl yn ôl ar y map cyrchfannau. Mae angen inni feddwl yn greadigol, gweithio gyda'n gilydd ac yn gydweithredol i werthu manteision ein trefi glan môr i bob cwr o'r byd, a gweithio i helpu i greu cynnig drwy gydol y flwyddyn a gweithio i arloesi ac arallgyfeirio ein trefi glan môr.
Mae ein trefi glan môr ar gyrion rhai o olygfeydd gorau'r byd. Mae'r Rhyl, er enghraifft, dafliad carreg oddi wrth fryniau Clwyd, sydd, wrth inni siarad, yn ceisio dod yn barc awyr dywyll rhyngwladol. Gallwn ddenu ymwelwyr o bob cwr o'r byd nid yn unig i ryfeddu at ein traethau, ein bryniau, ein hafonydd a'n cymoedd, ond hefyd ein golygfeydd heb eu hail o'r ffurfafen. Mae gennym beth o'r harddwch naturiol gorau yn y byd. Rydym yn genedl sydd wedi ein trwytho mewn hanes, yn llawn o lên gwerin wych a mytholeg ddofn, ond rydym yn echrydus am ei werthu, a dyna'r broblem. Nid yw ein dinasyddion ein hunain yn ymwybodol o'r trysorau ar garreg eu drws, felly sut y gallwn ddisgwyl i bobl o fannau pellach wybod amdanynt?
Efallai na allwn ail-greu'r galw Fictoraidd am awyr glan y môr—nid wyf yn twyllo fy hun ac mae amser yn symud yn ei flaen—ond fe allwn ac mae'n rhaid inni werthu manteision ein trefi glan môr. Rhaid inni integreiddio ac adnewyddu ein marchnadoedd hamdden a thwristiaeth, hyrwyddo ein bwyd a'n diod rhagorol. Ni allwn ei wneud yn rhatach ond gallwn ei wneud yn well. [Torri ar draws.] Ac eirin Dinbych tra byddwn wrthi—pam lai? Roedd yn siom i rai o'r Aelodau na soniais am hynny yn yr araith, felly dyna ni. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn, ac yn helpu i adfywio ac ailfywiogi ein trefi glan môr, o'r Rhyl i'r Rhws, o Borthcawl i Brestatyn. Diolch yn fawr.
Nawr, rwy'n falch iawn o gynrychioli etholaeth sydd â nifer o drefi glan môr—Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy, Deganwy, Llandudno a Bae Penrhyn—ac mae Llandudno'n enwog ledled Cymru fel brenhines y cyrchfannau Cymreig, a'r rheswm am hynny yn fy marn i yw ein busnesau twristiaeth a lletygarwch gwych. Rydym wedi llwyddo, fel tref, i gadw ein rhinweddau Fictoraidd, diolch i gymorth a chadwraeth Ystadau Mostyn. Ond trwy gydol y pandemig, cefais fy syfrdanu gan benderfyniad ein busnesau a'u buddsoddiad yn ein tref. Mae pier hanesyddol Llandudno, yr hiraf yng Nghymru, wedi gweld ffrwydrad o fusnesau newydd, gweithgareddau a lliw, gydag olwyn Ferris o ben arall y wlad yn cael ei gosod. Ac maent hefyd wedi cael cyfres lwyddiannus iawn ar ITV Wales a ddarlledwyd yn genedlaethol.
Mae blaen sawl gwesty wedi'u hailbeintio yn barod i groesawu'r tymor newydd o bobl ar eu gwyliau, ac mae gennym bellach gadwyni cenedlaethol fel Travelodge a Premier Inn sydd hefyd wedi ymsefydlu yn y dref. Mae ein stryd fawr yn croesawu siopau, tafarndai a bwytai newydd. Mae'r buddsoddiad anhygoel hwn gan y sector preifat yn dangos eu bod eisoes yn gweithio i adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant, ar ôl mynd drwy bopeth y maent wedi mynd drwyddo gyda'r pandemig. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ddirprwy Weinidog: beth fyddwch chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru i'w cefnogi yn y genhadaeth hon? Diolch.
Diolch i Gareth Davies am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon, ac nid wyf yn siŵr a yw ein cymunedau arfordirol bob amser yn cael y sylw y maent yn ei haeddu. Felly, diolch i chi am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Nid wyf yn credu bod munud yn ddigon o amser i fyfyrio ar amrywiaeth eang ein cymunedau arfordirol ar draws fy rhanbarth i, sef Gorllewin De Cymru. Ond fel Gweinidog yr wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig dros dwristiaeth, teimlaf y byddwn ar fai pe na bawn yn sôn am y bygythiad cliriaf i'r cymunedau hyn yn fy rhanbarth—
Byddai treth twristiaeth Llywodraeth Cymru yn gwbl ddinistriol i'r cynnig twristiaeth mewn cymunedau fel Gŵyr, y Mwmbwls a Phorthcawl yn fy rhanbarth i. Ar ôl ychydig flynyddoedd eithriadol o anodd, yn hytrach nag annog mwy o ymwelwyr i ddod i'n cymunedau arfordirol, ymddengys mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw eu trethu yn lle hynny.
Ar ôl imi godi'r mater hwn yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, mae'n amlwg o ateb y Prif Weinidog yn awr, oherwydd cyfyngiadau'r dreth honno, y gallai'r union gymunedau hyn orfod ysgwyddo'r baich o drethu eu hymwelwyr a pheidio â gweld unrhyw arian ychwanegol yn cael ei wario wedyn yn y gymuned honno o gwbl. Mae dadl arferol Llafur a Phlaid Cymru, 'Mae'n gweithio i Fenis felly pam na fyddai'n gweithio i Borthcawl?' wedi ei hateb yn glir iawn bellach, Ddirprwy Lywydd: mae Fenis yn gweld budd ariannol o'u treth dwristiaeth; efallai na fydd Porthcawl.
Diolch i Gareth Davies am gyflwyno'r ddadl hon. Mae eisoes wedi mynd â ni ar daith i'r Rhyl, ac rydym hefyd wedi bod ar daith i Aberconwy a'r cyrchfannau gwych yno. Ond hoffwn fynd â chi i ymweld â lleoedd yn fy etholaeth fy hun: Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Towyn a Bae Cinmel—cyrchfannau gwych, a nifer ohonynt yn cystadlu â Rhyl a Phrestatyn i lawr y lôn.
Ond mae tynged pob un o'r cyrchfannau hyn, fel y dywedwyd eisoes, yn dibynnu llawer iawn ar y diwydiant twristiaeth, ac a bod yn onest, bydd y twristiaid sensitif i brisiau sy'n dod i fwynhau atyniadau glan môr rhad Towyn a Bae Cinmel yn dewis mynd i rywle arall os oes gwahaniaeth yn y prisiau rhwng y lleoedd hardd ar arfordir y gogledd y gall pobl ymweld â hwy a mannau eraill. Felly, rhaid inni wneud yr hyn a allwn i wrthsefyll yr argymhelliad erchyll ar gyfer treth dwristiaeth yma yng Nghymru.
Un pwynt bach arall: rwyf o'r farn y gellir gwrthdroi dirywiad ein trefi glan môr a'u hadfywio. Clywsom eisoes gan Janet Finch-Saunders am ei phrofiad yn Llandudno. Wel, mae Bae Colwyn wedi troi cornel hefyd. Mae wedi gweld buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn ei hamddiffynfeydd arfordirol, sydd wedi gwella'r arfordir yn fawr ac wedi creu traeth newydd. Ond ar ben hynny, mae wedi ailddyfeisio ei hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi profi dadeni fel canolbwynt digwyddiadau a chwaraeon gogledd Cymru. A chredaf mai oherwydd ei bod wedi bwrw iddi i ddatblygu'r syniad hwnnw y bu'n llwyddiant. Dim ond drwy edrych am fwlch yn y galw a mynd ati i'w lenwi y gall y trefi twristiaeth, y cyrchfannau glan môr y buom yn sôn amdanynt heddiw, wella eu ffyniant. Felly, rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r Rhyl, Prestatyn a'r holl drefi glan môr eraill y buom yn sôn amdanynt heddiw wrth iddynt geisio dilyn llwyddiant Bae Colwyn.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf nad wyf yn y Siambr gyda chi; rydych chi'n swnio fel pe baech chi i gyd yn cael amser hwyliog iawn yno.
Mae'r ffordd y defnyddiwn drefi a'n rhesymau dros ymweld â hwy wedi newid ac mae canol ein trefi'n addasu i set newydd o alwadau. Mae dibyniaeth y gorffennol ar fanwerthu wedi'i thanseilio gan dwf siopa ar-lein. Roedd y tueddiadau'n glir hyd yn oed cyn y pandemig, ac mae COVID wedi cyflymu'r newid. Gwyddom fod arnom angen gwell swyddi a gwasanaethau yng nghanol trefi, lle y gall pobl gael gafael arnynt heb orfod mynd i mewn i'r car. Mae angen inni feddwl yn wahanol am ein trefi. Mae angen inni ganolbwyntio arnynt fel mannau lle'r ydym yn cyfarfod, yn gweithio ac yn treulio amser hamdden. Os gallwn arallgyfeirio'r hyn sy'n cael ei gynnig yng nghanol trefi, byddwn yn denu pobl yn ôl iddynt. Felly, rhaid canolbwyntio ar adfywio, adeiladu lleoedd ac ailddyfeisio. Ac wrth gwrs, mae'r heriau hyn yn arbennig o anodd yn rhai o'n trefi arfordirol, sy'n chwarae rôl ddeuol y ganolfan leol ochr yn ochr â dibyniaeth ar dwristiaeth. Mae lleoliadau arfordirol yn dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth ar gyfer swyddi. Yng Nghonwy, sir Benfro ac Ynys Môn mae tua 22 y cant o gyflogaeth yn y sector twristiaeth. Mae natur dymhorol gwaith yn lleihau effaith gwariant lleol, gan arwain at dangyflogaeth, tlodi a diffyg llesiant cymdeithasol.
Mae ymchwil wedi dangos sut y mae'r pandemig yn cael effaith negyddol ar economïau trefi arfordirol. Soniodd Gareth Davies mewn ffordd ffwrdd-â-hi am y twristiaid sydd, yn ymadrodd Darren Millar, yn sensitif i brisiau, am effaith prisiau a hedfan i Alicante o Fanceinion yn hytrach na dal trên i'r Rhyl. Mae'r ffordd yr ydym wedi caniatáu i bris trafnidiaeth gyhoeddus godi o'i gymharu â mathau eraill o drafnidiaeth yn broblem wirioneddol, ond mae honno'n broblem a achoswyd gan Lywodraethau olynol yn y DU nad ydynt wedi buddsoddi'n ddigonol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, ac fel y nodwyd gennym yn y ddadl yr wythnos diwethaf, mae Cymru'n wynebu £5 biliwn o danariannu yn sgil ymyrraeth HS2, a phe baem yn cael ein £5 biliwn, gallem effeithio'n sylweddol ar bris a dibynadwyedd gwasanaethau trên ar draws arfordir gogledd Cymru, ac rwy'n ailadrodd eto fy apêl i ni weithio gyda'n gilydd i geisio cael Llywodraeth y DU i newid ei meddwl ar hynny.
Mae angen inni fanteisio i'r eithaf hefyd ar botensial ein hasedau arfordirol naturiol, gan ddiogelu marchnadoedd tai lleol, gwasanaethau lleol, cymunedau a'r iaith Gymraeg at yr un pryd. Ddirprwy Lywydd, rhoddodd Llywodraeth y DU y gorau i gronfa cymunedau'r arfordir, ond yma yng Nghymru rydym wedi parhau i roi cymorth penodol i drefi arfordirol, gan fuddsoddi £6 miliwn arall fis Mawrth diwethaf i gefnogi 27 o brosiectau sy'n canolbwyntio ar greu a diogelu swyddi ac adfywio'r stryd fawr yng nghanol trefi arfordirol. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu pecyn cymorth gwerth £136 miliwn i ganol trefi, ac mae'r buddsoddiad hwn i gefnogi canol ein trefi, gan gyflawni prosiectau cyfalaf mawr i addasu eiddo gwag a thir yng nghanol trefi ledled Cymru at ddibenion gwahanol, wedi'i seilio yn y bôn ar alluogi lleoedd i esblygu ac arallgyfeirio. Un prosiect gwych yr ymwelais ag ef fis Medi diwethaf yw gofod cydweithio Costigan yn y Rhyl, lle'r ydym wedi cefnogi'r gwaith o drawsnewid tafarn led-adfeiliedig ger gorsaf drenau'r dref, man amlwg yn y dref, yn ofod busnes o ansawdd uchel ar gyfer cydweithio—prosiect gwych.
Mae ein hegwyddor 'canol y dref yn gyntaf', sydd wedi'i hymgorffori yng nghynllun datblygu cenedlaethol Cymru, 'Cymru'r Dyfodol', yn sicrhau mai canol trefi a dinasoedd a ddylai fod yn ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad ynghylch lleoli gweithleoedd a gwasanaethau, ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn edrych ar ddyfodol canol ein trefi: un gan Archwilio Cymru ac un arall a gomisiynais gan yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion, 'Small Towns, Big Issues'. Mae'r ddau adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i weithio gyda chymunedau i newid pethau yng nghanol trefi ac i roi diwedd ar ddibyniaeth ar geir. Ac rydym yn gwneud hynny. Rwyf wedi sefydlu grŵp o randdeiliaid allanol i ddarparu mewnbwn a her ac i weithio drwy'r hyn sydd ei angen i alluogi newid, gan gymell datblygiadau yng nghanol y dref, ond gan ddatgymell unrhyw ddatblygiad y tu allan i'r dref sy'n anghyson â'r nod hwnnw hefyd. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon fel cyfle i edrych ar ffyrdd o gefnogi ac adfywio ein trefi a'n dinasoedd, gan ddeall bod yr heriau a'r cyfleoedd yn ddeinamig ac yn gymhleth, ac mae hyn yn cynnwys ein cymunedau arfordirol. Diolch.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.