Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch i Gareth Davies am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon, ac nid wyf yn siŵr a yw ein cymunedau arfordirol bob amser yn cael y sylw y maent yn ei haeddu. Felly, diolch i chi am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Nid wyf yn credu bod munud yn ddigon o amser i fyfyrio ar amrywiaeth eang ein cymunedau arfordirol ar draws fy rhanbarth i, sef Gorllewin De Cymru. Ond fel Gweinidog yr wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig dros dwristiaeth, teimlaf y byddwn ar fai pe na bawn yn sôn am y bygythiad cliriaf i'r cymunedau hyn yn fy rhanbarth—