1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2022.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OQ57781
Mae ein rhaglen lywodraethu'n nodi uchelgeisiau clir i sicrhau Cymru fwy llewyrchus a mwy cyfartal a chreu canlyniadau gwell i bobl. Rwy’n gweithio gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau bod ymrwymiadau'r rhaglen yn cael eu llunio a’u cyflawni gyda threchu tlodi ac anghydraddoldeb yn nod canolog.
Diolch. Fel y gwyddoch, ym mis Rhagfyr 2018, nododd Sefydliad Joseph Rowntree mai Cymru, o bedair gwlad y DU, sydd wedi bod â'r gyfradd tlodi uchaf yn gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf. Roeddent yn dweud ym mis Tachwedd 2020 fod bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi cyn y coronafeirws hyd yn oed. A fis Mai diwethaf, dywedodd cynghrair Dileu Tlodi Plant y DU mai Cymru sydd â’r gyfradd waethaf o dlodi plant o bob gwlad yn y DU. Pa ystyriaeth y byddwch yn ei rhoi, felly, i'r adroddiad 'Poverty Trapped' fis Tachwedd diwethaf gan John Penrose AS, sy’n dadlau bod Prydain gyfan wedi methu trechu tlodi oherwydd y ffocws ar drin y symptomau yn hytrach na'r achosion strwythurol ac mai
'ateb gwell fyddai gwella cyfleoedd i bawb, gan eu harfogi â'r sgiliau a'r agweddau i achub ar gyfleoedd pan fyddant yn codi fel y gallwch gael mwy o reolaeth dros eich llwybr mewn bywyd.'
Mae’n adroddiad sydd wedi cael cefnogaeth nifer o arbenigwyr, gan gynnwys yr athro symudedd cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerwysg, a ddywedodd:
'Mae hwn yn adroddiad difrifol ar bwnc a ddylai fod yn gymhelliant canolog i unrhyw un sy'n ymhél â gwleidyddiaeth: sut y mae creu cymdeithas lle y gall pawb achub ar gyfleoedd, beth bynnag fo'u cefndir?'
Diolch, Mark Isherwood. Wel, fe wyddoch mai'r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi yw'r pwerau dros y system dreth a lles sydd gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn gwneud popeth a allwn i leihau effeithiau tlodi a chefnogi'r rheini sy'n byw mewn tlodi. Ac fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'n cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ar gyfer 2022, gyda'r taliad o £200, a gynorthwyodd deuluoedd i dalu eu costau ynni a chadw eu cartrefi’n gynnes, yn ogystal â'r uwchgynhadledd costau byw a gadeiriais ar 17 Chwefror, gydag amryw o randdeiliaid, fel y gallem nid yn unig fynd i'r afael â'r argyfwng byrdymor, uniongyrchol yn sgil toriadau lles yn arbennig, a chodi trethi o ganlyniad i weithredoedd eich Llywodraeth, ond i edrych hefyd ar y ffordd ymlaen mewn perthynas ag anghenion a pholisïau tymor canolig a mwy hirdymor i drechu tlodi, ac edrych yn ofalus ar ganfyddiadau ein hadolygiad tlodi plant wrth eu hystyried ochr yn ochr â thystiolaeth ynglŷn â'r hyn sy’n gweithio i Gymru mewn perthynas â threchu tlodi.
Prif achos tlodi yw cyflogau isel ac oriau afreolaidd. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen gwrthdroi’r toriad creulon i'r credyd cynhwysol a rhoi diwedd ar gontractau ecsbloetiol—diswyddo ac ailgyflogi—a bod pawb yn cael y cyflog byw gwirioneddol fan lleiaf?
Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Fis Hydref diwethaf, gwnaeth penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â'r codiad o £20 yr wythnos i'r credyd cynhwysol i ben orfodi miloedd o aelwydydd ledled Cymru i fywyd mewn tlodi. Hefyd, gyda rhagolygon y bydd chwyddiant yn cyrraedd 7 y cant, cafodd y cynnig i gymeradwyo’r cynnydd o 3.1 y cant yn unig mewn taliadau budd-daliadau lles o fis Ebrill ymlaen ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin, a chyda chefnogaeth lawn yr ASau Ceidwadol mae'n rhaid imi ddweud. Ond mae'r hyn a ddywedwch yn wir ynglŷn â sicrhau hefyd ein bod yn gweithio i wella lefelau cyflog ac yn mynd i'r afael â chontractau ecsbloetiol. Mae'n hanfodol ein bod yn arwain drwy esiampl fel cyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig, ac yn sicrhau hefyd, drwy ein gwaith teg a'n partneriaeth gymdeithasol, ein bod yn mynd i'r afael â'r contractau ecsbloetiol hynny hefyd.