Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch am eich atebion hyd yn hyn, Weinidog. Hoffwn groesawu'n gynnes y £100 ychwanegol a roddir i bob teulu sydd â hawl i'r grant datblygu disgyblion - mynediad. Mae'n cael croeso mawr gan deuluoedd yng Nghwm Cynon, a ledled Cymru, rwy'n siŵr, yr wythnos hon. A gaf fi ofyn, Weinidog, beth sy'n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r gronfa ychwanegol honno, ac yn arbennig i gefnogi teuluoedd sydd â rhwystrau ieithyddol neu heb fynediad at TGCh, oherwydd mae'r broses ymgeisio ar ei chyfer yn un ar-lein?