Yr Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 2:07, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, diolch i'r pandemig, ac i ryfel anghyfreithlon Putin yn Wcráin yn awr, mae prisiau bwyd a thanwydd bellach yn codi'n gyflymach nag y gwnaethant ers yr ail ryfel byd, gan orfodi mwy o deuluoedd i fyw mewn tlodi, sydd, fel erioed, yn cael yr effaith fwyaf ar blant. Weinidog, mae llawer wedi'i wneud o'r cymorth i deuluoedd ar fudd-daliadau, ond ychydig iawn a ddywedwyd am gymorth i deuluoedd sy'n gweithio. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet a Llywodraeth y DU ynghylch y camau y gallwch eu cymryd i helpu teuluoedd sydd dan bwysau? Er enghraifft, a ydych wedi trafod camau y gallwch eu cymryd gyda gofal plant a lleihau aflonyddu ar ysgolion, fel nad oes rhaid i rieni sy'n gweithio'n galed boeni am gymryd absenoldeb di-dâl i ofalu am eu plant?