Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn ganolog i ddatganoli yng Nghymru. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn diogelu cydymffurfiaeth â hawliau'r confensiwn a phleidleisiodd pobl Cymru drosti ddwywaith mewn refferenda. O gofio bod Llywodraeth San Steffan yn honni ei bod yn parchu refferenda, mae'n syndod y gallent fod yn fodlon cael gwared ar y pŵer hwn i bobl Cymru allu dwyn Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon i gyfrif.
Os bydd Llywodraeth San Steffan yn gweithredu ei newidiadau arfaethedig, sy'n golygu na fydd angen i is-ddeddfwriaeth y DU fod yn gydnaws â hawliau'r confensiwn mwyach ac na ellir ei herio mwyach drwy adolygiad barnwrol, Gwnsler Cyffredinol, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried pa effaith y byddai hynny'n ei chael ar statws cyfraith Cymru? Diolch yn fawr.