Cronfa Indemniad Cyfreithwyr

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:47, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn trafod dyfodol y gronfa indemniad cyfreithwyr gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Chymdeithas y Cyfreithwyr. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr bwrdd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ym mis Tachwedd. Rydym yn cyfarfod eto yn ddiweddarach y mis hwn, ar 26 Ebrill rwy'n credu, i drafod eu camau nesaf arfaethedig yn dilyn eu hymgynghoriad diweddar.