Cronfa Indemniad Cyfreithwyr

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:48, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gwnsler. Gwn eich bod yn ymwybodol iawn o natur y proffesiwn yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Mae gennym weithwyr ac ymarferwyr cyfraith proffesiynol sy'n heneiddio. Mewn ardaloedd fel Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae dros 60 y cant o'r cyfreithwyr cyfraith droseddol sy'n weithredol dros 50 oed, a cheir canran uchel o ddeisyfyddion yn yr ardaloedd hyn hefyd. Nawr, mae'r gronfa indemniad cyfreithwyr yn darparu amddiffyniad gwirioneddol i ddefnyddwyr, ond hefyd i'r proffesiwn cyfreithiol ei hun. Heb ddewis amgen dichonadwy, ac nid oes dewis amgen dichonadwy yn cael ei grybwyll ar hyn o bryd, gallai cau'r gronfa gael effaith enfawr ar y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru ac ar y cyhoedd yng Nghymru. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau y bydd ef a swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn atgoffa'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn garedig fod yna broffesiwn cyfreithiol y tu hwnt i Lundain a'r dinasoedd mawr? Diolch yn fawr.