Canllawiau Gweithio Gartref

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:51, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Y rheswm rwy'n ei ofyn yw oherwydd, fis diwethaf, gofynnodd AS Ceidwadol Aberconwy i Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn yn Nhŷ'r Cyffredin egluro y dylai gweision sifil Llywodraeth y DU sy'n gweithio yng Nghymru ddilyn y rheolau a nodwyd gan Lywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chanllawiau ar weithio gartref. Ond fel rydych newydd ei ddweud, Llywodraeth Cymru sy'n gosod y canllawiau ar gyfer gweithwyr yng Nghymru. Hefyd, cawsom Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud yn ddiweddar y byddai'n well ganddo pe na bai Cymru wedi gallu gosod ein rheolau ein hunain oherwydd:

'Byddem wedi gweld mwy o ddealltwriaeth gyhoeddus'.

A ydych yn cytuno â mi, Gwnsler Cyffredinol, mai ASau Ceidwadol mewn gwirionedd sy'n mynd ati'n fwriadol ac yn anghyfrifol i hau dryswch ynglŷn â hyn, yn enwedig pan ganfu arolwg diweddar gan YouGov ei bod yn gwbl glir fod y cyhoedd yng Nghymru yn deall ac yn cefnogi'r dull a fabwysiadwyd yng Nghymru o fynd i'r afael â COVID?