Pwll Glo Aberpergwm

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:53, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Mae adran 26A o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo awdurdodiadau cloddio a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Glo cyn iddynt ddod yn weithredol. Cafodd pwll glo Aberpergwm ei awdurdodiad cyfreithlon cyn i'r pwerau gael eu cyflwyno yn 2018. Ni châi Gweinidogion Cymru ymyrryd yn y broses drwyddedu.