Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Mae annog ymgysylltu efo pwyllgorau'n elfen bwysig o waith ymgysylltu'r Senedd, a hynny er mwyn sicrhau, wrth gwrs, fod barn y cyhoedd yn cael ei adlewyrchu yn ein trafodaethau. Yn ystod y pandemig, mi lwyddwyd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy raglen ymgysylltu rithwir, yn cynnwys grwpiau ffocws a digwyddiadau ar-lein eraill, ac wrth i ni symud yn ôl i'r byd ôl-bandemig, rydyn ni'n datblygu cynlluniau i sicrhau bod ein gwaith ymgysylltu ar-lein yn ategu ein gwaith wyneb-yn-wyneb traddodiadol, ac mae gwaith yn digwydd rŵan i ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau amrywiaeth ehangach o bobl a grwpiau rydyn ni'n ymgysylltu efo nhw er mwyn sicrhau bod profiadau bywyd pobl ym mhob rhan o Gymru yn ganolog i'n gwaith ni.