3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2022.
4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ar sut mae'n annog cyfranogiad y cyhoedd ym mhwyllgorau'r Senedd? OQ57792
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Mae annog ymgysylltu efo pwyllgorau'n elfen bwysig o waith ymgysylltu'r Senedd, a hynny er mwyn sicrhau, wrth gwrs, fod barn y cyhoedd yn cael ei adlewyrchu yn ein trafodaethau. Yn ystod y pandemig, mi lwyddwyd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy raglen ymgysylltu rithwir, yn cynnwys grwpiau ffocws a digwyddiadau ar-lein eraill, ac wrth i ni symud yn ôl i'r byd ôl-bandemig, rydyn ni'n datblygu cynlluniau i sicrhau bod ein gwaith ymgysylltu ar-lein yn ategu ein gwaith wyneb-yn-wyneb traddodiadol, ac mae gwaith yn digwydd rŵan i ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau amrywiaeth ehangach o bobl a grwpiau rydyn ni'n ymgysylltu efo nhw er mwyn sicrhau bod profiadau bywyd pobl ym mhob rhan o Gymru yn ganolog i'n gwaith ni.
Diolch yn fawr am eich ateb, Gomisiynydd. Rwy’n ddiolchgar am y gwaith y mae’r Comisiwn wedi’i wneud yn ystod y pandemig a’r hyn y mae’n parhau i’w wneud. Os caf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddatgan buddiant yn y fan hon fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwyf am i bobl Cymru ei weld fel eu pwyllgor hwy; hwy sy'n llunio ein hagendâu gyda’u deisebau a’u llofnodion, ac rwyf am i bawb wybod hynny ac ystyried llofnodi neu gyflwyno deiseb i’n Senedd.
Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen iddynt ddeall y meysydd y mae'r pwyllgor yn ymdrin â hwy a beth sy'n fater ar gyfer rhywle arall. Credaf y gallwn wneud hyn drwy hyrwyddo llwyddiant deisebau blaenorol a gawsom yn ein Senedd, nid yn unig yn y Senedd hon, ond mewn Seneddau blaenorol hefyd wrth gwrs. Mae gennyf syniad y credaf y gallem ei ddefnyddio i hyrwyddo hyn, ac mae’n cynnwys lansio gwobr deiseb y flwyddyn, dan arweiniad y pwyllgor a’r Senedd hon. A wnaiff y Comisiwn ystyried fy nghefnogi gyda’r syniad hwn a gweld sut y gallwn gydweithio i lansio gwobr deiseb y flwyddyn yn y Senedd hon?
Wel, diolch yn fawr iawn am y syniad yna. Yn sicr, mae angen i ni wastad fod yn trio arloesi yn y ffordd rydyn ni'n ymgysylltu efo pobl. Mae'r Pwyllgor Deisebau, wrth gwrs, yn bwyllgor sy'n cael ei yrru gan ymgysylltu uniongyrchol efo pobl Cymru. Dwi'n gwybod bod Jack, yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, wedi bod yn ymwneud ag un ymgyrch arbennig o lwyddiannus yn ddiweddar, ac o ganlyniad i waith y tîm cyfryngau cymdeithasol efo Rhian Mannings, yn dilyn ei deiseb hi am helpu teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac annisgwyl, dwi'n meddwl bod yna dros 20,000 o gysylltiadau Twitter wedi bod, dros 2,300 o gysylltiadau Facebook, a hynny'n dangos bod deiseb sy'n dal dychymyg pobl, efo gwaith ymgysylltu effeithiol o'i chwmpas hi, wir yn gallu helpu i ddylanwadu ar y broses bolisi. Felly, mae gennym ni syniad yn y fan hyn ar sut i roi hwb pellach i'r broses ddeisebau. Mae'r syniad o wobr yn un da ac yn haeddu ystyriaeth bellach. Yn sicr, mi wnaf i'n siŵr bod trafodaeth yn digwydd rhwng Jack a'r tîm ymgysylltu i weld sut mae modd mynd â syniad o'r fath yn ei flaen.
Cwestiwn 5 i'w ateb gan Ken Skates. Peter Fox.