3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2022.
1. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i sicrhau bod y Senedd yn hygyrch i bobl ddall a phobl â golwg rhannol? OQ57803
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i fod yn sefydliad hygyrch sy'n cefnogi Senedd gynhwysol. Mae staff ar draws y Comisiwn yn cynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i'r Senedd a'u bod yn gallu cymryd rhan lawn ym mhob gweithgaredd. Er enghraifft, cafodd ein gwefan newydd ei phrofi gan bobl anabl, a rhoddir ystyriaeth i faterion mynediad wrth wneud gwaith ar yr ystad, a gwneir addasiadau rhesymol i bobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall.
Cyn bo hir, bydd y Comisiwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y chweched Senedd. Byddwn yn cysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid a byddwn yn croesawu adborth ar sut y gallwn wneud y Senedd yn fwy hygyrch i bobl ddall neu bobl sydd â nam ar eu golwg.
Diolch am yr ateb yna. Mae colli golwg yn broblem gynyddol yn y wlad yma. Ddoe, gwnaeth RNIB Cymru gynnal digwyddiad—cyflwyniad i golled golwg—i annog Aelodau i feddwl am sut rydym ni'n cefnogi a chyfathrebu gyda'n hetholwyr dall neu â golwg rhannol. Mae RNIB Cymru yn dweud bod 13 yn fwy o bobl yn dechrau colli eu golwg bob dydd yng Nghymru. Maent hefyd yn rhagweld y bydd y niferoedd yn cynyddu'n ddramatig, gyda nifer y bobl sy'n byw gyda cholled golwg yn dyblu erbyn y flwyddyn 2050. Un o'r pethau eraill mae RNIB Cymru yn ei ddweud yw bod stad y Senedd ei hun yn arbennig o anodd i bobl ddall a rhannol ddall i symud o'i chwmpas. Mae hyn oherwydd y doreth o wydr clir, yn ogystal â llawr a grisiau lliw llechi. Gan gofio hynny, a fyddai cynrychiolwyr y Comisiwn yn barod i gyfarfod ag RNIB Cymru, gyda'r bwriad o ymrwymo i'w hegwyddorion 'visibility better' ar gyfer dylunio adeiladau cynhwysol? Diolch yn fawr.
Gallwch fod yn gwbl sicr y byddaf yn ymrwymo i gyfarfod ag RNIB Cymru a gwrando ar y pethau sy'n peri pryder ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iddynt. Mae'r Senedd, a hefyd Aelodau'r Senedd fel chi, yn awyddus iawn i bawb, beth bynnag fo'u gallu neu eu hanabledd, allu defnyddio'r holl wasanaethau mewn ffordd y maent yn teimlo'n gyfforddus â hi. Felly, rwy'n sicr yn fwy na pharod i wneud hynny, ac os ydych chi eisiau, mae croeso i chi ddod i'r cyfarfod hwnnw hefyd.
Cwestiwn 2 i'w ateb gan Janet Finch-Saunders. Andrew R.T. Davies.