Cyfranogiad y Cyhoedd ym Mhwyllgorau'r Senedd

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:09, 16 Mawrth 2022

Wel, diolch yn fawr iawn am y syniad yna. Yn sicr, mae angen i ni wastad fod yn trio arloesi yn y ffordd rydyn ni'n ymgysylltu efo pobl. Mae'r Pwyllgor Deisebau, wrth gwrs, yn bwyllgor sy'n cael ei yrru gan ymgysylltu uniongyrchol efo pobl Cymru. Dwi'n gwybod bod Jack, yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, wedi bod yn ymwneud ag un ymgyrch arbennig o lwyddiannus yn ddiweddar, ac o ganlyniad i waith y tîm cyfryngau cymdeithasol efo Rhian Mannings, yn dilyn ei deiseb hi am helpu teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac annisgwyl, dwi'n meddwl bod yna dros 20,000 o gysylltiadau Twitter wedi bod, dros 2,300 o gysylltiadau Facebook, a hynny'n dangos bod deiseb sy'n dal dychymyg pobl, efo gwaith ymgysylltu effeithiol o'i chwmpas hi, wir yn gallu helpu i ddylanwadu ar y broses bolisi. Felly, mae gennym ni syniad yn y fan hyn ar sut i roi hwb pellach i'r broses ddeisebau. Mae'r syniad o wobr yn un da ac yn haeddu ystyriaeth bellach. Yn sicr, mi wnaf i'n siŵr bod trafodaeth yn digwydd rhwng Jack a'r tîm ymgysylltu i weld sut mae modd mynd â syniad o'r fath yn ei flaen.