Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 16 Mawrth 2022.
A dweud y gwir, credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cryn dipyn dros y blynyddoedd i gyflawni hynny, ac mae’n rhaid imi ddweud, credaf fod gan Lywodraeth Cymru strwythurau cymorth pwysig ar waith ar hyn o bryd sy’n cyflawni ar ran cyn-filwyr a'u teuluoedd yn ogystal â phersonél sy'n gwasanaethu. Credaf fod pethau y gall y Llywodraeth eu gwneud i wella ei darpariaeth a’i pherfformiad, ond credaf hefyd y dylem gydnabod lle mae’r Llywodraeth wedi gwneud pethau’n iawn, ac weithiau yn ein sylwadau, nid ydym bob amser yn gwneud hynny. Y prynhawn yma, rwy'n gobeithio unwaith eto y gallwn gyrraedd man lle y gallwn gytuno ar draws y Siambr.
A gaf fi ddweud imi wrando, gan wenu, wrth wrando ar Mark yn dyfynnu ei areithiau ei hun, a rhai o fy areithiau innau mewn gwirionedd, o'r blynyddoedd a fu? Oherwydd fi oedd y Gweinidog, wrth gwrs, a wrthododd y cynnig gan Darren Millar a’r grŵp trawsbleidiol ar sefydlu comisiwn, a gwneuthum hynny am resymau da iawn, ac fe amlinellaf rai o’r rheini y prynhawn yma o bosibl.
Mae’r ffocws i mi a’r ffocws i bawb sy'n rhan o gymuned y lluoedd arfog yn ei ystyr ehangaf bob amser wedi bod ar ddarparu gwasanaethau, a darparu gwasanaethau i bobl mewn angen. Mae Darren Millar a minnau, fel cadeirydd ac is-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol, yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sydd wedi’u lleoli mewn llywodraeth leol ac sy’n atebol yn y cymunedau lleol i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu. Ac roeddwn yn falch o weld Llywodraeth Cymru, y llynedd, yn darparu cyllid parhaus ar gyfer hynny i CLlLC, fel y gall y swyddogion cyswllt hynny barhau i weithio gyda gwasanaethau lleol, cyn-filwyr lleol a chymunedau lleol y lluoedd arfog i sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu darparu yn y ffordd y dylent gael eu darparu, ac rwy'n croesawu hynny’n fawr.
Fe wnaf groesawu penodiad y comisiynydd, ond ni chredaf mai dyma’r rôl gywir; dywedaf hynny'n gwbl glir wrth yr Aelodau. Bydd rhai o'r Aelodau’n gyfarwydd â fy nghyfraniadau ar faterion eraill. Nid wyf yn argyhoeddedig fod y model o benodi comisiynwyr yn arbennig o dda i ddemocratiaeth. Credaf fod y lle hwn a phwyllgorau’r lle hwn wedi gwneud mwy i ddwyn Gweinidogion ac eraill i gyfrif mewn gwasanaethau plant a gwasanaethau i bobl hŷn na’r ddau gomisiynydd dros y blynyddoedd, a dweud y gwir yn blaen wrth yr Aelodau. Nid oes unrhyw beth i atal un o bwyllgorau'r lle hwn rhag cynnal adolygiad ac ymchwiliad i'r modd y darperir gwasanaethau i gymuned y lluoedd arfog nac ar gyfer cymuned y lluoedd arfog. Felly, mae’r ddemocratiaeth yno ac ar waith, ac fe all weithio, ac rwy'n credu ei bod hi'n gweithio. Nid wyf yn credu mai penodi comisiynydd sy'n atebol i Lywodraeth yw'r ffordd i gynyddu atebolrwydd. Dylai’r Llywodraeth fod yn atebol i ni ac nid y ffordd arall. Nid ydych yn creu atebolrwydd drwy benodi rhywun i'ch dwyn chi i gyfrif. Nid dyna sut y mae democratiaeth neu atebolrwydd yn gweithio ac yn sicr, nid dyna'r hyn y byddwn i'n ei gefnogi. Credaf y dylai atebolrwydd ddigwydd yma. Dylai ddigwydd yma yn y lle hwn, gyda’r rheini ohonom sy’n cael ein hethol yn dwyn Gweinidogion ac eraill i gyfrif am y modd y darperir gwasanaethau. Dyna’r model democrataidd. Mae'n un rwy'n ei gefnogi ac yn cytuno ag ef.
Ac mae'n rhaid imi ddweud, wrth inni fwrw ymlaen â'r materion hyn, credaf fod gennym agenda hynod bwysig o'n blaenau o hyd ac rwy'n talu teyrnged i waith Darren Millar ar y materion hyn; mae wedi bod wrthi fel daeargi bach, yn gweithio'n ddygn ac yn arwain y grŵp trawsbleidiol, ac mae wedi sicrhau bod y materion hyn ar agenda’r lle hwn a'r Gweinidogion yn gyson. Yn sicr, roedd ar fy ôl yn gyson pan oeddwn i yn y Llywodraeth, ac roeddwn yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnâi.
Felly, credaf fod angen inni barhau i drafod y pynciau hyn. Weinidog, yn eich ymateb, hoffwn pe gallech amlinellu sut y byddwch yn parhau i adrodd i ni ar y materion y credwch eu bod yn flaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau, ac rwy'n gobeithio y gallwn eich gwahodd unwaith eto, Weinidog, i’r grŵp trawsbleidiol lle'r ydym yn parhau i gael y sgyrsiau hynny. Ac wrth inni fynd drwy waith y Senedd hon, rwy'n gobeithio hefyd y bydd pwyllgor Senedd yn dechrau, i sicrhau bod Gweinidogion yma, ac eraill, yn cael eu dwyn i gyfrif am ddarparu'r gwasanaethau a ddarperir i gyn-filwyr a chymuned gyfan y lluoedd arfog yng Nghymru.