Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 16 Mawrth 2022.
Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae gan Gymru hanes hir o ddarparu personél i luoedd arfog y Deyrnas Unedig. Mewn llawer o deuluoedd yng Nghymru, bydd rhywfaint o gysylltiad â'r lluoedd arfog, boed hynny drwy berthnasau neu ffrindiau, yn enwedig yn y Cymoedd yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru.