Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig heddiw. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod dysgu, gan imi ddysgu bod Alun Davies yn arfer bod yn y Llywodraeth, ac rwy'n cytuno â sylwadau’r cyn-Weinidog yn gynharach yn ei gyfraniad ynghylch craffu gan y Senedd hon a’r gwaith pwyllgor y dylai fod yn ei wneud. Efallai fod pob diwrnod yn ddiwrnod dysgu, ond mae hefyd yn wahanol, gan imi synnu fy mod yn cytuno, at ei gilydd, gyda Mark Isherwood y prynhawn yma yn ei sylwadau agoriadol a’r hyn a ddywedodd.
Ond mae hwn yn faes sydd ar flaen meddyliau pob un ohonom ar hyn o bryd, wrth i fenywod a dynion dewr y lluoedd arfog ein cadw’n ddiogel. Lywydd dros dro, hoffwn achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw'n benodol at y rhan y mae ein lluoedd arfog wedi’i chwarae drwy gydol y pandemig coronafeirws. Nid yw dweud eu bod wedi mynd y tu hwnt i'r galw yn gwneud cyfiawnder â'r gwahaniaeth y maent wedi'i wneud, ac rydym i gyd yn hynod ddiolchgar iddynt.
Fel y dywedais, rwy'n cytuno â sylwadau’r cyn-Weinidog ar y rôl y gall y Senedd ei chwarae a’r gwaith pwyllgor y mae angen iddi ei wneud, ac rwy'n dymuno gweld hynny’n digwydd. Ond rwy'n croesawu rôl y comisiynydd cyn-filwyr a byddwn yn falch o'r cyfle hefyd i gyfarfod â’r Cyrnol James Phillips i siarad am gyn-filwyr yn fy etholaeth i, Alun a Glannau Dyfrdwy, ac i glywed ei farn ynglŷn â'r ffordd orau y gall y Senedd hon eu cefnogi.
Lywydd dros dro, rwy’n falch o fod yn aelod anrhydeddus o gangen Shotton a Glannau Dyfrdwy o Gymdeithas Cymrodyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Y penwythnos diwethaf, cefais y pleser o siarad â chynrychiolwyr Labour Friends of the Forces yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno—cynhadledd ragorol, os caf ddweud. A hoffwn dalu teyrnged i Labour Friends of the Forces a’r gwaith y maent yn ei wneud i gyfoethogi’r cysylltiad rhwng aelodau Llafur a’n lluoedd arfog, a byddaf yn sicr yn ymuno â hwy fel ffrind ac aelod.
Lywydd dros dro, i gloi, hoffwn ddweud, bob blwyddyn, ar Ddydd y Cofio, ein bod, yn gwbl briodol, yn oedi i gofio’r rheini a aberthodd gymaint i warchod y rhyddid a drysorwn. Ond drwy gydol y flwyddyn, fel Aelodau o’r Senedd hon, o Senedd Cymru, dylai'r rheini sy’n gwasanaethu a’r rheini sydd wedi gwasanaethu fod yn ein meddyliau wrth inni gyflawni ein cyfrifoldebau o ddydd i ddydd. Mae hwnnw’n ymrwymiad a wnaf heddiw. Byddaf yn parhau i wneud popeth a allaf i hyrwyddo achos ein cyn-filwyr a’n lluoedd arfog, fel Darren Millar, fel Alun Davies, fel James Evans, ac fel pawb sydd wedi siarad yn y ddadl hon. Gofynnaf i gyd-Aelodau o bob rhan o’r Siambr, bob un ohonoch, ymuno â mi i wneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw. Diolch yn fawr.