Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 16 Mawrth 2022.
Mae’n anrhydedd cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ac i ddiolch i’n milwyr, yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, am eu haberth anhygoel sy’n caniatáu i mi a phob un ohonom sefyll yma heddiw. Oherwydd, peidied neb â chamgymryd, heb ein lluoedd arfog, ni fyddai unrhyw ddemocratiaeth. Ni fyddem yn siarad am ein cefnogaeth i’n lluoedd arfog; byddem o dan iau rhyw unben neu'i gilydd. Nid oes ond angen ichi droi at y newyddion i weld pa mor fregus yw ein democratiaeth. Mae’n bosibl mai’r uffern y mae Putin yn rhoi pobl Wcráin drwyddi fyddai ein dyfodol oni bai am wasanaeth dynion a menywod dewr ein lluoedd arfog, dynion a menywod sy’n barod i fentro eu bywydau i ddiogelu ein rhyddid. Fel y dywedodd Winston Churchill,
'Ni fu erioed ddyled mor fawr gan gynifer i gyn lleied.'
Mae hynny yr un mor wir heddiw ag yr oedd yn ôl ym 1940. Ond yn anffodus, rydym yn tueddu i anghofio’r ddyled honno. Rydym yn bwrw iddi â’n bywydau bob dydd, gan anwybyddu trafferthion ein milwyr a’n cyn-filwyr, gan ganiatáu i’n cyllidebau amddiffyn gael eu torri i’r byw, gan gyflenwi offer annigonol i’n milwyr, oherwydd y gred ffug fod yna heddwch yn y byd a bod lluoedd arfog yn bethau sy'n perthyn i oes a fu. Gwnaethom anwybyddu ymlediaeth Putin, sefyll o'r neilltu wrth i filwyr wastatáu Grozny, ymosod ar Georgia, cyfeddiannu rhannau o Wcráin yn 2014, saethu awyren deithwyr i lawr, a pharhau i ladd sifiliaid yn Donbas. Ac yn awr, mae Putin yn benderfynol o adfer yr Undeb Sofietaidd.
Heddiw, mae ei lygad ar Kyiv, ond beth am yfory? Ai Chisinau ym Moldofa sydd nesaf? Beth am Tallinn? Nid ydym yn gwybod, a dyna pam fod dynion a menywod dewr Cymru ar y ffin yn Estonia, yn ffurfio llinell goch yn erbyn ymlediaeth Putin, gan obeithio, fel y gweddill ohonom, am ateb heddychlon, ond yn barod i fentro'u bywydau i amddiffyn ein rhyddid. Mae'n rhaid inni gydnabod eu gwasanaeth a sicrhau bod ein dyled yn cael ei had-dalu gyda llog. Yn llawer rhy aml, rydym wedi gwneud cam â'n cyn-filwyr, a dyna pam y credaf fod penodi comisiynydd cyn-filwyr yn drobwynt. Rwy'n gobeithio y bydd penodi'r Cyrnol James Phillips yn rhoi diwedd ar ddiystyru cyfamod y lluoedd arfog, yn atal ein cyn-filwyr rhag bod yn ddigartref, rhag mynd i'r carchar neu i wardiau seiciatrig. Rydym yn dibynnu ar bersonél ein lluoedd arfog ar adegau o wrthdaro a chynnen. Dylent allu dibynnu arnom pan fyddant wedi rhoi eu harfau i lawr am y tro olaf. Mae'n rhaid inni ddarparu addysg, lles a thai blaenoriaethol a sicrhau eu bod yn pontio i fywyd sifil mewn modd mor ddi-dor a di-boen â phosibl. Mae arnom y ddyled hon iddynt o leiaf.
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi ein cynnig ac yn anfon neges glir fod y sefydliad democrataidd hwn yn sefyll yn gadarn y tu ôl i’r rheini sy'n amddiffyn ein democratiaeth. Diolch.