Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 16 Mawrth 2022.
Gwasanaethodd fy nhad-cu yn y rhyfel byd cyntaf, a bu'n gwasanaethu yn y lleoedd gwaethaf gyda’r niferoedd uchaf o rai a anafwyd. Roedd yn un o'r Magnelwyr Brenhinol, a oedd yn cludo’r gynnau i’r ffrynt gan ddefnyddio ceffylau, sy’n dangos pa mor bwysig yw hi i'r fyddin newid gyda thechnoleg newydd; ni allwn ymladd rhyfeloedd â cheffylau mwyach. Ni chafodd y cymorth iechyd meddwl oedd ei angen arno. Cafodd o leiaf ddwy chwalfa feddyliol yn ystod y rhyfel, ac ar ôl y rhyfel, ni chafodd y cymorth oedd ei angen arno bryd hynny ychwaith. Yn y diwedd, mae arnaf ofn ei fod wedi cyflawni hunanladdiad, ac wrth gwrs, roedd y golled i fy mam-gu a fy mam yn fawr.
Hoffwn sôn am berthnasedd y fyddin heddiw yn y sefyllfa bresennol a wynebwn gyda rhyfel yn Ewrop, gan fod rôl y credaf y gallai ac y dylai'r fyddin ei chwarae i gynorthwyo'r holl wledydd o gwmpas Wcráin sy'n cael trafferth ymdopi â'r niferoedd o bobl sydd wedi ffoi rhag y rhyfel. Mae'r Cymry wedi bod yn hael iawn i deuluoedd Wcráin; eisoes, rhoddwyd £25 miliwn i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, ac mae Llywodraeth y DU wedi darparu arian cyfatebol, ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn darparu cyflenwadau meddygol. Ond daw llawer o'r rhoddion mewn nwyddau o'r sector gwirfoddol.
Mae'n anodd inni amgyffred bod Gwlad Pwyl bellach yn darparu lloches ddiogel i 1.5 miliwn o bobl sy'n gwbl ddiymgeledd. Maent newydd ffoi gyda'r hyn y gallant ei gario, a gan eu bod yn agosach yn ddaearyddol na'r niferoedd sydd wedi cael lloches yn Rwmania, Slofacia a Moldofa, credaf fod angen inni ganolbwyntio ar geisio cynorthwyo pobl Gwlad Pwyl i leddfu rhywfaint o'r pwysau arnynt hwy, gan fod maer Warsaw wedi apelio ar wledydd eraill i rannu'r gwaith caled sydd ei angen i ddarparu llety priodol i blant a theuluoedd a henoed sydd wedi'u trawmateiddio. Rwy'n credu o ddifrif ei bod yn gywilyddus mai 4,000 o fisâu yn unig yr ydym ni yn y wlad hon wedi'u cynnig i alluogi pobl i ddod i Brydain, a hynny heb hyd yn oed drafod sut y maent yn mynd i gyrraedd yma. Yn llythrennol, mae pobl wedi'u gadael heb ddim.
Gwyddom fod oddeutu 7,000 o aelwydydd yng Nghymru eisoes wedi cynnig llety i deuluoedd sy’n ffoi rhag y rhyfel, ond hyd yn oed pan fydd y Swyddfa Gartref yn rhoi fisâu iddynt yn y pen draw, sut y mae’r bobl hyn i fod i gyrraedd yma? Nid yw'n ddigon da, ac rwy'n siŵr nad yw'r cyhoedd ym Mhrydain am inni barhau i sefyll o'r neilltu wrth i'r drasiedi hon ddatblygu. Felly, mae rôl i fyddin Prydain ei chwarae i gyflymu'r broses, a galluogi pobl i gyrraedd. Mae'n un peth i Rhys Jones a'i ffrindiau yrru o Gonwy i Wcráin. Ffermwyr yw’r rhain, pobl sy’n gwybod sut i drwsio eu cerbydau pan fyddant yn torri i lawr ac sy’n berffaith alluog i gyrraedd lleoedd anodd, ond nid yw’r rhan fwyaf o’r bobl yn fy etholaeth, y gwn eu bod wedi cynnig eu cartrefi, yn y sefyllfa honno. Pobl yw'r rhain a fyddai'n dibynnu ar gymorth brys ar ymyl y ffordd pe bai eu car yn torri i lawr, ac mae hynny’n chwerthinllyd, onid yw, yng nghyd-destun mynd i Wlad Pwyl i ddod â phobl yn ôl fel y gallant gael lle diogel yma yng Nghymru.
Credaf fod gwir angen inni gynnull unedau logistaidd Byddin Prydain i ddod â’r bobl hyn yn ôl i Gymru, gan fod logisteg yn allweddol i fyddin weithredu yn ystod gwrthdaro arfog. Dyna pam fod y Rwsiaid wedi cael y fath drafferth, am nad ydynt wedi gallu datrys sut y maent yn mynd i fwydo eu milwyr, heb sôn am eu hailarfogi. Dyma a’n galluogodd i ennill rhyfel y Falklands 3,000 o filltiroedd i ffwrdd—am fod y catrodau logistaidd yn wirioneddol drefnus. Nid oes unrhyw gatrodau logistaidd wedi’u lleoli yng Nghymru, ond mae gennym gatrawd y corfflu logisteg brenhinol 157, sef catrawd logistaidd wrth gefn, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd gyda sgwadronau yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerfyrddin, Hwlffordd a Queensferry. Gellid cynnull yr holl bobl hyn pe bai eu cyflogwyr yn cydweithredu. Maent wedi cael eu hyfforddi ar sut i ddod â phobl allan o ardaloedd gwrthdaro a gallant ddod â hwy oddi yno'n ddiogel ar y tir ac yna ar y môr fel y gall pobl gyrraedd Cymru'n gyflymach. Mae hon yn rôl dda iawn i'r fyddin yn y sefyllfa bresennol, felly rwy'n gobeithio y gallwn fynd ar drywydd hynny gyda Llywodraeth y DU, oherwydd yn amlwg, rhaid cysylltu â Llywodraeth Gwlad Pwyl i'w galluogi i fynd yno o gwbl.