Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch am gael cymryd rhan yn y ddadl yma. Mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i yn cael trafferth efo dadleuon am gyn-aelodau o'r lluoedd arfog, nid oherwydd fy mod yn heddychwr, ond oherwydd fy mhrofiadau i efo aelodau o fy nheulu a wasanaethodd a dioddef gweld erchyllterau na fedraf i eu dirnad tra'n gwasanaethu, ond yna, ar ôl gwasanaethu, y teulu, yr aelodau yna, yn cael eu hamddifadu gan y wladwriaeth yn llwyr. Ac mae arnaf i ofn fod yr un patrwm yn cael ei weld drosodd a throsodd, ac yma heddiw. Ymddengys fod y nifer o hunanladdiadau ymhlith cyn-filwyr ar gynnydd. Mae cam-drin alcohol yn orgyffredin, ac mae'r diffyg gofal ar gyfer iechyd meddwl yn sen.
Hoffwn ganolbwyntio ar un elfen yn benodol, sef digartrefedd ymhlith cyn-filwyr. Es i i weld teulu ifanc yn fy etholaeth i yn ddiweddar. Roedd yna blant bach bywiog, hyfryd yn yr aelwyd, gydag un rhiant yn gweithio yn y sector iechyd, a rhiant arall yn gyn-filwr, wedi gwasanaethu yn Affganistan ond yn dioddef o PTSD. Roedd y teulu bach hyfryd yma yn ddigartref, yn gorfod byw efo'r nain mewn tŷ gorlawn. Yn anffodus, mae hon yn stori sy'n llawer rhy gyffredin. Mae'n gywilyddus fod gwladwriaeth yn disgwyl i bobl ifanc fynd allan i wynebau erchyllterau enbyd, ond yna yn eu hamddifadu ar ôl iddyn nhw adael y fyddin. Mae cyn-filwyr yn wynebu heriau mawr wrth ddygymod â'u profiadau, a'r peth lleiaf y gellir disgwyl ydy fod ganddyn nhw do uwch eu pen wrth iddyn nhw ddod nôl i beth mae pobl yn ei alw yn 'civvy street'. Dwi'n edrych ymlaen i weld y comisiynydd newydd, felly, yn blaenoriaethu hyn. Diolch yn fawr iawn.