1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2022.
3. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y plant mewn gofal yng Nghymru? OQ57822
Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Mae gormod o blant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd a'u rhoi yn y system ofal yng Nghymru. Mae'r niferoedd wedi codi bob blwyddyn dros y ddau ddegawd diwethaf. Rhoddodd comisiwn Thomas ddadansoddiad pwerus o'r hanes trist hwn, a gyda'n partneriaid o fewn llywodraeth leol rydym yn parhau i fynd ar drywydd y polisïau a gynigiwyd ganddo.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Dwi'n gwybod bod hwn yn rhywbeth sy'n agos iawn i'ch calon chi, a'ch bod chi wedi bod yn gweithio i drio ffeindio mas beth yw'r broblem.
Dangosodd y gwaith ymchwil diweddar gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gynnydd o 87 y cant i gyfradd y plant mewn gofal rhwng 2004 a 2020. A'r hyn sy'n fy synnu i yw'r amrywiad enfawr o fewn awdurdodau lleol—felly, Torfaen, cynnydd o 251 y cant, ond ni fu unrhyw gynnydd o gwbl yn sir Gaerfyrddin—a'r amrywiadau lleol rhwng rhywle fel Torfaen a Chasnewydd. Mae'r ffaith bod plentyn yn Nhorfaen bum gwaith yn fwy tebygol o fynd i mewn i'r system ofal na phlentyn yn sir Gaerfyrddin yn gwbl anghywir. Nawr, nid yw'r wybodaeth hon yn newydd; fel y gwnaethoch chi sôn, roedd yn adroddiad Thomas, rhywbeth y gwnes i ddod yn ymwybodol ohono ryw pedair blynedd yn ôl. Felly, a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, o'ch rhaglen lywodraethu am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i leihau'r risg y bydd plant yn mynd i mewn i'r system ofal, a pham mae gennym ni amrywiad mor enfawr rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Wel, diolch yn fawr i Rhys ab Owen.
Mae hwn yn fater pwysig iawn o bolisi cyhoeddus yma yng Nghymru ac mae'n llygad ei le: mae'r gwahaniaeth rhwng gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru yn drawiadol iawn ac, yn fy marn i, yn ateb y pwynt sy'n cael ei wneud weithiau mai'r cwbl y mae'r ffigurau yn ei adlewyrchu yw gwahanol amodau economaidd-gymdeithasol mewn gwahanol rannau o Gymru. Pe bai hynny yn wir, sut byddai hynny'n esbonio llwyddiant eithriadol cyngor Castell-nedd Port Talbot yn fwy diweddar o ran lleihau'r niferoedd sydd ganddyn nhw mewn gofal, gyda gostyngiad pellach o 21 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig? Sut mae hynny yn esbonio pam mae cyngor fel sir Gaerfyrddin wedi llwyddo, drwy gydol cyfnod datganoli, i gadw ei niferoedd i lawr, tra bod cynghorau eraill sydd â nodweddion tebyg iawn wedi gweld cynnydd mor sydyn? Wel, dyma dri esboniad posibl amdano, Llywydd. Un, a'r mwyaf arwyddocaol yn fy marn i, yw diwylliannau ymarfer lleol. Mae'n—. Roeddwn i'n ddigon ffodus i ymweld, gyda fy nghyd-Weinidog Julie Morgan, â Chyngor Sir Gaerfyrddin ac i siarad â gweithwyr rheng flaen a'u goruchwylwyr, a chryfder y diwylliant lleol, a oedd yn benderfynol o wneud popeth yn ei allu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd, oedd y rheswm mwyaf grymus, yn fy marn i, pam mae wedi cael y llwyddiant hwnnw.
Yna ceir arweinyddiaeth leol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'r pwynt lle mae eu niferoedd yn dechrau gostwng yn gysylltiedig yn fy marn i â phenodi cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol newydd ac arweinydd newydd ar gyfer gwasanaethau plant, ac maen nhw wedi dangos penderfyniad grymus i newid y patrwm y gwnaethon nhw ei etifeddu fel cyngor.
Ac yna'n drydydd—ac mae hyn yn adolygiad Thomas, fel y bydd yr Aelod yn gwybod—ceir arfer y llysoedd hefyd, ac mae hynny'n amrywio o un rhan o Gymru i'r llall, ac mae'n rhaid i ni allu tynnu barnwyr sy'n eistedd yn adran y teulu i mewn i'r sgwrs. Mae llywydd adran y teulu ar lefel Cymru a Lloegr wedi dweud yn ddiweddar mai'r mater unigol pwysicaf o'i flaen yw deall a mynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal ledled Cymru a Lloegr gyfan. Ac mae'r sefyllfa yng Nghymru, Llywydd, yn waeth: rydym yn tynnu mwy o blant oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru, ac rydym ni wedi gwneud hynny ar gyfradd sy'n cyflymu o'i chymharu â rhannau o Loegr sy'n edrych fel rhannau tebyg o Gymru. Dyna pam mae'r mater mor frys, ond dyna hefyd pam y gallwn ni fod â rhywfaint o optimistiaeth yn ei gylch. Gall pethau gael eu gwneud yn wahanol ac maen nhw yn cael eu gwneud yn wahanol, ac mae angen i'r dull gwell hwnnw gael ei fabwysiadu ledled Cymru.
Prif Weinidog, ym mis Mehefin y llynedd, adroddwyd mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o blant yn y DU sy'n derbyn gofal gan y wladwriaeth. Roedd 7,170 o blant yn derbyn gofal oddi cartref yng Nghymru, sef 1.14 y cant o'r plant mewn gwirionedd. Fel y gwnaethoch chi a fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen sôn, mae'r gyfradd wedi cynyddu'n sylweddol yma yng Nghymru, ac mae'r duedd hon yn destun pryder, yn enwedig yr effaith ar y canlyniadau i blant sy'n cael eu derbyn i ofal o ran cyrhaeddiad addysgol, iechyd, diweithdra, digartrefedd a chyfiawnder troseddol. Fodd bynnag, ceir amrywiadau sylweddol lleol ar draws awdurdodau lleol yma yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y gwahaniaethau hyn yn gysylltiedig â'r rhyngweithio rhwng arferion diogelu, lefelau amddifadedd a ffactorau rhieni, ac mae tuedd i roi mwy o bwyslais yng Nghymru ar ddod o hyd i leoliadau parhaol i blant, yn hytrach nag ailuno teuluoedd biolegol â'u plant, er bod llawer o deuluoedd yn dymuno gweld ailuno.
Felly, Prif Weinidog, gan nad yw'r cyfrifoldeb am blant mewn gofal yn nwylo adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn unig—ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi sôn yn eich ateb blaenorol fod y pwyslais ar lywodraethau lleol, yn ogystal â'r llysoedd—a bod amrywiaeth o asiantaethau mewn gwirionedd yn darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd sydd mewn perygl, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn benodol i wella arferion gwaith i hwyluso gwell profiadau a chanlyniadau i'r rhai sy'n dod i gysylltiad â'r gwasanaethau hyn? Diolch.
Wel, Llywydd, mae pethau rydym ni eisoes yn eu gwneud fel Llywodraeth. Mae hynny'n cynnwys y pwyslais y mae fy nghyd-Weinidog Julie Morgan wedi ei roi i wneud hyn dros y tair blynedd diwethaf. Mae'n cynnwys gweithio gyda'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, i hyrwyddo'r pethau yr ydym ni'n gwybod sy'n gweithio mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae'n drawiadol i mi, yn sir Gaerfyrddin, y gwnaethom ni sôn amdani yn gynharach, fod un cyfarwyddwr sy'n gyfrifol am addysg a gwasanaethau cymdeithasol, gan wneud yn siŵr bod ysgolion yn chwarae eu rhan i helpu'r teuluoedd hynny i aros gyda'i gilydd. Yn y gyllideb a basiwyd ar lawr y Senedd yn y fan yma yr wythnos diwethaf, mae gennym ni ffrwd gyllid newydd i ddarparu eiriolaeth i deuluoedd y ceir perygl y bydd eu plant yn cael eu cymryd i ofal cyhoeddus, i wneud yn siŵr, pan fydd y penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud, fod llais y teulu yn cael ei glywed yr un mor rymus ag unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n rhan o'r penderfyniad hwnnw. Un yn unig o nifer o gamau yr ydym yn eu cymryd yw hwnnw, Llywydd, ac mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gysoni ein hunain â'r angen i leihau nifer y plant mewn gofal cyhoeddus yng Nghymru yn ddiwyro.
Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi, pan fo plant mewn gofal preswyl, fod cyfeiriad polisi Cyngor Dinas Casnewydd yn briodol? Trwy ei Brosiect Perthyn, mae'n dod â darpariaeth o ofal i blant sy'n derbyn gofal yn ôl yn fewnol, gyda lleoliadau y tu allan i'r awdurdod yn dychwelyd i gartrefi newydd Cyngor Dinas Casnewydd. Mae'n dod â'r plant hynny yn ôl i'w hardaloedd cartref, eu teuluoedd a'u hysgolion ac yn darparu gofal o'r radd flaenaf. A fyddech chi'n cytuno mai dyma'r dull cywir ar gyfer ein pobl ifanc ac o ran adroddiad diweddar yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar y farchnad gofal cymdeithasol i blant, sy'n dangos bod darparwyr preifat yn codi gormod ar awdurdodau lleol, gydag elw o 22.6 y cant a thaliadau cyfartalog o tua £3,830 yr wythnos?
Wel, rwyf yn llongyfarch cyngor Casnewydd. Dros y degawd diwethaf, mae wedi sefyll allan fel un o'r awdurdodau hynny sydd wedi cymryd amrywiaeth o gamau i ganolbwyntio ar helpu teuluoedd i fynd drwy'r adegau anodd hynny y mae pob teulu yn eu hwynebu, a lle mae trwsio'r difrod hwnnw, yn hytrach nag achub plant ohono, er budd hirdymor y plentyn. Ac mae'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn Prosiect Perthyn yn enghraifft dda iawn o hynny.
Hoffwn dalu teyrnged am eiliad, Llywydd, os caf i, i'r comisiynydd plant Sally Holland, yr Athro Sally Holland, sydd ar fin ymddeol ar ôl saith mlynedd yn y swydd honno, a bydd digwyddiad yma yn y Senedd yr wythnos nesaf i nodi'r achlysur hwnnw. Grym ei hadroddiadau hi, sy'n adlewyrchu safbwyntiau pobl ifanc mewn gofal eu hunain, sy'n arwain y Llywodraeth hon i fod ag ymrwymiad i ddileu gwneud elw preifat ar ofal plant yng Nghymru.
Nawr, mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn dod i'r casgliad yn ei adroddiad, sy'n dangos yn iawn pa mor wael y mae'r farchnad yn gweithio, mai'r hyn sydd ei angen arnoch yw i'r farchnad weithio yn well. Wrth gwrs, mae ein casgliad ni i'r gwrthwyneb: yr hyn sydd ei angen arnoch yw peidio â chael marchnad ym maes gofal plant. Nid marchnadoedd yw'r dull cywir o ddarparu ar gyfer y bobl ifanc agored i niwed hynny. Ac mae'r gwaith y mae Casnewydd yn ei wneud yn bwysig iawn yn hynny.
Mae dileu elw yn ymwneud â gwerthoedd yn ogystal â chost. Mae'n ymwneud â rhoi anghenion o flaen yr hyn sy'n broffidiol. Mae £10 miliwn yn y gyllideb i helpu awdurdodau lleol yn y cyfnod pontio hwn, yn y cyfnod pontio hwn, ac yn rhan o hynny bydd—. Rwy'n meddwl am y pwynt y soniodd Natasha Asghar amdano; rydym ni wedi derbyn cynlluniau bellach gan chwech o'r saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol, y byddwn ni'n eu hariannu, i greu canolfannau rhanbarthol newydd lle gallwn ni symud plant, nid yn unig cadw plant yn eu teuluoedd eu hunain, ond gallwn ni symud plant sy'n derbyn gofal y tu allan i'w sir yn ôl i'w sir, yn agosach at eu teuluoedd; gallwn symud plant y telir amdanyn nhw yn ddrud iawn y tu allan i Gymru yn nes at ble mae'r teuluoedd hynny yn byw. Bydd y canolfannau rhanbarthol hynny yn bwysig iawn o ran darparu adnodd lle gellir gofalu am y bobl ifanc hynny yn briodol ac yn llwyddiannus, ac rydym ni ar daith yma, yn bendant, ond mae'n galonogol iawn gweld bod chwech o'r saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol hynny wedi cyflwyno cynigion a'n bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w hariannu.