Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 22 Mawrth 2022.
Hyfrydwch pur i mi yw bod Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 wedi dod i rym ddoe. Mae gan y Llywodraeth ymrwymiad hirsefydlog i sicrhau hawliau plant, ar sail Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Fe fydd ein pwyslais cryf ni ar hawliau plant, a pharchu plant a phobl ifanc fel dinasyddion drwy eu hawliau eu hunain, yn helpu i sicrhau bod eu hanghenion nhw'n cael eu diwallu a bod eu huchelgeisiau nhw'n cael eu gwireddu, gan wneud Cymru yn lle gwirioneddol wych i dyfu fyny.
Yn gyson â'n dull ni o weithredu, a gydag erthygl 19 CCUHP, mae plant yn cael eu hamddiffyn yn ôl y gyfraith erbyn hyn rhag pob math o drais. Mae'r gyfraith yn anfon y neges nad oes unrhyw gosb gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru, gan wneud hynny'n eglur ac yn hawdd i bawb ei ddeall: ni ddylai plant fyth gael eu cosbi'n gorfforol, o dan unrhyw amgylchiadau. Mae termau fel 'smac ysgafn' neu 'smac o gariad' yn bychanu effaith cosbi corfforol mewn ffordd a fyddai'n gwbl annerbyniol pe bai hynny'n digwydd yn achos oedolion. Wedi degawdau o ymgyrchu, rwy'n falch bod gan blant yng Nghymru yr un amddiffyniad cyfreithiol rhag ymosodiadau ag oedolion erbyn hyn. Nid yw plant, sy'n fwy agored i niwed yn gorfforol ac yn emosiynol nag oedolion, yn haeddu dim llai na hynny. Yn syml, ni ddylai pobl fawr daro pobl bach.
Fe fydd yr eglurder yn y gyfraith yn rhoi sail sy'n fwy eglur a chyson i ymarferwyr wrth gefnogi rhieni i fabwysiadu dulliau adeiladol o ddisgyblaeth. O'r cychwyn cyntaf, roeddem ni'n mynegi y byddem ni'n gwneud pob ymdrech i weithredu'r Ddeddf yn effeithiol a sicrhau y byddai'r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol a rhieni yn barod ar gyfer y newid yn y gyfraith. Rydym ni wedi gweithio gyda llawer o bartneriaid ar draws y sectorau allweddol, gan gynnwys iechyd, addysg, awdurdodau lleol, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, cyfiawnder ieuenctid, y trydydd sector ac arweinwyr cymunedol, ac rwy'n ddiolchgar am eu penderfyniad nhw i gydweithio i weithredu'r Ddeddf. Ac fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, am ei hymrwymiad llwyr hi i'r mater hwn ac am weithio yn ddiwyro i hybu a diogelu hawliau plant.