– Senedd Cymru am 4:16 pm ar 22 Mawrth 2022.
Felly, fe wnawn ni gario ymlaen gyda hynny. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynigion, felly. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynigion.
Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer creu cyd-bwyllgorau corfforedig i hybu cydweithio ymhellach ar draws llywodraeth leol. Ym mis Mawrth 2021, cymeradwyodd y Senedd reoliadau yn sefydlu pedwar cyd-bwyllgor corfforedig newydd yng Nghymru. Roedd y rheoliadau sefydlu hynny'n ddechrau dull graddol o sefydlu'r fframwaith rheoleiddio sy'n angenrheidiol ar gyfer y cyrff cyhoeddus newydd hyn. Ym mis Tachwedd 2021, cymeradwywyd ail gyfres o ddeddfwriaeth gan y Senedd, a oedd yn parhau i roi'r pwerau a'r dyletswyddau angenrheidiol ar waith i ategu gweithrediad y cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae Rheoliadau drafft y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 sydd ger ein bron heddiw yn cynrychioli'r drydedd gyfres o reoliadau. Mae'r rhain yn parhau i gymhwyso'r fframwaith deddfwriaethol llywodraeth leol y bydd y cyd-bwyllgorau corfforedig yn gweithredu ynddo. Mae'r rheoliadau cyffredinol drafft hyn yn ymdrin â fframwaith deddfwriaethol cyd-bwyllgorau corfforedig sy'n ymwneud ag ymddygiad, penodi aelodau dirprwyol a gweithgareddau masnachol. Mae nifer o fân ddarpariaethau hefyd yn ymwneud â chyllid, achosion cyfreithiol, cofnodion a materion yn ymwneud â'r gweithlu. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn rhwng 10 Tachwedd a 22 Rhagfyr 2021, ac rwy'n ddiolchgar i'r rhai a ymatebodd, gan gynnwys cydweithwyr mewn llywodraeth leol.
Mae Gorchymyn drafft Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022 hefyd yn rhan o'r drydedd gyfres o offerynnau statudol sy'n darparu ar gyfer fframwaith deddfwriaethol cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae'r offeryn drafft hwn yn diwygio Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu cynnwys yn y rhestr o awdurdodau y mae'n rhaid iddyn nhw roi sylw dyledus i atal troseddu ac anhrefn wrth arfer eu swyddogaethau. Fel bob amser, y bwriad yw trin y cyd-bwyllgoaru corfforedig fel rhan o'r teulu llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau hyn yn parhau i sicrhau bod y cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i raddau helaeth i'r un pwerau a dyletswyddau neu rai tebyg ag y mae awdurdodau lleol yn y ffordd y maen nhw'n gweithredu ac yn cael eu llywodraethu. Diolch.
Bydd y Senedd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu creu'r cyd-bwyllgorau corfforaethol yma nôl yn y Senedd ddiwethaf. Mae honno'n frwydr y gwnaethon ni ei cholli, wrth gwrs, ac felly os yw'r cyd-bwyllgorau yma am ddod i fodolaeth, yna mae angen iddyn nhw fod yn atebol i'r un safonau a disgwyliadau ag awdurdodau lleol, ac yn enwedig o ran safonau cod ymddygiad. Felly, dydyn ni ddim yn gwrthwynebu'r rheoliadau yma, ond dwi'n meddwl bod yna gwestiwn dilys jest ynglŷn â rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn hyn o beth, a chwestiwn ynglŷn â'r goblygiadau cyllidebol o safbwynt gwaith yr ombwdsmon o roi'r cyd-gynghorau o dan oruchwyliaeth yr ombwdsmon, sef y peth iawn i'w wneud. Ond, mae yn fy synnu i bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn awgrymu nad yw'r Llywodraeth yn teimlo bod yna gostau ychwanegol, neu os oes yna gostau ychwanegol, y gallan nhw gael eu hymgorffori yn y gyllideb y mae'r ombwdsmon yn ei derbyn yn arferol. Byddwn i'n tybio bod gan y Pwyllgor Cyllid rhywbeth i'w ddweud ynglŷn a hynny. Fel cyn-aelod o'r pwyllgor, dwi'n ymwybodol iawn bod y cyrff yma sy'n cael eu hariannu yn uniongyrchol yn dod i ofyn am arian ac yn cael awgrym, efallai, fod angen ailedrych a dod yn ôl. Felly, mae cyllidebau yn dynn. Byddwn i hefyd yn tybio, gan fod y cyd-bwyllgorau yma ymhellach o'r ffas lo—hynny yw, yn uwch i fyny ac ymhellach oddi wrth cymunedau—fod y potensial am heriau neu issues yn codi ar rai materion yn uwch. Felly, byddwn i yn tybio bod yna fwy o waith yn cael ei gynhyrchu ar gyfer yr ombwdsmon, ac oni ddylid hynny gael ei adlewyrchu yn yr asesiad effaith rheoleiddiol? Dwi jest eisiau deall yn well beth yw rhesymeg y Llywodraeth i dybio bod hyn jest mor ddi-nod bod modd ei ymgorffori yn y gyllideb bresennol.
Does gen i ddim siaradwyr eraill, felly y Gweinidog i ymateb.
Diolch, Llywydd. Diolch i Llyr Huws Gruffydd am godi'r mater arbennig hwn y prynhawn yma. Dyna ein hasesiad, yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o'r llwyth gwaith tebygol ac effaith debygol cynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig dan nawdd y teulu llywodraeth leol. Ond, wrth gwrs, byddwn eisiau parhau i adolygu'r holl faterion hyn, a gwn y bydd y Pwyllgor Cyllid yn cymryd diddordeb arbennig yn hyn. Byddaf yn ymrwymo i gael rhai trafodaethau pellach gyda'r Pwyllgor Cyllid i archwilio maes o law a oes ganddyn nhw unrhyw bryderon penodol ynghylch y ffordd y mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn dwyn ffrwyth, neu fel arall, i sicrhau ein bod yn gwneud y dyraniadau priodol mewn cysylltiad â'r gwaith hwn. Ond, rydym ni'n credu, ar hyn o bryd, na fydd gwaith ychwanegol sylweddol i'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 7 wedi'i dderbyn.
Mae cwestiwn hefyd ynglŷn ag a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad chwaith i hynny. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 8 wedi cael ei dderbyn hefyd.