Busnesau Canol Trefi yn Sir Gaerfyrddin

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:12, 23 Mawrth 2022

Fe glywon ni yn gynharach, wrth gwrs, yng nghwestiwn Sioned Williams, y cyfeiriad at adroddiad yr FSB, sy'n dangos sefyllfa heriol iawn ar gyfer siopau yn ein canol trefi, ac roedd 67 y cant o'r cyhoedd a oedd wedi cael eu cwestiynu yn disgrifio eu canol trefi nhw yn llwm neu yn wael o gymharu â dim ond 3 y cant yn sôn am ganol trefi ffyniannus. Ydy'r Gweinidog, yn y cyd-destun heriol hynny, yn croesawu'r buddsoddiad helaeth mae cyngor sir Caerfyrddin, o dan arweiniad Plaid Cymru, wedi'i gyhoeddi yn ei raglen trefi—y rhaglen 10 Tref—gan gynnwys buddsoddiad yn nhref Rhydaman yn fy etholaeth i? Ac, o feddwl am beth gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar lefel genedlaethol i hyrwyddo'r buddsoddiad lleol yma, ydych chi'n edrych ar ddiwygio, symud o'r system ardrethi busnes i sail newydd, ar sail gwerth tir, lle mae yna dystiolaeth y byddai newid hynny yn hyrwyddo, yn ysgogi, buddsoddiad gwell yn ein canol trefi ac yn decach o ran y mathau o siopau lleol annibynnol roedd Sioned Williams yn cyfeirio atyn nhw?