Busnesau Canol Trefi yn Sir Gaerfyrddin

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:14, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n croesawu galwad gyson yr Aelod am weld prisio tir yn cymryd lle ardrethi busnes, ac wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, mater i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yw a ddylid diwygio ardrethi busnes ai peidio.

Ond rwy'n parhau i ymddiddori yn realiti ymarferol y sefyllfa yr ydym ynddi yn awr a lle y gallem fod yn y dyfodol, a dyna pam ein bod wedi gweithio ochr yn ochr â threfi gyda gwaith penodol, cyllid penodol, nid menter Trawsnewid Trefi yn unig, ond yr arian yr ydym wedi'i roi i ganol trefi clyfar, y gronfa trefi i fusnes, yr hyn y bwriadwn ei wneud i fesur a chwyddo defnydd o fannau byw a gweithio ffyniannus. Ac ar y gwaith y mae Cyngor Sir Gâr yn ei wneud wrth gwrs, maent wedi cael dros £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy gyllid grant Trawsnewid Trefi, ac mae hynny wedi helpu gydag amrywiaeth o brosiectau trawsnewid y mae'r cyngor yn eu cyflawni gyda'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth Cymru.

Fel y dywedais yn gynharach, rwy'n croesawu'r ffaith bod awdurdodau lleol dan arweinwyr gwleidyddol gwahanol yn bwriadu buddsoddi yng nghanol eu trefi, gan  fuddsoddi yn eu dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phwy bynnag y mae'r etholwyr yn ei ddewis i barhau i arwain a rhedeg Cyngor Sir Gâr ar y gwaith y credaf y down o hyd i gonsensws iddo, yn sir Gaerfyrddin ac ar draws pob un o'r rhanbarthau economaidd, lle mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn cyfuno ac yn rhannu amryw o'u hadnoddau.