2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2022.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â rhestrau aros iechyd meddwl yng Nghymru? OQ57840
Rydym yn blaenoriaethu £50 miliwn, £75 miliwn a £90 miliwn ychwanegol o gyllid wedi'i neilltuo ar gyfer iechyd meddwl ar gyfer 2022-23, 2023-24 a 2024-25 yn y drefn honno. Mae hyn yn ychwanegol at y £760 miliwn a fuddsoddir yn flynyddol o gyllid iechyd meddwl wedi'i neilltuo i fyrddau iechyd lleol, a bydd yn cefnogi'r gwaith parhaus o drawsnewid ein gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn darparu ymyrraeth gynharach a lleihau'r angen am wasanaethau mwy arbenigol.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Y llynedd, gofynnais gwestiwn i chi ynglŷn â'r amseroedd atgyfeirio yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, ac yn enwedig amseroedd atgyfeirio truenus y cyfnod asesu 28 diwrnod, lle'r oedd Caerdydd a'r Fro ond yn asesu traean o gleifion, yn hytrach na chyfartaledd Cymru o ddwy ran o dair o gleifion. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian ychwanegol—mae arian ychwanegol sylweddol wedi'i ddarparu. Yn aml iawn, mae'n ymwneud â mwy na'r arian, mae'n ymwneud â sut y caiff ei ddefnyddio. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ynghylch pa welliannau y mae cleifion yn ardal Caerdydd a'r Fro wedi'u gweld oherwydd yr arian hwnnw ac yn bwysig, beth yw'r amseroedd atgyfeirio diweddaraf? Oherwydd nid yw asesu traean o gleifion o fewn 28 diwrnod yn ddigon da.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol? Rwy'n rhannu ei bryderon ynghylch yr anawsterau sy'n parhau gydag amseroedd aros yng Nghaerdydd a'r Fro. Cyfarfûm â Chaerdydd a'r Fro dair gwaith i drafod, yn fanwl, eu dull o reoli eu hamseroedd aros. Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod eu bod yn wynebu heriau arbennig yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae dwy ran o dair o'r plant sy'n aros yng Nghymru ar restr aros Caerdydd a'r Fro am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) arbenigol mewn gwirionedd, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymdrin â set unigryw o amgylchiadau.
Ym mis Tachwedd 2021 nododd y bwrdd iechyd 27 y cant o gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau am CAMHS gofal sylfaenol, a 17 y cant am CAMHS arbenigol. O fy nhrafodaethau gyda Chaerdydd a'r Fro—ac rwy'n cytuno'n bendant â chi nad yw'n ymwneud ag arian yn unig—gwn fod ganddynt lawer o swyddi gwag o hyd, ac er gwaethaf eu hymdrechion gorau, maent yn ei chael hi'n anodd iawn recriwtio i'r swyddi hynny. Maent yn edrych ar opsiynau gwahanol i lenwi'r swyddi gwag hynny erbyn hyn. Rwyf hefyd wedi gofyn i uned gyflawni'r GIG edrych yn benodol ar Gaerdydd a'r Fro a gweld pa gymorth y gellir ei ddarparu. Rydym hefyd yn edrych ar ba gymorth arall y gallwn ei ddarparu fel Llywodraeth Cymru ac fel rhan o'r cyllid gwella gwasanaeth y byddwn yn ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf. Rwyf hefyd wedi dweud yn glir wrth bob bwrdd iechyd fy mod yn disgwyl iddynt ddarparu cynllun manwl yn nodi sut y byddant yn lleihau amseroedd aros.
Dylwn ychwanegu hefyd fod Caerdydd a'r Fro yn rhoi camau eraill ar waith i geisio rheoli eu hamseroedd aros, gyda'r defnydd o gynnig digidol i leihau amseroedd aros. Maent yn buddsoddi yn y trydydd sector ac yn edrych ar fwy o gymorth drwy hyfforddi gweithwyr cymorth gan gymheiriaid. Felly mae llawer o waith ar y gweill, ond mae rhagor i'w wneud. Ond i dawelu meddwl yr Aelod, byddaf yn cyfarfod â Chaerdydd a'r Fro eto yn weddol fuan ac rwy'n parhau i gael y drafodaeth honno gyda hwy ynglŷn â'u hamseroedd aros.
Diolch. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich ateb ac rwy'n gwerthfawrogi'r diddordeb yr ydych wedi'i ddangos yng Nghaerdydd a'r Fro. Wrth siarad â fy etholwyr, gwelaf fod llawer gormod o gleifion sy'n mynd at eu meddyg am eu bod yn teimlo iselder, unigrwydd neu bryder yn cael cynnig presgripsiwn yn hytrach na therapïau siarad eraill neu bethau eraill, sy'n cuddio'r broblem a gall arwain at broblemau hirdymor fel agoraffobia. Felly, beth yw eich strategaeth ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n cael presgripsiwn cymdeithasol i hyrwyddo llesiant, a fyddai wedyn yn rhyddhau amser i'r arbenigwyr iechyd meddwl y cawn gymaint o anhawster yn eu recriwtio i ganolbwyntio ar y problemau iechyd meddwl acíwt a pharhaus hynny?
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jenny, ac rwy'n llwyr gefnogi presgripsiynu cymdeithasol fel ffordd o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol yn y gymuned, ac rwy'n ystyried bod cymorth o'r fath yn rhan wirioneddol allweddol o'n hagenda ataliol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gael fframwaith Cymru gyfan i gefnogi presgripsiynu cymdeithasol. Bydd y fframwaith hwnnw'n amlinellu'r arferion gorau yng Nghymru, ond yn bwysig iawn, ni fydd yn pennu'r hyn a ddarperir mewn gwahanol gymunedau, oherwydd mae arferion rhagorol i'w cael allan yno eisoes. Mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid ar y model arfaethedig, a bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ym mis Mai. Ac fe fyddwch yn falch o wybod hefyd, o fis Ebrill ymlaen, y bydd ein cronfa integreiddio ranbarthol newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gefnogi'r modelau presgripsiynu cymdeithasol hynny y gwyddom eu bod mor bwysig.
Hefyd, rydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth iawn fel Llywodraeth mewn cymorth haen 0 lefel is, oherwydd, fel y dywedwch, nid oes angen cymorth arbenigol ar lawer o bobl sy'n ceisio atgyfeiriadau ar gyfer eu hiechyd meddwl. Felly, rydym yn parhau i fuddsoddi yn llinell gymorth CALL. Rydym yn ehangu mewn gwirionedd—rydym wedi cyhoeddi £7 miliwn i ehangu'r therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein, SilverCloud, gan gynnwys ehangu hwnnw ar gyfer plant. Ac rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud gyda'n cyllid ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i roi hwb i'r cymorth haen 0 lefel is hwnnw er mwyn atal anawsterau rhag gwaethygu.