Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr. Wel, credaf ei bod yn bwysig inni nodi'r llwybrau cenedlaethol gorau hynny, ac maent wedi'u datblygu ar gyfer gwahanol safleoedd tiwmor. A'r hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau bod gennym ymyrraeth sy'n seiliedig ar werthoedd. Wrth gwrs, mae gennym ddull gweithredu unigryw yng Nghymru, yn yr ystyr fod gennym un amser aros unedig, sy'n wahanol i'r ffordd y maent yn ei wneud yn Lloegr.
Felly, mae gwahanol fathau o ganserau, ac yn sicr yn achos canser y pancreas, er enghraifft, mae'n un o'r chwe chanser lleiaf goroesadwy. Mae'n bwysig fod pobl yn deall bod yna bresgripsiynau, fel therapi amnewid ensymau pancreatig, sydd ar gael i bob bwrdd iechyd yng Nghymru, a dylent gymhwyso hynny'n lleol. Felly, lle mae ar gael, rhan o'r hyn y ceisiwn ei wneud yw lledaenu ymwybyddiaeth a chynhyrchu deunyddiau i roi gwybod i glinigwyr ledled Cymru am bwysigrwydd presgripsiynu'r meddyginiaethau priodol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o eglurhad.