Cleifion Canser

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cleifion canser i gael y driniaeth gywir? OQ57818

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:58, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Dylid darparu triniaethau canser yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae'r llwybrau cenedlaethol gorau bellach wedi'u cyhoeddi yng Nghymru ar draws amryw o fathau o ganser. Golyga hyn fod clinigwyr arbenigol wedi nodi'r hyn y dylid ei ddarparu ar gyfer gwahanol fathau o ganser, lle bynnag yng Nghymru y caiff rhywun ddiagnosis.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Ysgrifennais atoch yn ôl ym mis Medi ynglŷn â mynediad at lawdriniaeth cytoleihaol, ac ar y pryd fe sonioch chi mai cyngor y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal oedd na ddylid darparu triniaeth fel mater o drefn yng Nghymru, fel yr ydych newydd ei nodi yn eich ateb i mi. Ond ers y llythyr hwnnw a'ch ymateb, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o ddau achos proffil uchel yng Nghymru, lle'r oedd un ddynes wedi symud i Loegr i gael y llawdriniaeth berthnasol, ac roedd un arall wedi rhoi camau cyfreithiol ar waith er mwyn cael triniaeth ar ôl iddi gael ei gwrthod ddwywaith am driniaeth yng Nghymru. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r driniaeth ar gael i gleifion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yng Nghymru. Wrth gwrs, clywais eich ateb ynglŷn â dilyn cyngor y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ond byddwn yn ddiolchgar pe baech yn egluro pam fod dull gwahanol wedi'i fabwysiadu yng Nghymru, a pham y gwrthodir llawdriniaethau cytoleihaol, neu'n sicr pam nad ydynt ar gael yn fwy eang fel mater o drefn yng Nghymru i gleifion o Gymru sydd â chanser peritoneol, ac a fyddech yn fodlon adolygu'r mynediad at y math hwn o driniaeth.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:59, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Wel, credaf ei bod yn bwysig inni nodi'r llwybrau cenedlaethol gorau hynny, ac maent wedi'u datblygu ar gyfer gwahanol safleoedd tiwmor. A'r hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau bod gennym ymyrraeth sy'n seiliedig ar werthoedd. Wrth gwrs, mae gennym ddull gweithredu unigryw yng Nghymru, yn yr ystyr fod gennym un amser aros unedig, sy'n wahanol i'r ffordd y maent yn ei wneud yn Lloegr.

Felly, mae gwahanol fathau o ganserau, ac yn sicr yn achos canser y pancreas, er enghraifft, mae'n un o'r chwe chanser lleiaf goroesadwy. Mae'n bwysig fod pobl yn deall bod yna bresgripsiynau, fel therapi amnewid ensymau pancreatig, sydd ar gael i bob bwrdd iechyd yng Nghymru, a dylent gymhwyso hynny'n lleol. Felly, lle mae ar gael, rhan o'r hyn y ceisiwn ei wneud yw lledaenu ymwybyddiaeth a chynhyrchu deunyddiau i roi gwybod i glinigwyr ledled Cymru am bwysigrwydd presgripsiynu'r meddyginiaethau priodol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o eglurhad. 

Photo of David Rees David Rees Labour 3:01, 23 Mawrth 2022

Mae cwestiwn 4 [OQ57841] wedi ei dynnu nôl, felly cwestiwn 5, Delyth Jewell.