5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:35, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Wrth ichi edrych o gwmpas Cymru, mae'n amlwg yn yr oes sydd ohoni fod gan Gymru bellach ormodedd enfawr o gapeli ac eglwysi ar gyfer ei hanghenion crefyddol presennol. Mewn ymateb i'r orddarpariaeth hon, gwelsom gau nifer ohonynt mewn ymgais nid yn unig i arbed arian, ond hefyd i achub rhai o'r adeiladau gwirioneddol wych o'r un enwad.

Mae'r gwaith o gynnal a chadw'r adeiladau hynod hyn wedi disgyn ar ysgwyddau yr aelodau sy'n weddill, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn amrywio o fod yn oedrannus i fod yn oedrannus iawn. Fel y dywedodd un diacon wrthyf, 'Fe etifeddom ni'r capel hwn gan ein rhieni, ond nid yw ein plant am ei etifeddu gennym ni.' Dywedodd yr un diacon, 'Yr hyn rwy'n ei hoffi fwyaf am fynd i'r capel yw mai dyma'r unig le rwyf fi, fel rhywun dros 60 oed, yn cael fy ystyried yn un o'r aelodau ifanc.' Mae'r cynulleidfaoedd yn teneuo, a rhaid ichi gofio faint o gapeli sydd i'w cael o hyd. Yn ôl Blwyddiadur Undeb yr Annibynwyr, ceir dros 600 o gapeli annibynwyr yng Nghymru a phedwar capel annibynwyr Cymraeg yn Lloegr, ond bydd y nifer bron yn sicr yn parhau i ostwng.

Rydym wedi gweld hen gapeli'n cael eu haddasu neu eu newid mewn modd addas at nifer o wahanol ddibenion, yn amrywio o fflatiau, sef y defnydd mwyaf cyffredin, i dai, busnesau, bwytai, swyddfeydd, canolfannau cymunedol, ac mewn rhai achosion, eu troi'n addoldai ar gyfer crefyddau eraill. Yn anffodus, mae eraill wedi mynd yn adfeilion, wedi'u llosgi i lawr, neu wedi cwympo. Un enghraifft nodedig o hen gapel yn Abertawe sydd wedi'i addasu mewn modd sensitif yw capel Christmas Evans, sydd bellach yn gartref i swyddfeydd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn Abertawe, ond maent yn caniatáu i bobl ymweld a gweld ei blac sy'n coffáu Christmas Evans. Mae'n rhyfeddol faint o bobl sy'n ymweld, er nad yw'n cael ei hysbysebu, ac mae'n rhaid ichi wneud cryn dipyn o ymchwil i ganfod y lle, ac ar ôl gwneud hynny, rhaid ichi drefnu gyda'r NSPCC i ymweld.

Mae pobl, megis Daniel James—a adwaenir yn well fel Gwyrosydd—cyfansoddwr 'Calon Lân', wedi'i gladdu yng nghapel Mynyddbach, ac Evan Roberts, y pregethwr a arweiniodd yr adfywiad mawr o gapel Moriah yng Nghasllwchwr. Dau yn unig o'r pregethwyr mawr a'r cyfansoddwyr emynau o Gymru oedd y rhain. Gallwn lenwi'r araith gyfan yn mynd drwy gyfansoddwyr emynau enwog o Gymru ac—[Torri ar draws.] Yn fwy pryderus, efallai y dechreuaf sôn am berthnasau Aelodau eraill yma. [Chwerthin.]

Ond fel y dywedais, mae'r rhan fwyaf o'r capeli a'r eglwysi llai wedi cael eu troi mewn modd addas yn dai neu'n swyddfeydd. Yn Nwyrain Abertawe, gan ganolbwyntio ar Dreforys lle rwy'n byw, a Phlas-marl lle y cefais fy ngeni, af â chi drwy sefyllfa'r capeli a'r eglwysi. Mae capel Philadelphia yn Nhreforys, hen gapel Methodistaidd, wedi'i droi'n swyddfeydd a fflatiau. Unodd capel Calfaria, capel Soar a Seion i ffurfio Seion Newydd, y capel rwy'n ei fynychu. Mae capel Calfaria wedi cwympo. Y cyfan y gallwch ei weld mewn gwirionedd lle'r oedd capel Calfaria yw cerrig ar y ddaear, ac roedd hwnnw'n gapel a gâi ei ddefnyddio hyd at 50 mlynedd yn ôl. A bellach, y cyfan sydd gennych yw cerrig ar y ddaear, ar ben uchaf Stryd Banwell yn Nhreforys.

Mae Soar wedi dod yn rhan o'r Eglwys Gatholig, a chaiff ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau bach. Mae eglwys Sant Ioan, a adwaenir yn lleol fel yr eglwys yng nghanol y ffordd—dyma'r unig adeilad ar y gylchfan—yn cael ei adnewyddu i fod yn gaffi, oriel ac uned fasnachol ar y llawr gwaelod a'r llawr mesanîn, gyda thri fflat llofft uwch ei ben. Roeddwn i'n arfer ei disgrifio fel yr unig eglwys Gymraeg ei hiaith yn yr Eglwys yng Nghymru, ond cefais wybod bod yna rai eraill. Ond mae'n un o ychydig iawn o eglwysi Cymraeg eu hiaith yr Eglwys yng Nghymru. Mae'n adeilad rhyfeddol, ond bu'n segur ers 10, 15 mlynedd; mae bellach yn cael ei ailddefnyddio. Mae addoldy Grove wedi'i droi'n fflatiau.

Mae'r rhan fwyaf o'r capeli eraill wedi cael eu troi mewn modd addas yn fflatiau neu'n dai, neu, yn achos un, yn gartref gofal i bobl ag anawsterau dysgu. Mae peth o'r gwaith adnewyddu, megis addoldy Grove, wedi bod yn rhagorol, gan gadw'r ffasâd allanol ac ailfodelu mewn modd sensitif ar y tu mewn. Mae capel Mynyddbach wedi'i adfer ar ôl sawl blwyddyn o fod yn wag, ac mae bellach yn ganolfan Daniel James Gwyrosydd. Mae'r eglwys ym Môn-y-maen a'r eglwys yn Portmead wedi'u troi'n ganolfannau Ffydd mewn Teuluoedd, ac maent yn gwneud gwaith rhagorol gyda rhieni a phlant. Ac a gaf fi ddweud cystal gwaith y mae Ffydd mewn Teuluoedd yn ei wneud yn fy etholaeth?

Dyma lle y daw'r newyddion da i ben. Dymchwelwyd capel Horeb yn Nhreforys, ac adeiladwyd fflatiau ar y safle gan gymdeithas dai. Mae eglwys Sant Paul yng Nglandŵr wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn. Mae'n eglwys fawr, ac er y cafwyd sawl awgrym ynglŷn â sut y dylid ei defnyddio, nid oes unrhyw beth wedi digwydd. Cafwyd tân yng nghapel Libanus yng Nghwmbwrla ar ôl iddo fod yn wag am nifer o flynyddoedd, ac fe'i dymchwelwyd yn rhannol ar sail diogelwch. Mae dwy wal yn dal i sefyll ar hyn o bryd, ac wrth gwrs mae Cadw yn dal i'w rhestru. Mae capel Cwm, lleoliad arall lle bu tân, wedi cael ei ddymchwel, er ei fod yn dal wedi'i restru gan Cadw. Mae Aenon yn Heol Las wedi cau, heb unrhyw gynlluniau ar y gorwel i'w ddefnyddio eto at ddibenion gwahanol. Mae'r un peth yn wir am Bethania yng nghanol tref Treforys. Mae capel Moriah, lle roedd fy nhad-yng-nghyfraith yn unig ddiacon ar ôl, bellach wedi cau, mae wedi'i werthu sawl gwaith a cheir caniatâd cynllunio ar gyfer ei droi'n fflatiau, ond nid oes unrhyw ddatblygiad wedi digwydd.

Ceir llawer mwy o adeiladau eglwysi a chapeli nag a geir o bobl sydd eisiau eu defnyddio ar gyfer addoli. Mae'n mynd â ni at beth sy'n digwydd nesaf. Erbyn hyn, yr eglwysi a'r capeli mwy o faint yn bennaf sydd ar ôl. Ni ellir troi'r rheini'n fflatiau neu'n swyddfeydd yn hawdd fel y gwnaed i'r rhai llai o faint. Mae'r rhan fwyaf wedi'u rhestru, gan gynnwys y Tabernacl yn Nhreforys, sy'n adeilad rhestredig gradd I. Mae'r eglwysi a'r capeli llai wedi cau. Nid oes problem. Mae'r newidiadau hawdd eisoes wedi digwydd mewn gwirionedd. Ac os caf fi ddweud, yn gyffredinol, mae'r gwaith a wnaed yn dda? Nid ym mhobman, ond yn gyffredinol, fe wnaed gwaith da. 

Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru drafod dyfodol yr adeiladau hyn gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru. Nid rhestru adeiladau gan Cadw yw'r ateb, ac weithiau mae'n rhan o'r broblem, gan na allwch wneud newidiadau i'r adeilad; bydd yn eistedd yno hyd nes y bydd yn dymchwel ohono'i hun neu'n cael ei losgi, ac mae llawer gormod o adeiladau'n cael eu llosgi pan gânt eu gadael yn wag am gyfnodau hir. 

Mae gan Gymru enw da iawn am ei phregethwyr, ei hadeiladau eglwysig a'i chapeli, sy'n rhywbeth y mae angen inni ei ddatblygu. Credaf fod angen inni edrych ar farchnad dwristiaeth America; mae angen inni gynhyrchu teithiau enwadol yng Nghymru. Nid America yn unig, ond gwledydd yn nwyrain Asia, fel Singapore. Mae gennym sefyllfa lle'r arferai Seilo Newydd yng Nglandŵr, un o gapeli mwyaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fod â lle i dros 1,000 o bobl, ond roeddent yn llawer teneuach yn y dyddiau hynny—[Chwerthin.]—felly dim ond lle i tua 600 o bobl sydd yno erbyn hyn. Ond aeth i ddwylo eglwys yn Singapore. Cyn hynny, roedd ganddo saith o aelodau, a hynny ond am fod dau gapel wedi uno i roi pump o un a dau o'r llall i wneud saith.

Felly, y cwestiwn yw: a ddylem ni yng Nghymru dargedu marchnad dwristiaeth America? A ddylem dargedu rhai o'n hysbysebion twristiaeth i hyrwyddo ein hanes crefyddol gwych, ei bobl a'i adeiladau? Credaf fod cyfle enfawr i hyrwyddo twristiaeth sy'n gysylltiedig â'n capeli, ein heglwysi a'r pregethwyr mawr a'r cyfansoddwyr emynau. Dyma gyfle y mae angen i ni yng Nghymru fanteisio arno cyn ei bod yn rhy hwyr. Gallwn achub rhai. Nid yw'n bosibl eu hachub i gyd. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i siarad â'r gwahanol enwadau a llunio strategaeth ar gyfer eglwysi a chapeli Cymru.

Yn gyntaf, mae angen rhestr o flaenoriaethau. Yn ail, mae angen cynllunio'r modd y gellid defnyddio adeiladau yn y dyfodol—mae swyddfeydd, fflatiau a thai i gyd yn bosibl. Bydd hyn yn gweithio, fel y dangosais yn gynharach. Rhaid cael opsiwn i'w troi'n adeiladau cymunedol. Bydd angen cymorth ariannol a chefnogaeth gymunedol i wneud hyn. Ni allwn adael i nifer fawr o bobl oedrannus fod yn unig warcheidwaid ein treftadaeth. Rydym yn gwarchod cestyll ein goresgynwyr Normanaidd; dylem wneud yr un peth i'r prif gapeli a oedd, i neiniau a theidiau a hen neiniau a hen deidiau llawer ohonom, yn fannau addoli a chanolfannau cymunedol pwysig. Os caiff y cynnig hwn ei basio ac os na wnaiff y Llywodraeth weithredu, neu os na fydd yn pasio, bydd mwy a mwy o'r adeiladau hyn yn cau. Bydd mwy a mwy'n mynd yn adfail, a bydd rhan fawr o'n hanes yn cael ei cholli. Dyma'r amser i weithredu. Ymhen 10 mlynedd fe fydd yn rhy hwyr i lawer o'r adeiladau hyn.

A gaf fi ofyn hefyd am amgueddfa genedlaethol ar gyfer ein hanes crefyddol? Mae gennym amgueddfa wlân, amgueddfa ddiwydiannol a morol, mae gennym amgueddfa lechi. Credaf y dylem gael amgueddfa i barhau a dangos ein hanes crefyddol, oherwydd, er ei fod wedi bod yn hanes byw i lawer ohonom, ymhen 50 mlynedd, ni fydd yn hanes byw i'r bobl yr adeg honno. Felly, a gaf fi annog y Llywodraeth i feddwl am hynny? Ac os ydynt yn edrych am safle, a gaf fi awgrymu'r Tabernacl?