5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 4:15, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

A hoffwn ddechrau efallai drwy roi ychydig o enghreifftiau da o lle mae'r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus ac yna esbonio'n fyr sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar lefel strategol ar hyn o bryd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon cyffredin hyn. Felly, mae yna gynlluniau addasu, er enghraifft, sy'n ymateb i werth cymdeithasol adeiladau crefyddol, gyda ffyrdd newydd o'u defnyddio sy'n sicrhau budd i'r gymuned. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth yn rhai o'r rhain, gan gynnwys y llyfrgell yng nghapel Hanbury ym Margod. Mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi prosiectau sy'n datblygu eiddo sy'n cael ei danddefnyddio neu sy'n wag, gan gynnwys sawl hen addoldy. Ac rwy'n cymeradwyo ymrwymiad Circus Eruption yn arbennig, elusen ieuenctid sydd wedi ymsefydlu yn hen eglwys Sant Luke yng Nghwmbwrla yn Abertawe. Maent yn gweithio'n bennaf gyda phobl ifanc, gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches, gofalwyr ifanc a'r anabl, ac maent eisiau i'r adeilad hanesyddol hwn fod yn lle i bawb. Fel elusen nad oes ganddi unrhyw brofiad blaenorol o dreftadaeth, maent hefyd eisiau ysbrydoli elusennau eraill i weld bod adeiladau treftadaeth yn creu cyfle. 

Mae rhaglen Cyfiawnder Tai Cymru, Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o gymdeithasau tai yng Nghymru i ryddhau tir neu adeiladau dros ben ar gyfer tai fforddiadwy. Ar hyn o bryd mae'r sefydliad yn gweithio gyda'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ar brosiect peilot sy'n canolbwyntio ar addasu capeli hanesyddol segur.

Mae mannau addoli hefyd yn cael eu hannog i ymchwilio i ffyrdd y gallant agor eu drysau at ddefnydd y gymuned, ochr yn ochr â'u diben gwreiddiol. Enghraifft bwysig, rwy'n siŵr y bydd Mike Hedges yn ymwybodol ohoni, yw Tabernacl Treforys, lle bydd mannau ategol yn cael eu haddasu at ddefnydd y gymuned, gan adael tu mewn gogoneddus y capel heb ei newid a gwneud defnydd ohono. Nawr, tra bod agor y drysau i ddiwallu anghenion y gymuned leol yn bwysig, ni fydd o reidrwydd yn darparu digon o incwm i gadw to ar yr adeilad. Fodd bynnag, gall mannau addoli estyn allan at gymuned lawer ehangach i helpu i gynnal yr adeiladau hynny. Er enghraifft, mae diddordeb cynyddol mewn twristiaeth ffydd, ac rydym yn dechrau gweld syniadau newydd creadigol i wireddu ei photensial, gan gynnwys profiadau y gellir eu harchebu a llwybrau thema a hyrwyddir gan Croeso Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi. 

Mewn achosion eithriadol, gall adeiladau crefyddol gwag gael eu cynnal a'u cadw heb eu newid i raddau helaeth gan ymddiriedolaethau a sefydlwyd yn benodol at y diben hwnnw. Ac mae dwy ymddiriedolaeth sy'n gweithredu'n genedlaethol yng Nghymru. Mae gennym Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, sy'n achub ac yn atgyweirio eglwysi gwag yr Eglwys yng Nghymru ac yn cadw eu drysau ar agor, ac ar hyn o bryd mae ganddi tua 28 o eglwysi, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf. Yna mae gennym Addoldai Cymru, a sefydlwyd i ofalu am nifer fach o'r capeli anghydffurfiol gorau ledled Cymru, ac ar hyn o bryd mae'n gofalu am 10 capel. Mae'r ddau sefydliad yn derbyn cymorth grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru i barhau â'u gwaith. 

Felly, mae addasu ar gyfer defnydd newydd sy'n ymateb i arwyddocâd llawn adeiladau crefyddol, cyflwyno ffyrdd ychwanegol o'u defnyddio sy'n helpu i gynnal adeilad, estyn allan at amrywiaeth o gymunedau newydd a diddordebau newydd neu gyflwyno i ymddiriedolaeth yn enghreifftiau o ffyrdd y gellir rhoi dyfodol i'n hadeiladau crefyddol. Ond mae pob un ohonynt yn dibynnu ar bobl—i ofalu am yr adeiladau, i agor y drysau, i groesawu ymwelwyr, i ddarparu gwasanaeth cymunedol. Maent yn dangos pwysigrwydd trosfwaol creu cysylltiadau newydd rhwng adeiladau a'u cymunedau, gan gydnabod bod yr adeiladau hyn yn eiddo i bob un ohonom. Felly, mae'n galonogol fod llawer yn mynd ymlaen eisoes i geisio mynd i'r afael â hyn, a hoffwn i'r gweithgarwch hwn gael ei rannu a'i ddathlu'n ehangach. 

Nawr, efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, wedi cyhoeddi cynllun gweithredu strategol ar gyfer mannau addoli yng Nghymru yn 2015. Roedd y cynllun yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau yn defnyddio, yn mwynhau ac yn gofalu am fannau addoli hanesyddol, a'i gam gweithredu pwysicaf oedd sefydlu fforwm mannau addoli i rannu gwybodaeth ac arferion gorau ac adolygu anghenion parhaus. Denodd y fforwm gynrychiolaeth o bob rhan o'r sector ac am nifer o flynyddoedd defnyddiwyd ei gyfarfodydd fel cyfle i ddysgu o brosiectau amrywiol ledled Cymru. Cafodd y cyfarfodydd wyneb yn wyneb hyn eu hatal gan y pandemig wrth gwrs, ond manteisiodd y fforwm ar y cyfle i fyfyrio ar ei gyfeiriad ac mae bellach yn y broses o ymsefydlu ar sail newydd. Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru, unwaith eto drwy Cadw, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau fforwm i gynnal adolygiad ffurfiol o'i gwaith a'r cynllun strategol. Yn ogystal, maent yn defnyddio cyfarfodydd gweminar ar-lein i gyrraedd pobl ar lawr gwlad. Mae tri chyfarfod o'r fath eisoes wedi'u cynnal, gan ddod â siaradwyr at ei gilydd i gynnig cyngor proffesiynol, gyda lleisiau angerddol o gymunedau ledled Cymru yn siarad am eu profiadau eu hunain. Roedd y ddau ddigwyddiad diweddaraf yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned a chodi arian. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd y digwyddiad nesaf yn ystyried yr amgylchedd ac ymatebion i newid hinsawdd.

Ond rwy'n hoff o awgrym Mike Hedges y gallem archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio adeilad eglwys gwag, neu gapel, fel amgueddfa genedlaethol ar gyfer crefydd. Credaf fod hyn yn rhywbeth y gallai'r fforwm edrych arno fel cyfle i weld pa bosibiliadau a allai fod ar gael i rai o'r adeiladau gwag hyn. 

Nawr, nid wyf o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint yr her. Ond pan fyddaf yn arolygu'r mentrau sydd eisoes ar y gweill, a phan welaf yr egni a'r ymrwymiad sy'n cael ei roi i gyflawni'r her hon, credaf fod llawer o'r elfennau a fydd yn ein helpu i ailsefydlu'r cysylltiad hanfodol rhwng adeiladau a chymunedau eisoes yn eu lle. Y cyswllt hwnnw a fydd yn rhoi ffydd i'n mannau addoli hanesyddol yn eu dyfodol.

Felly, rwy'n fodlon cefnogi'r cynnig ac rwy'n cytuno bod angen inni weithio gyda'r gwahanol enwadau i sicrhau dyfodol i'r adeiladau hyn. Wrth gwrs, bydd angen inni weithio gyda phartneriaid eraill, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro ein bod yn ceisio gwneud hynny.