– Senedd Cymru am 1:31 pm ar 29 Mawrth 2022.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynllun Cartrefi i Wcráin. Yn ail, rwyf i wedi tynnu'n ôl y datganiadau ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar COVID-19 ac ar ddiogelwch adeiladau.
Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno'r datganiad ar ddiogelwch tomenni glo. Ac, yn olaf, rwyf i wedi ychwanegu dadleuon ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a rheoliadau (Rhif 8) 2022, y bydd angen atal y Rheolau Sefydlog ar eu cyfer.
Trefnydd, yn ddiweddar, cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bleidlais o ddiffyg hyder mewn nifer o aelodau a oedd wedi'u hapwyntio gan Lywodraeth Cymru. Yn lleol, mae llawer o anfodlonrwydd ynghylch sut mae'r parc cenedlaethol yn cael ei gynnal a rhan aelodau sydd wedi'u hapwyntio gan Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a sut y mae'n penodi aelodau Llywodraeth Cymru i'r cyrff hyn? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cael datganiad ar hyn o bryd.
Rhai wythnosau'n ôl gofynnais i am ddatganiad ynghylch sut y mae'n rhaid i drigolion y de-ddwyrain deithio'n bell ar gyfer apwyntiadau ysbyty. Gwnes i dynnu sylw at y mater bod triniaeth ddiagnostig y fron ond yn cael ei chynnal yn Ysbyty Ystrad Fawr. Mae etholwr arall wedi cysylltu â mi, a bu'n rhaid iddi fynychu apwyntiad gynaecoleg yn Ysbyty Nevill Hall. Nawr, mae hi'n byw yng Nghaerffili, a chymerodd y daith fwy nag awr, taith gron o 56 milltir. Mae hi'n gallu gyrru, ond roedd hi'n bryderus efallai na fyddai hi'n dod o hyd i'r ysbyty mewn pryd, oherwydd ei bod y tu allan i'w hardal, ond cafodd hi wybod mai dyma'r unig glinig gynaecoleg ar gyfer holl ymddiriedolaeth Aneurin Bevan. Fel yr wyf i'n siŵr eich bod chi'n gwerthfawrogi, Trefnydd, mae 50 y cant o'r bobl sy'n byw yn yr ardal yn fenywod; bydd angen apwyntiad gynaecoleg arnyn nhw rywbryd. Felly, hoffwn i ofyn am ddatganiad eto os gwelwch chi'n dda a fydd yn esbonio pam y bu'n rhaid i fy etholwr deithio'r pellter hwnnw pan nad yw Ysbyty Ystrad Fawr ond tua 4 milltir i lawr y ffordd o'i chartref. A gawn ni edrych eto ar sut y caiff ein gwasanaethau ysbyty ni eu darparu, fel nad oes rhaid i gleifion sydd eisoes dan straen naill ai dreulio cyfnodau hir yn y car i gyrraedd eu hapwyntiadau, neu ragor o oriau ar fysiau os na allan nhw yrru?
Diolch. Wel, yn amlwg, nid wyf i'n ymwybodol o'r achos penodol yr ydych chi'n cyfeirio ato, ond rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynghylch darpariaeth gwasanaethau ledled bwrdd iechyd yn bwysig iawn ac yn rhywbeth y mae pob bwrdd iechyd yn amlwg yn gyfrifol amdano, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael i'r boblogaeth y maen nhw'n yn ei gwasanaethu. Yn amlwg, gyda rhai gwasanaethau mwy arbenigol, nid ydym ni'n disgwyl cael pob gwasanaeth ym mhob ysbyty. Rydych chi'n cyfeirio at wasanaethau gynaecoleg yn yr achos penodol hwn, ac ni wn a yw'n fwy cyffredinol neu'n fwy arbennig, ond mae darpariaeth gwasanaethau yn rhywbeth y mae bwrdd iechyd yn gyfrifol amdano ar gyfer ei boblogaeth leol.
Prynhawn da, Gweinidog. Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda, y datganiad cyntaf gan y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg am gymorth ariannol i ysgolion bach a gwledig. Mae undebau'r wythnos hon wedi codi'r pryderon y gwnes i eu codi yn ystod proses y gyllideb ynghylch dileu grant yr ysgolion bach a gwledig—ac nad yw'r arian ychwanegol sy'n cael ei darparu i awdurdodau lleol drwy'r grant ysgolion bach a gwledig yn cyrraedd ysgolion.
Ac, yn ail, tybed a allech chi wneud datganiad ynghylch y sefyllfa o ran Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn colli eu hachos llys ynghylch y rheoliadau adnoddau dŵr, a pha gymorth ariannol sy'n cael ei ddarparu nawr i gefnogi'r sector amaethyddol i addasu i'r rheoliadau hyn? Diolch.
Diolch. O ran y grant ysgolion bach a gwledig, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod £2.5 miliwn wedi'i gyflwyno dros dymor blaenorol y Senedd i annog arloesi a chynyddu gweithio ysgol i ysgol. Roedd yn grant penodol iawn, ac rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol wedi cael gwybod o'r cychwyn cyntaf fod y grant yn gyfyngedig o ran amser, a gwnaethon nhw gyflwyno eu cynlluniau ar gyfer gwariant a chynaliadwyedd ar y sail honno. Roedd y grant i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth y llynedd—2021—ond, i gefnogi'r broses bontio, estynnodd Llywodraeth Cymru y grant am flwyddyn arall. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod mewn trafodaethau gydag awdurdodau lleol, ac nid wyf yn credu bod awdurdodau lleol wedi gwthio'n ôl ynghylch dod â'r grant i ben, oherwydd cafodd ysgolion a'r awdurdodau lleol wybod amdano.
O ran eich ail gwestiwn, yn amlwg, mae hynny'n dod o fewn fy mhortffolio i, ac roeddwn i'n sicr yn croesawu'r dyfarniad a gafodd ei roi gan y llys ddydd Iau diwethaf. Byddaf i'n parhau i weithio gydag undebau'r ffermwyr i leihau effaith amaethyddiaeth a llygryddion eraill. Cawsom ni achos llygredd amaethyddol sylweddol iawn arall, a gafodd ei gadarnhau’n syth, yr wythnos diwethaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn os ydym ni i gyd yn mynd i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r llygredd yr ydym ni'n ei weld yn ein dyfroedd. Ond mae'r un mor bwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n cefnogi'r diwydiant ffermio, wrth symud ymlaen, a byddaf i'n parhau â'r trafodaethau hynny. O dan y cytundeb cydweithredu sydd gan Lywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru, mae hwn yn faes lle'r ydym ni wedi ymrwymo i weithio nid yn unig gyda ni ein hunain ond, unwaith eto, gyda'r diwydiant i dargedu'r gweithgareddau hynny y mae'n hysbys eu bod yn achosi llygredd. Mae angen i ni ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a'r hyn y mae'r dyfarniad hwn yn ei wneud yw ein galluogi ni i barhau â'r gwaith pwysig hwnnw.
Dim ond dwy eitem i'w codi. Yn gyntaf oll, Trefnydd, roedd gêm bêl-droed y Gynghrair Genedlaethol ar y Cae Ras ddydd Sadwrn yn ddigwyddiad anhygoel—roeddech chi a fi yn bresennol yno, ynghyd â bron i 9,000 o wylwyr. Ac unwaith eto dangosodd sut y gall stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf y byd gynnal digwyddiadau dramatig a syfrdanol. A fyddai'r Llywodraeth yn ymrwymo i ddwyn perswâd am ddychwelyd gemau rhyngwladol i'r Cae Ras cyn gynted â phosibl?
Ac hefyd, Trefnydd, gyferbyn â'r Cae Ras—yn wir, mae darn o'r Cae Ras yn rhan ohono—y mae prosiect porth Wrecsam, y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo swm enfawr o arian iddo. Er ein bod ni wedi cael addewid o gyllid codi'r gwastad gan Lywodraeth y DU, nid yw hyn wedi dod i'r amlwg eto. A fyddech chi'n gallu gwneud datganiad ynghylch a ydych chi'n credu bod Llywodraeth y DU mewn sefyllfa i ariannu'r prosiect adfywio hollbwysig hwn, neu a yw'n fater o eiriau teg yr ydym ni'n eu clywed?
Diolch. Roedd y gêm ddydd Sadwrn yn sicr yn gwbl anhygoel. Roeddwn i'n sgwrsio â Llyr Huws Gruffydd amdano dros ginio. Rwy'n dal i wenu. Yn fy 50 mlynedd o fynd i'r Cae Ras, nid wyf i erioed wedi gweld dim byd tebyg iddo. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Fel plentyn, dyna lle'r oeddwn i'n mynd i wylio gemau rhyngwladol, ac, wrth gwrs, gyda'r llwyddiant y mae tîm pêl-droed Cymru wedi'i gael yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn arbennig, rwy'n credu bod y chwaraewyr wedi gwneud Stadiwm Dinas Caerdydd yn gaer iddyn nhw, os mynnwch chi. Rwy'n credu, yr wythnos diwethaf—. Unwaith eto, roeddem ni'n sgwrsio amser cinio, yn dweud na allwn ni ddychmygu torfeydd pêl-droed yn canu fel yna 20 mlynedd yn ôl, a chanu yn Gymraeg. Ac rwy'n credu bod hynny'n dweud tipyn am y ffordd y mae pobl wedi cymryd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru i'w calonnau. Ond rwy'n gwybod bod prif weithredwr newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn awyddus iawn i weld gemau'n cael eu chwarae ar y Cae Ras. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni yn y gogledd fod y gemau hynny'n cael eu chwarae, hyd yn oed os mai dim ond gemau cyfeillgar ydyn nhw, yn y blynyddoedd sydd i ddod. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip yn sicr yn parhau i wthio hynny gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Rydych chi'n cyfeirio at y cais am gyllid codi'r gwastad sydd wedi'i gyflwyno o ran porth Wrecsam. Yn anffodus, fe wyddom ni, er gwaethaf addewid Llywodraeth y DU na fyddai gennym ni geiniog yn llai pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw hynny'n wir. Mae'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth y DU yn llawer llai na'r hyn a gawsom ni yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a Llywodraethau datganoledig eraill, ynghylch y gronfa codi'r gwastad. Mae'n rhaid iddi fod yn bartneriaeth wirioneddol os yw'n mynd i weithio; nid ydym ni eisiau bod â sefyllfa ariannu dameidiog. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gweld y cyllid hwnnw. Rwy'n gwybod bod yr ail gais wedi'i cyflwyno, ac rwy'n credu mai erbyn mis Mehefin y mae'n rhaid cyflwyno’r cais hwnnw am gyllid.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr adroddiad interim a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar gan adolygiad Cass. Gwnaeth yr adroddiad interim amlygu nifer o faterion sy'n achosi pryder y mae angen i swyddogion etholedig a gweithwyr proffesiynol ymdrin â nhw a'u trafod. Gwnaeth rhai o'r canfyddiadau a gafodd eu codi yn yr adroddiad dynnu sylw at y diffyg consensws a thrafodaeth agored am natur dysfforia rhywedd ac, felly, yr ymateb clinigol priodol. Mae'n amlwg i mi nawr, yng ngoleuni adroddiad interim Cass, y dylai adolygiad o wasanaethau yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cwestiynu eu rhywedd gael ei gynnal. Mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu hyn, ac mae angen gwneud yn iawn am hyn ar frys. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, Gweinidog.
Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r ddau Ddirprwy Weinidog yn amlwg yn ymwybodol o'r adroddiad neu'n gweithio drwy'r adroddiad, ac rwy'n siŵr, ar yr adeg fwyaf amserol, y byddan nhw'n cyflwyno rhagor o wybodaeth.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Mae'n ymwneud â gwasanaethau post sy'n cael eu darparu gan y Post Brenhinol a sut y gall Llywodraeth Cymru bwyso arno i wella gwasanaethau. Mae'n fater yr wyf i wedi gohebu'n flaenorol â'r Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol ynghylch, gan fy mod i'n gwybod ei bod hi'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Post Brenhinol, ac mae hi, ac rwy'n ddiolchgar am hyn, wedi cyflwyno sylwadau o'r blaen ar ran etholwyr. Fodd bynnag, mae gwasanaethau mewn sawl rhan o'r Rhondda yn arbennig, yn ysbeidiol, a'r post, yn ystod y misoedd diwethaf, yn cael ei ddosbarthu unwaith bob pythefnos mewn ardaloedd fel Glyn-fach, yn ôl preswylydd lleol, sydd hefyd yn golygu bod dogfennau pwysig yn cael eu methu neu nad ydyn nhw'n cael eu derbyn o gwbl. Roedd hyn hefyd yn ymwneud ag apwyntiadau brechu. Byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad i weld sut y gallwn ni ddylanwadu ar y Post Brenhinol ar hyn, os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n credu i chi ddweud eich bod chi eisoes wedi cyflwyno sylwadau'n uniongyrchol i'r Dirprwy Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae'n amlwg bod y Post Brenhinol yn fater a gedwir yn ôl, ond mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn dibynnu ar wasanaethau post mewn ffordd yr ydych chi newydd ei disgrifio, ac, yn fy marn i, yn ystod y pandemig, rydym ni wedi dibynnu arnyn nhw hyd yn oed yn fwy. Rwy'n siŵr, os ydych chi'n cyflwyno sylwadau i'r Dirprwy Weinidog, y bydd hi'n ymateb i chi.
Rwy'n falch iawn o groesawu yn ôl Altaf Hussain.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd a Gweinidog. Rwy'n ddiolchgar, ac mae'n braf bod nôl yma, yn eich plith. Gweinidog, byddwch chi'n ymwybodol o adroddiad archwilio mewnol diweddar yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr a ddatgelodd daliad o £316,192 i gwmni ar gyfer gwaith inswleiddio cartrefi, lle'r oedd y cyfarwyddwr yn aelod o gabinet y cyngor Llafur, a lle cafodd yr arian ei dalu i gwmni na allai'r archwilwyr sefydlu ei fod wedi bodoli mewn gwirionedd. Rwy'n credu y dylai Heddlu De Cymru fod yn ymchwilio iddo. Rwyf i wedi galw arnyn nhw i wneud hynny. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn y Siambr, yn nodi sut y caiff polisïau caffael Cymru eu tynhau i leihau'r posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd eto? Diolch yn fawr.
Diolch, ac mae'n braf iawn eich gweld chi nôl yn y Siambr. Rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud y peth iawn drwy ysgrifennu'n uniongyrchol at yr awdurdod lleol. Mae caffael yn fater pwysig, mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyflawni darn mawr o waith arno yn ein rhaglen lywodraethu, ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddai modd ei ystyried.
Trefnydd, a gaf i ddatganiad ar gysylltedd digidol mewn ardaloedd gwledig, sy'n effeithio'n fawr, wrth gwrs, ar drigolion yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru? Fel rydym ni i gyd yn gwybod, mae'r arian ychwanegol, y top-up, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei roi i'r system talebau gan Lywodraeth San Steffan yn dod i ben ddydd Iau yr wythnos yma, ac mae hynny, wrth gwrs, yn peri ansicrwydd mawr iawn, achos dwi wedi cael nifer o bobl yn cysylltu â fi dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yn cwyno bod y ddarpariaeth mewn rhai ardaloedd gwledig yn dal i fod yn anfoddhaol. Mae cynghorau cymuned, er enghraifft, wedi cysylltu i nodi nad oes modd iddyn nhw gynnal cyfarfodydd rhithiol neu hybrid oherwydd diffyg cysylltedd band llydan digonol, ac unigolion, wrth gwrs, a busnesau hefyd wedi cysylltu yn cwyno yn yr un modd. Nawr, dwi'n gwybod bod y top-up yma yn dod i ben ac rydych chi'n adolygu'r system talebau. Felly, a oes modd i ni gael datganiad ynglŷn â beth ydy bwriadau'r Llywodraeth i gefnogi'r math o gymunedau sy'n dal yn dioddef, ar gyfer sicrwydd i'r dyfodol? Diolch yn fawr.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, unwaith eto, yn ystod y pandemig cafodd sylw ei dynnu ato, yr anawsterau yn rhai o'n hardaloedd gwledig yn arbennig—ac nid ardaloedd gwledig yn unig, ond ardaloedd trefol hefyd. Ond, rwy'n credu, gydag ardaloedd gwledig, yn sicr rwyf i wedi cael fy lobïo gan fusnesau bach, er enghraifft, nad ydyn nhw wedi gallu gwella eu gwerthiant ar y wefan yn y ffordd y bydden nhw wedi dymuno ei wneud. Felly, rwy'n credu ei fod yn fater pwysig. Byddwch chi'n ymwybodol, unwaith eto, fel Llywodraeth, ein bod ni wedi gorfod llenwi'r bylchau a gafodd eu gadael gan Lywodraeth y DU o ran darparu mwy o fand eang, ac fel y dywedwch chi, mae adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Rwyf i wedi cael llawer o gwynion am fwyd ysbyty, nid yn unig yn Ysbyty Treforys, sy'n agos iawn ataf i, ond mewn ysbytai ledled de Cymru. Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar fwyd mewn ysbytai, i gynnwys ansawdd, maint, sut y mae rheolwyr wardiau'n gweithredu'r polisi sy'n caniatáu i berthnasau a ffrindiau helpu'r rhai y mae angen help arnyn nhw i fwyta—cefais i wybod, er ei fod yn bolisi gan y byrddau iechyd, ac yn bolisi gan Lywodraeth Cymru, erbyn iddo fynd i lawr i reolwyr wardiau, mae'r polisi hwnnw'n diflannu—a hefyd faint o fwyd gwastraff sydd, ac rwy'n deall gan bobl sydd wedi bod yn ymweld â chleifion yn yr ysbyty bod hwnnw'n sylweddol.
Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Rydym ni wedi cael datganiadau diweddar am fetro'r gogledd a Chaerdydd, a gawn ni un ar greu metro dinas-ranbarth bae Abertawe? Rwy'n sylweddoli ei fod yn llawer mwy cymhleth, ac mae'r Dirprwy Lywydd yn sylweddoli hynny hefyd, oherwydd nid yw teithio yn ein hardal ni'n llinellol. Mae cryn dipyn o Gymoedd i fyny ac i lawr o Abertawe i fyny i gymunedau'r Cymoedd, a hefyd o sir Gaerfyrddin i Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a hefyd y ffordd arall. Nid yw'n unffordd, sef yr hyn y mae metro bae Caerdydd yn bennaf. Mae'n amlgyfeiriad ac mae hynny'n ei wneud yn llawer mwy cymhleth, ond nid yw'n ei wneud yn llai o broblem i mi a fy nghyd-Aelodau, fel chithau, Dirprwy Lywydd, a'r Aelod sy'n cynrychioli Castell-nedd.
Ni fydd hynny'n ennill mwy o amser i chi, Mike. [Chwerthin.]
Diolch, Mike. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn am fwyd mewn ysbytai. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roeddwn i bob amser yn arfer dweud bod bwyd yr un mor bwysig â meddygaeth. Mae'n bwysig iawn bod gan gleifion fwyd o ansawdd priodol, ac mae'n fater y gwn i fod y Gweinidog iechyd yn ei ystyried. Rydym ni hefyd yn ystyried caffael. Af i nôl at ateb cynharach ynghylch caffael. Mae hynny'n rhan o'r broses y mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn edrych arni hefyd. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod NHS Improvement England yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o arlwyo'r GIG ar hyn o bryd, a gwn i fod cynrychiolwyr GIG Cymru yn mynychu'r cyfarfodydd adolygu hynny. Pan fydd yr adolygiad hwnnw wedi'i gwblhau, bydd yn cael ei asesu, ac yna, yma yng Nghymru, byddwn ni'n ystyried pa arferion gorau a chanllawiau y bydd modd eu cyflwyno a'u mabwysiadu ledled GIG Cymru.
O ran Dinas-ranbarth bae Abertawe, neu Metro bae Abertawe a gorllewin Cymru, rwy'n credu, yw'r teitl cywir, rydym ni yng nghamau cynnar iawn datblygu'r tri phrosiect metro—gogledd Cymru, de Cymru, a bae Abertawe. Mae'n rhan bwysig o gyflawni ein targedau newid dulliau teithio. Os ydym ni eisiau cyrraedd ein targedau sero-net, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud hyn, ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru i'w gyflymu.
Trefnydd, rwy'n sylwi bod llawer o fy nghyd-Aelodau'n gofyn am ddatganiadau yn ystod y datganiad busnes, ond ni welaf i byth y datganiadau hynny, a dweud y gwir, yn dod o hyn. Ond rwy'n mynd i ofyn yn ffurfiol am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth, Lee Waters, a hoffwn i hefyd gofnodi fy siom fwyaf nad oedd ein Dirprwy Lywydd yn gweld yn dda i ganiatáu i hwn fod yn gwestiwn brys.
Nawr, mae fy nghwestiwn yn ymwneud—[Torri ar draws.] Nid oeddech chi yno, roeddwn i yno.
Mae'n ymwneud â'r oedi difrifol ac anhrefnus yr oedd cannoedd o deithwyr yn ei wynebu ddoe oherwydd digwyddiad gweithredol ar y rheilffyrdd yn y Fenni. Cafodd tri thrên, sawl cerbyd, a channoedd o deithwyr eu gadael yn sownd ar y trenau hyn mewn tywydd cynnes heb unrhyw awyru. Y trên cyntaf, cawsom ni ganiatâd i fynd ar y platfform am ychydig oriau. Gadewais i fy swyddfa gydag aelod o staff am 1 o'r gloch. Cyrhaeddais i fy fflat yma, yng Nghaerdydd, am 10 o'r gloch neithiwr. Dyma'r sefyllfa fwyaf erchyll i mi ei gweld erioed: pobl yn crio, pobl yn awyddus i gyrraedd pen eu taith.
Mewn anobaith, aeth fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd a minnau i Twitter, gan gopïo'r Dirprwy Weinidog, ac aeth awr fesul awr heibio heb ddim. A dweud y gwir, byddai gennyf i gywilydd mawr petai fi oedd y Dirprwy Weinidog, neu i beidio â mynd at Twitter a dweud, 'Edrychwch, fe wnaf lansio ymchwiliad ynglŷn â'r hyn sydd wedi mynd o'i le.' Ond cawsom ni ein gadael heb fwyd, heb faeth, heb ymborth na dim.
Mae angen i chi orffen nawr.
Rwyf yn. Fel y gwelwch chi, rwy'n eithaf gofidus am y peth, oherwydd rwy'n adnabod rhywun a gollodd angladd, rhywun sydd wedi colli ei swydd, ac a dweud y gwir, roedd gan bawb, pawb stori drist iawn. Mae cael eich oedi am awr neu ddwy, mae'r pethau hyn yn digwydd. Rydym ni'n sôn am bump neu chwe awr, yn sownd ar drên, yn methu gwneud dim. Nawr, rwy'n credu ei bod yn fater mor ddifrifol ddoe y dylai'r Dirprwy Weinidog fod wedi dod ymlaen y bore yma i wneud datganiad mewn gwirionedd. Felly, nid eich bai chi, Trefnydd, ac nid wyf i'n ddig gyda chi, ond rwyf i eisiau cael datganiad gan Lee Waters a byddaf i'n mynd ar ei drywydd, a byddaf i'n gofyn a gofyn eto. Mae pobl Cymru, teithwyr hyd yn oed o Loegr—
Mae'r Aelod wedi gwneud ei phwynt. Mae hi wedi mynd ymhell y tu hwnt i'w hamser.
Iawn. Maen nhw'n haeddu rheswm dros yr hyn a ddigwyddodd ddoe ac rwyf i'n gobeithio'n fawr y bydd yn lansio ymchwiliad trylwyr, oherwydd yn bendant: a oes gennyf i unrhyw hyder yn awr yn Trafnidiaeth Cymru a gallu'r Llywodraeth hon yng Nghymru i fy nghael i yma o fy etholaeth? Nac oes.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn daith anodd iawn ddoe i chi ac i lawer o bobl eraill, ac rwyf wedi siarad ag Aelodau eraill a oedd ar y trên hwnnw. Rwyf i hefyd wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa ac sy'n cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru y prynhawn yma ynghylch y mater hwn. Mae'n ateb cwestiynau yfory, y Dirprwy Weinidog, yn y Siambr hon, ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi bryd hynny, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny'n gyflymach o lawer a byddwch chi'n gallu cael rhai atebion. Rwy'n credu, o safbwynt Trafnidiaeth Cymru, fod ymchwiliadau cychwynnol wedi dangos mai mater gweithredol annisgwyl oedd yn gyfrifol amdano, ac maen nhw'n gweithio o'i gwmpas.
Nid wyf i'n dweud ei fod yn dderbyniol o gwbl; rwy'n llwyr werthfawrogi—. Rwyf i wedi gwneud y daith honno lawer, lawer gwaith fy hun. Roeddwn i ar drên fore ddoe, felly gallai wedi bod yn fi fy hun. Felly, nid wyf i'n cymryd dim i ffwrdd o gwbl, ond mae'n rhaid i ni weithio drwy'r broses ac mae'n rhaid i ni ddarganfod beth aeth o'i le. Mae'n destun gofid mawr; yr oedd yn amlwg yn brofiad gwael iawn i deithwyr.
Mae'n rhaid imi ddweud, neithiwr oedd y profiad gwaethaf, mwyaf erchyll dwi erioed wedi ei gael o ddefnyddio trên yng Nghymru. Roedd y siwrnai, oedd i fod yn dair awr, yn siwrnai o saith awr. Buodd fy nhrên i yn llonydd am bedair awr: un trên; dwi'n gwybod am bedwar trên oedd yn yr un sefyllfa. Dim gwybodaeth, achos doedd yr uchelseinydd yn fy ngherbyd i ddim yn gweithio. Dyna gyflwr y stoc sydd gennym ni erbyn hyn. Dim cludiant amgen. Er ein bod ni wedi aros pedair awr, dim trefniadau i symud y teithwyr. Mi oedd yna bobl yn sâl ar un o'r trenau. Mi oedd yna bobl yn crio ar fy nhrên i. Mi wnaeth yna rywun fethu angladd. Mi oedd rhywun yn poeni am ddyfodol eu gwaith oherwydd eu bod nhw'n hwyr i'w shifft. Roeddwn i'n gwrando ar swyddogion Trafnidiaeth Cymru yn y pwyllgor bythefnos yn ôl yn dweud wrthym ni, 'Ydy, mae'n heriol, ond mae pethau'n gwella.' Chi'n gwybod beth? Dwi ddim yn credu y gallaf i gredu gair maen nhw'n ei ddweud wrthyn ni ragor. Dwi'n sicr ddim yn teimlo bod gyda fi ffydd ynddyn nhw ar hyn o bryd.
Roeddwn i'n clywed bod yna broblemau eto bore yma: trenau o'r gogledd i'r de yn hwyr, yn cael eu canslo. Mi ges i nifer o bobl yn cysylltu â fi fore dydd Gwener, miloedd o bobl yn trio teithio'n ôl i ogledd Cymru ar ôl y gêm nos Iau: dau gerbyd. Dau gerbyd. Doedd Trafnidiaeth Cymru ddim yn sylweddoli bod y gêm yn digwydd?
Felly a gawn ni ddatganiad? A datganiad—nid cyfle i ofyn cwpwl o gwestiynau atodol fory—gan y Dirprwy Weinidog, oherwydd dwi eisiau iddo fe wneud tri pheth: yn y lle cyntaf, mae'n rhaid iddo fe ymddiheuro i bobl gogledd Cymru am gyflwr y gwasanaeth enbydus dŷn ni'n gorfod ei ddioddef o un dydd i'r llall; yn ail, dwi eisiau iddo fe esbonio i ni fel Senedd beth mae e'n mynd i wneud i ddatrys y broblem yma yn y tymor byr; ac yn drydydd, mae angen iddo fe esbonio pam ein bod ni'n mynd i orfod aros tan ddiwedd y flwyddyn cyn y gwelwn ni stoc newydd ar y gwasanaeth rhwng y de a'r gogledd. Oherwydd os ydy'r gwasanaeth yn para fel ag y mae e am yr wyth mis tan hynny, wel, fydd yna ddiawl o neb ar ôl yn defnyddio'r trenau yn mynd o'r gogledd i'r de.
Rwy'n credu mai dyna'r pwynt—. Gwnaethoch chi bwynt gwahanol i Janet Finch-Saunders am ddiffyg gwybodaeth yn cael ei darparu, ac rwy'n credu os yw pobl yn deall beth sy'n digwydd, mae hynny bob amser yn helpu'r sefyllfa, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth penodol iawn y dylai'r Dirprwy Weinidog ei dderbyn yn ei gyfarfod y prynhawn yma, a byddaf i'n sicrhau ei fod wedi clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud. Gwnaethoch chi gyfeirio at y cerbydau newydd sydd i fod i ddod ddiwedd y flwyddyn hon—gwerth £800 miliwn—ond, fel y dywedwch chi, mae'n bwysig iawn i ni gyflwyno hynny cyn gynted â phosibl.
Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gawn ni ddatganiad gennych chi fel Gweinidog amaeth, os gwelwch yn dda, neu, yn wir, y Gweinidog economi, am sut ydych chi am hyrwyddo gwlân? Mae gwlân wedi gweld amseroedd anodd iawn yn ddiweddar. Deng mlynedd yn ôl, roedd o'n gwerthu am £1.25 y cilogram, ond dwy flynedd yn ôl, disgynnodd y pris i 15c. Mae'n dda gweld y pris bellach yn cynyddu eto.
Mae yna nifer o gamau, wrth gwrs, i'w cymryd cyn i'r gwehyddion gael gafael ar y gwlân, o'r cneifio i'r gwahanu—mae yna dros 10 gradd wahanol o wlân ar bob fferm, er enghraifft—ac yna y glanhau. Mae gwlân yn ddeunydd andros o hyblyg, nid yn unig ei fod yn ddefnydd ardderchog er mwyn gwneud dillad, ond hefyd carpedi ac insiwleiddio. Ond mae llawer iawn mwy na hynny. Mae Prifysgol Bangor wedi gwneud gwaith rhagorol yn edrych ar botensial arall gwlân, o'i ddefnyddio fel deunydd pecynnu, i ddefnyddio nodweddion cemegol y gwlân. Mae gwlân yn amsugno fformaldehyd yn yr amgylchedd, gan wella ansawdd aer, heb sôn am y linoliwm a'r ceratin sydd yn y gwlân a'r ffibrau. Felly, mae'r potensial yn sylweddol a hoffwn glywed pa gamau mae'r Llywodraeth am eu cymryd er mwyn manteisio ar y defnydd hyblyg a gwych yma sydd gennym ni yng Nghymru.
Diolch. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae ffermwyr wedi gweld gostyngiad mawr i'r pris y maen nhw wedi bod yn ei gael am eu gwlân dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf i wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar hyn, a dweud y gwir, yn hytrach na Gweinidog yr Economi. Oherwydd un o'r awgrymiadau a ddaeth i'r amlwg oedd y gallem ni edrych ar sut y gallem ni wneud mwy o ddefnydd o wlân yn y stoc dai yma yng Nghymru. Cefais gyfarfod â Gwlân Prydain a dweud y gwir—cynrychiolwyr o'r fan honno. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf nad inswleiddio oedd y peth gorau ar gyfer y gwlân mewn gwirionedd; ond roedd carpedi yn sicr. Ac efallai na ddylwn i ddweud hyn heddiw, ond peth arall yr oedden nhw wir yn meddwl y gallem ni ei wneud yma yng Nghymru oedd ei ddefnyddio yn ein trenau, yn y seddi ar gyfer ein trenau. Felly, mae hwnnw yn faes yr wyf i'n edrych arno gyda'r Gweinidog hefyd. [Torri ar draws.] Fe wnes i betruso cyn dweud hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn, gan ein bod yn gweld gostyngiad sylweddol i bris ein gwlân. Felly, rydym ni'n parhau i edrych ar opsiynau, yn parhau i weithio gyda Gwlân Prydain.
Gwnaed darn o waith ledled y DU, gyda holl wledydd y DU, ynghylch defnydd pellach, ond dyna oedd y ddau faes: carpedi a thrafnidiaeth—seddi yn bennaf, yn ein trenau. Rydym ni bob amser yn agored iawn i awgrymiadau, a gwn fod y Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn awyddus iawn i weld a ellir ei ddefnyddio ym maes tai mewn gwahanol ffyrdd. Ond, yn ddiddorol, fel y dywedais, nid inswleiddio oedd y ffordd yr oedden nhw'n meddwl y dylid ei ddefnyddio.
Diolch i'r Trefnydd. Cyn inni symud ymlaen,
Galwaf ar Altaf Hussain i roi eglurhad.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i wneud fy natganiad o fuddiant, gan fy mod i'n gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Diolch.
Diolch yn fawr.