2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2022.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau Datganiad y Gwanwyn 2022 gan y Canghellor i Gymru? OQ57906
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae degawd o fesurau cyni yn golygu nad yw’r cartrefi tlotaf yng Nghymru yn gallu ymdopi â’r argyfwng costau byw. Yn natganiad y gwanwyn, roedd gan y Canghellor gyfle i roi cymorth hanfodol i’r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Gadael y bobl hynny i lawr wnaeth e, ac roedd hynny’n anfaddeuol.
Mi fethwyd cyfle, do, achos fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim byd, er enghraifft, yn natganiad y gwanwyn i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod Cymru'n cael ei tharo'n galetach yn hynny o beth gan fod gennym ni stoc dai llai effeithlon o ran ynni. Mae gennym ni hefyd mwy o gartrefi oddi ar y grid, ac, wrth gwrs, rŷn ni yng Nghymru yn talu cyfraddau uwch o daliadau sefydlog am ein trydan—y standing charges yma. Er bod gogledd Cymru yn gyfoethog mewn ynni, er ein bod ni'n cynhyrchu mwy o ynni nag yr ŷn ni'n ei ddefnyddio, er ein bod ni'n un o allforwyr ynni mwyaf yn y byd, mae standing charges yn y gogledd am drydan yn mynd i gynyddu 102 y cant, tra bod Llundain dim ond yn cynyddu 38 y cant. Ydych chi, felly, yn cytuno â fi, Brif Weinidog, bod datganiad y gwanwyn yn dangos yn glir i ni, mewn gwirionedd, bod yna ddim difidénd i Gymru o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, yn enwedig pan fo'n dod i'r rhai sy'n gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwyta?
Dwi'n cytuno gyda'r Aelod. Roedd cyfle da gyda'r Canghellor ddydd Mawrth diwethaf i ddangos beth mae'r Deyrnas Unedig yn gallu ei wneud i helpu pobl mewn tlodi, ac i wneud hwnna mewn ffordd sy'n deg ar draws y Deyrnas Unedig i gyd. Mae'n siomedig nad oedd y Canghellor yn fodlon cymryd y cyfle i ddangos y pwerau sydd yn ei ddwylo e i helpu pobl—pobl yn y gogledd, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, a phobl sy'n dioddef o broblemau yn y maes ynni ac yn y maes bwyd. Roedd cyfle iddo fe wneud y gwaith sydd gyda fe i'w wneud, ond, fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, dyw e ddim wedi gwneud pethau'n deg i bobl yma yng Nghymru, neu dros y Deyrnas Unedig.
Prif Weinidog, prin fod y Canghellor wedi eistedd yn ôl i lawr ar y meinciau gwyrdd cyn i'r feirniadaeth chwalu ei ddatganiad ar gyllideb y gwanwyn, ac nid dim ond gan rai ASau Torïaidd ar y meinciau cefn y daeth; daeth gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan y Resolution Foundation, gan Martin Lewis, yr arbenigwr arbed arian, a edrychodd ar effaith y baich treth cynyddol a'r baich ychwanegol ar y bobl dlotaf yn ein gwlad. Mae'r rhagolygon bellach yn dweud y bydd un rhan o bump o boblogaeth y DU mewn tlodi llwyr—tlodi llwyr, 12.5 miliwn o bobl. Mae'n edrych fel y bydd incwm eu haelwydydd yn gostwng ar y raddfa fwyaf mewn unrhyw Senedd ar gofnod a bydd y baich treth ar y lefel uchaf ers 70 mlynedd, tra bydd y tlotaf yn mynd yn dlotach byth. Bydd teulu nodweddiadol tua £1,100 yn waeth eu byd eleni. Ac ar ôl toriadau blaenorol i gredyd cynhwysol, rydym yn falch o weld cynnydd o 3 y cant—
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn.
Gan gydnabod bod cynnydd o 8 y cant o ran chwyddiant ar hyn o bryd, mae'n ei ddileu yn llwyr. Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon ei bod hi weithiau yn teimlo fel nofio yn erbyn llanw Llywodraeth y DU. Prif Weinidog, sut gallwn ni helpu pobl i nofio yn erbyn y llanw, i gadw eu pennau uwchben y dŵr? Gan fod rhai pobl yn boddi yn awr, a'n hetholwyr ni yw'r rhain.
Ni allwn gytuno'n fwy â Huw Irranca-Davies yn ei ddadansoddiad o effaith datganiad y gwanwyn. Mae'r Canghellor yn dweud ei fod wedi amddiffyn y gwaethaf eu byd; mae'n ddisynwyr pan edrychwch chi ar ffigurau'r arian y mae wedi ei ddarparu—bydd £1 ym mhob £3 yn mynd i hanner isaf y dosbarthiad incwm, a bydd £2 ym mhob £3 yn mynd i'r rhai sydd â'r mwyaf. Nid yw hynny yn ffordd o helpu'r bobl y soniodd Huw Irranca-Davies amdanyn nhw, sy'n cael trafferth gyda hanfodion bwyd a thanwydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cyson i ragori ar y symiau canlyniadol a ddarparwyd i ni. Yr wythnos diwethaf dywedodd Canolfan Llywodraethiant Cymru fod y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd yn llawer iawn mwy hael yn y cymorth yr ydym ni wedi gallu ei gasglu nag unrhyw Lywodraeth arall ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn yn gwneud yn siŵr, er enghraifft, fod y £150 sydd ar gael i helpu pobl gyda'u treth gyngor yn mynd i bawb a ddylai dalu'r dreth gyngor, pa un a ydyn nhw'n talu bil ai peidio, ac felly bydd yr arian hwnnw yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.
Yr wythnos diwethaf darparodd y Gweinidog addysg £100 yn ychwanegol i deuluoedd dalu cost y diwrnod ysgol. Bydd yr arian hwnnw yn aros ym mhocedi'r teuluoedd hynny a bydd ar gael i'w helpu gyda'r costau eraill y maen nhw'n eu hwynebu yn awr. Ac mae hynny heb sôn am y cymorth yr ydym ni wedi ei roi gyda biliau tanwydd—£200 i deuluoedd yn ystod y gaeaf hwn, a mwy i ddod yn ddiweddarach eleni. Wrth gwrs, byddem ni'n hoffi pe gallem ni wneud mwy, ond Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y rhwymedigaeth sylfaenol. Y Canghellor sydd â'r ysgogiadau mawr hynny, y system dreth a budd-daliadau, sy'n gyrru cymorth i bobl sy'n byw ar fudd-daliadau sylfaenol neu mewn gwaith â chyflog isel. Dyna oedd methiant datganiad y gwanwyn, ac mae'n fethiant a ddangosodd Ganghellor a oedd yn barod i wastraffu yn ddidrugaredd gyfle i helpu, yn fy marn i.
Nid oeddwn i'n disgwyl i'r Aelodau yn y Siambr hon groesawu datganiad y gwanwyn, ond roedd llawer o bethau cadarnhaol dros ben, er nad oes gen i gyfle i'w codi nhw yma. [Torri ar draws.] Mae'r cyfuniad o argyfyngau digynsail—pandemig COVID-19, ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin—wedi arwain at bwysau chwyddiant sylweddol sydd wedi eu teimlo ar draws cymdeithas—[Torri ar draws.]
Hoffwn glywed y cwestiwn gan yr Aelod.
Er bod mwy i'w wneud i gynorthwyo pobl dros y misoedd nesaf, rwy'n croesawu'r camau y mae'r Canghellor wedi eu cymryd a fydd yn helpu i leddfu'r baich ar deuluoedd ledled y DU. Yn wir, fe wnaeth Martin Lewis gydnabod manteision codi'r trothwy yswiriant gwladol. Dirprwy Lywydd, bydd dyblu'r gronfa cymorth i aelwydydd yn Lloegr, a amlinellwyd yr wythnos diwethaf, yn arwain at symiau canlyniadol o tua £25 miliwn i Gymru, a dylid defnyddio hwn i ddarparu'r cymorth ychwanegol y mae'r Prif Weinidog yn dymuno ei roi i bobl yng Nghymru sy'n wynebu anawsterau. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw—
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
—a nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddefnyddio eu gwybodaeth leol i helpu'r rhai mewn angen. Yn wir, maen nhw eisoes yn darparu amrywiaeth o wasanaethau dewisol. Prif Weinidog, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael ynghylch sut i ddyrannu'r cyllid hwn, y £25 miliwn ychwanegol hwn, i gynghorau yng ngoleuni'r pwysau presennol? A wnewch chi ystyried llacio meini prawf cymhwyso rhai o'r cynlluniau cymorth yng Nghymru fel y gall mwy o bobl gael gafael ar gymorth? Diolch yn fawr.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu'r £25 miliwn hwnnw, gan ein bod ni wedi gwario dwywaith y swm a roddwyd i ni yn y gronfa cymorth i aelwydydd ddiwethaf a gyhoeddodd y Canghellor. Rydym ni wedi cyhoeddi gwerth £340 miliwn o gymorth i aelwydydd i ymateb i'r argyfwng costau byw, ac fe wnaethom ni roi £10 miliwn arall yn y grant cynnal refeniw yn y setliad terfynol a drafodwyd o flaen y Senedd ychydig wythnosau yn ôl. Ond mae £25 miliwn, Dirprwy Lywydd, yn swm pitw yn wyneb yr anawsterau y mae teuluoedd yng Nghymru yn eu gweld o'u blaenau bellach. Nid yw hynny yn mynd i ddatrys problemau pensiynwyr sy'n cael eu gadael â chynnydd o 3 y cant i'w budd-daliadau tra bod chwyddiant yn 8 y cant. Nid yw'n mynd i helpu'r cannoedd o filoedd o aelwydydd hynny yng Nghymru a gollodd £20 bob wythnos o'u credyd cynhwysol. Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn ceisio defnyddio'r adnoddau sydd gennym ni i helpu'r teuluoedd hynny, ac mae hynny yn cynnwys, fel y dywedodd yr Aelod, gweithio gyda'n hawdurdodau lleol ac edrych ar y meini prawf sy'n gysylltiedig â'r systemau yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith i helpu'r teuluoedd hynny. Ond mae unrhyw awgrym mai £25 miliwn yw'r ateb i'r problemau sy'n wynebu teuluoedd ledled Cymru yn dangos i ba raddau y mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi colli cysylltiad â realiti'r bywydau y mae'n rhaid i gynifer o bobl eu byw.