Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:35, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Ar thema debyg, cyfeiriodd Samuel Kurtz at ei etholwr yn gynharach, gan ddisgrifio ADY fel 'loteri cod post', ac fel y gwyddoch yn iawn, un o nodau craidd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw system ddwyieithog. Codwyd pryderon yn ystod taith y Ddeddf drwy'r Senedd, yn bennaf ynghylch argaeledd gwasanaethau ADY drwy gyfrwng y Gymraeg a gallu'r system i ateb y galw. Hynny yw, a yw'r gweithlu angenrheidiol ar waith i sicrhau mynediad cyfartal at ddarpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg.

O ran y ddarpariaeth bresennol, lle mae angen cymorth mwy arbenigol, fel cymorth gan seicolegwyr addysg neu therapyddion lleferydd ac iaith, nid yw hyn bob amser ar gael yn Gymraeg, oherwydd diffyg niferoedd digonol o weithwyr proffesiynol hyfforddedig mewn ardal leol benodol. Unwaith eto, mae hyn yn amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Rwy'n croesawu'r cyllid sydd wedi'i ddarparu ar gyfer ADY, gan gynnwys y £18 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ond hoffwn ofyn i'r Gweinidog: faint o fuddsoddiad sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y system ADY yn wirioneddol ddwyieithog, drwy gynyddu capasiti canolfannau addysgol a chynyddu'r gweithlu ADY cyfrwng Cymraeg?