Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 30 Mawrth 2022.
Wel, credaf fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am y—. Yn amlwg, mae'n hanfodol gallu darparu gwasanaethau a chymorth anghenion dysgu ychwanegol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Felly, mae'r cwestiwn am recriwtio yn rhan o gyfres ehangach o heriau yr ydym wedi'u trafod yn y Siambr yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan o'r cynllun recriwtio y byddwn yn ei gyflwyno yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Ar fater seicolegwyr addysg yn benodol, rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau bod yr arian a ddarperir i gefnogi'r maes yng Nghymru hefyd yn annog y rhai sy'n ei ymarfer drwy astudio i barhau i ymarfer yng Nghymru, a gobeithiwn y bydd hynny'n denu siaradwyr Cymraeg hefyd yn amlwg, ac i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac ymarfer yng Nghymru, oherwydd mae'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio yn y maes hwnnw yn her wirioneddol.
Mewn perthynas â—.